Ceisiadau cynllunio
Rydym yn darparu asesiad i awdurdodau cynllunio lleol o effaith debygol cynigion cynllunio ar:
- henebion cofrestredig a’u lleoliadau
- parciau a gerddi hanesyddol cofrestredig a’u lleoliadau
- tirweddau hanesyddol cofrestredig
- Safleoedd Treftadaeth y Byd.
Nid ydym yn darparu asesiadau o effaith debygol cynigion cynllunio ar adeiladau rhestredig neu ardaloedd cadwraeth gan mai’r awdurdodau cynllunio lleol sy’n ystyried y rhain.
Rydym yn asesu ar sail polisi a chanllawiau defnydd tir Llywodraeth Cymru yn:
- Polisi Cynllunio Cymru
- Nodyn Cyngor Technegol 24: Yr Amgylchedd Hanesyddol
- Egwyddorion Cadwraeth ar gyfer Rheoli Amgylchedd Hanesyddol Cymru mewn Ffordd Gynaliadwy
- Lleoliad Asedau Hanesyddol yng Nghymru.
Nid ydym bob amser yn gwrthwynebu ceisiadau yr ydym yn ystyried fel rhai sy’n debygol o gael effaith niweidiol ar yr amgylchedd hanesyddol. Er enghraifft, efallai y bydd ein hatebion ymgynghori yn esbonio sut y gellir mynd i’r afael â’n pryderon am effaith y cais.
Pryd mae eraill yn ymgynghori â Cadw?
Does dim angen ymgynghori â ni ar bob cais cynllunio yng Nghymru, ond mae’n rhaid gwneud hynny yn yr achosion canlynol:
- datblygiad sy’n cael effaith ffisegol uniongyrchol ar heneb gofrestredig
- datblygiad sy’n debygol o fod yn weladwy o heneb gofrestredig ac sy’n bodloni un o’r meini prawf a ganlyn
a) ei fod o fewn pellter o 0.5 cilomedr o unrhyw bwynt ar berimedr heneb gofrestredig
(b) ei fod o fewn pellter o 1 cilomedr o berimedr heneb gofrestredig a bod ei uchder yn 15 o fetrau neu ragor, neu fod ei arwynebedd yn 0.2 hectar neu ragor
(c) ei fod o fewn pellter o 2 gilomedr o berimedr heneb gofrestredig a bod ei uchder yn 50 metr neu ragor, neu fod ei arwynebedd yn 0.5 hectar neu ragor
(d) ei fod o fewn pellter o 3 cilomedr o berimedr heneb gofrestredig a bod ei uchder yn 75 o fetrau neu ragor, neu fod ei arwynebedd yn 1 hectar neu ragor; neu
(e) ei fod o fewn pellter o 5 cilomedr o berimedr heneb gofrestredig a bod ei uchder yn 100 metr neu ragor, neu fod ei arwynebedd yn 1 hectar neu ragor; neu
- datblygiad sy’n debygol o effeithio ar safle parc hanesyddol cofrestredig neu ei leoliad
- datblygiad o fewn tirwedd hanesyddol gofrestredig y mae angen Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol ar ei gyfer; neu
- datblygiad sy’n debygol o gael effaith ar werth byd-eang eithriadol Safle Treftadaeth y Byd.
Mae’r holl fanylion am pryd ddylai awdurdod cynllunio lleol ymgynghori â ni i’w gweld yn Atodlen 4 Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2016.