Yr amgylchedd hanesyddol morol
Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (Saesneg yn unig)
Mae’r Ddeddf hon yn nodi’r gofyniad i gael cynllun morol cenedlaethol ac yn cadarnhau mai Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod cynllunio morol i Gymru. Hefyd, mae’r Ddeddf yn rhoi trefn trwyddedu morol ar waith mewn perthynas â nifer o weithgareddau. Bydd effaith unrhyw weithgarwch arfaethedig ar yr amgylchedd hanesyddol morol yn un o amryw o ffactorau y rhoddir ystyriaeth iddynt pan fydd cais am drwydded forol yn cael ei ystyried.
Cyhoeddwyd Cynllun Morol Cenedlaethol cyntaf Cymru yn 2019.
Mae sawl darn o ddeddfwriaeth yn darparu diogelwch i asedau hanesyddol unigol yn yr amgylchedd morol.
Deddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979 (Saesneg yn unig)
Mae’r Ddeddf hon yn diogelu llongddrylliadau islaw’r marc penllanw cymedrig rhag i unigolion anawdurdodedig ymyrryd â nhw. Mae adran 1 yn darparu diogelwch i longddrylliadau y credir eu bod o bwys hanesyddol, archaeolegol neu artistig, neu i unrhyw wrthrychau a gynhwysir (neu a gynhwysid) ynddynt. Mae chwe safle yn nyfroedd Cymru wedi’u dynodi dan adran 1 o Ddeddf 1973, sef:
- Safle Llong Ddrylliedig Lychlynnaidd Smalls, Sir Benfro
- Y Mary, Skerries, Ynys Môn
- Llong Ddrylliedig Pwll Fanog, Afon Menai, Ynys Môn
- Llong Ddrylliedig Tal-y-Bont, Abermaw, Gwynedd
- Y Diamond, Abermaw, Gwynedd
- Llong Danfor Resurgam, Y Rhyl, Sir Ddinbych.
Bydd arnoch angen trwydded gan Cadw i ddeifio neu ymgymryd ag unrhyw weithgareddau ar unrhyw un o’r safleoedd hyn.
Mae adran 2 o Ddeddf 1973 yn darparu diogelwch i longddrylliadau yr ystyrir eu bod yn beryglus oherwydd eu cynnwys. Gweithredir polisi gwahardd llym a chynhelir ardal waharddedig o amgylch y llongddrylliadau hyn.
Deddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979 (Saesneg yn unig)
Mae’r Ddeddf hon, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016, yn darparu ar gyfer cofrestru unrhyw beth neu grŵp o bethau sy’n dangos gweithgarwch dynol yn y gorffennol. Gall safleoedd tanddwr o fewn terfyn 12 milltir forol dyfroedd tiriogaethol gael eu cofrestru, yn ogystal â’r rheiny hyd at ac uwchlaw’r marc penllanw.
Gallwch ddeifio ar safle tanddwr cofrestredig, ond ni allwch darfu arno heb gydsyniad heneb gofrestredig.
Deddf Diogelu Olion Milwrol 1986 (Saesneg yn unig)
Mae’r Ddeddf hon yn ei gwneud yn drosedd ymyrryd â malurion unrhyw awyren filwrol neu long ddynodedig sydd wedi’i dryllio, wedi suddo neu sy’n sownd, heb drwydded. Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn gyfrifol am ddynodi awyren neu long yn ‘fan gwarchodedig’ neu’n ‘safle a reolir’.
Gall awyren neu long a gollwyd tra ei bod ar wasanaeth milwrol ar ôl 4 Awst 1914 gael ei dynodi’n fan gwarchodedig. Er eich bod yn rhydd i ddeifio ar fan gwarchodedig, mae angen trwydded gan y Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer unrhyw weithgarwch a fyddai’n achosi aflonyddwch ffisegol.
Ar y llaw arall, mae safle a reolir yn ardal sydd wedi’i dynodi’n benodol ac sy’n cynnwys olion awyren neu long a gollwyd yn y 200 mlynedd diwethaf. Mae angen trwydded gan y Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer yr holl weithrediadau ar safle a reolir, gan gynnwys deifio.
Deddf Llongau Masnach 1995 (Saesneg yn uniq)
Mae Deddf 1995 yn ei gwneud yn ofynnol hysbysu’r Derbynnydd Llongau Drylliedig ynghylch holl ddeunydd llongddrylliadau, pa un a yw’n cael ei adfer o ddyfroedd tiriogaethol y Deyrnas Unedig neu’n cael ei gludo i’r DU o’r tu allan. Bydd y derbynnydd yn ceisio dod o hyd i berchennog y deunydd neu gartref mewn amgueddfa i unrhyw arteffactau.
Mae pedwar prif fath o longddrylliad yn y DU.
Nwyddau a gollwyd o long oedd yn suddo ac y gellid eu hadfer gan eu bod yn arnofio (flotsam)
Nwyddau a daflwyd i’r môr yn fwriadol i ysgafnhau llwyth llong oedd mewn perygl o suddo (jetsam)
Nwyddau a daflwyd i’r môr o long oedd yn suddo ac y gellid eu hadfer gan fod fflotiau wedi’u cysylltu â nhw (lagan)
Nwyddau neu longau a adawyd yn y môr heb obaith o’u hadfer (adfail)
Gall llongddrylliad fod:
- wedi’i ganfod yn y môr neu ar y môr
- wedi’i olchi i’r lan gyda’r llanw
- wedi’i adfer o safle llongddrylliad.