Skip to main content

Asesiadau o’r Effaith ar Dreftadaeth

Mae asesiad o’r effaith ar dreftadaeth yn broses strwythuredig i sicrhau y byddwch yn ystyried arwyddocâd eich ased hanesyddol pan fyddwch yn datblygu ac yn llunio cynigion ar gyfer newid.  Mae’n rhan graidd o’r broses ddylunio, sy’n profi a yw eich cynigion ar gyfer newid ased hanesyddol yn briodol drwy asesu eu heffaith ar ei arwyddocâd.  Mae’n helpu i sicrhau bod yr hyn sy’n bwysig ynglŷn â’ch ased hanesyddol yn cael ei gynnal, neu hyd yn oed ei wella, pan fyddwch yn gwneud unrhyw newidiadau.

Mae’n rhaid i chi gynnal asesiad o’r effaith ar dreftadaeth a llunio datganiad o’r effaith ar dreftadaeth ym mhob achos lle mae angen cael caniatâd adeilad rhestredig neu ganiatâd ardal gadwraeth ar gyfer eich cynigion.  Ac efallai y bydd angen i chi gyflwyno datganiad o’r effaith ar dreftadaeth gyda chais am ganiatâd heneb gofrestredig. Bydd hyn yn sicrhau bod gan y rhai sy’n gwneud penderfyniadau y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i ddeall y rhesymau dros eich cynnig a phwyso a mesur y risgiau a’r manteision. Gall gwybodaeth dda, sydd ar gael o’r dechrau, gyflymu penderfyniadau, lleihau costau a sicrhau gwaith dylunio gwell yn gyffredinol.

Ar gyfer asedau hanesyddol eraill hefyd — gan gynnwys parciau a gerddi hanesyddol cofrestredig, Safleoedd Treftadaeth y Byd ac asedau hanesyddol o ddiddordeb lleol arbennig — gall asesu’r effaith ar dreftadaeth eich helpu i ddod o hyd i’r ffordd orau o ddarparu ar gyfer newid.

Mae Asesiadau o’r Effaith ar Dreftadaeth yng Nghymru yn nodi’r egwyddorion cyffredinol i’w hystyried wrth gynllunio newidiadau i asedau hanesyddol a gwneud cais am ganiatâd adeilad rhestredig, caniatâd ardal gadwraeth a chaniatâd heneb gofrestredig.

Mae’r ddogfen ganllaw arfer gorau hon yn bennaf ar gyfer perchnogion, deiliaid ac asiantau asedau hanesyddol er mwyn eu helpu i ddeall pam, pryd a sut i ddefnyddio proses asesu’r effaith ar dreftadaeth ac ysgrifennu datganiadau o’r effaith ar dreftadaeth. Mae hefyd yn dangos sut i ystyried Egwyddorion Cadwraeth ar gyfer Rheoli Amgylchedd Hanesyddol Cymru mewn Ffordd Gynaliadwy (Egwyddorion Cadwraeth) Cadw er mwyn cyflawni newid sensitif o ansawdd uchel, gan ddefnyddio egwyddorion dylunio da.

Dylai awdurdodau sy’n gwneud penderfyniadau hefyd ddefnyddio’r canllawiau hyn ochr yn ochr â Pholisi Cynllunio Cymru, Nodyn Cyngor Technegol 24:  Yr Amgylchedd Hanesyddol a’r Egwyddorion Cadwraeth i lywio eu polisïau eu hunain ac wrth ystyried ceisiadau unigol am ganiatâd cynllunio a chaniatâd adeilad rhestredig, caniatâd ardal gadwraeth a chaniatâd heneb gofrestredig, gan gynnwys trafodaethau cyn ymgeisio.