Skip to main content

Rheoli nodweddion hanesyddol

Mae nodweddion hanesyddol yn gwneud pob lle yn unigryw ac yn cyfrannu at ei bwysigrwydd, yn enwedig i bobl leol.

Drwy nodi nodweddion hanesyddol, gallwn lunio sylfaen dystiolaeth wrthrychol y gellir ei defnyddio at sawl diben gwahanol. Gall ysbrydoli gweithgarwch adfywio, cynllunio, datblygu a dylunio i helpu i gynnal nodweddion unigryw lleol. Hefyd, gall ein helpu i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth am yr hyn rydym yn ei gadw, sut rydym yn gofalu amdano a sut y gallwn dderbyn newid fel ein bod yn dathlu natur unigryw lle ac yn gwneud y defnydd gorau o’i dreftadaeth. Drwy gydweithio, gallwn ddysgu beth sy’n gwneud lle yn arbennig ac annog pawb i ofalu amdano.

Gall nifer o weithgareddau gael effaith ar nodweddion hanesyddol. Gall datblygu ac ailddatblygu, adfywio ac adnewyddu naill ai atgyfnerthu neu danseilio nodweddion hanesyddol. Fodd bynnag, pan mae’r gweithgareddau hyn yn rhoi ystyriaeth i nodweddion hanesyddol lle, maent yn fwy tebygol o gael effaith gadarnhaol ar nodweddion unigryw lleol.

Nid yw ymateb i nodweddion hanesyddol yn ymwneud â diogelu lle heb ei newid a cheisio cadw popeth na chyflwyno haen arall o ddynodi neu ganiatâd, ond mae’n ymwneud â defnyddio etifeddiaeth y gorffennol i integreiddio a chyfrannu at ddatblygiadau newydd a nodi cyfleoedd ar gyfer newid cadarnhaol a gwelliant.

Mae’r ddogfen Rheoli Nodweddion Hanesyddol yng Nghymru yn esbonio pam mae’n bwysig cydnabod nodweddion hanesyddol a’u defnyddio yn sylfaen ar gyfer gwaith cadw, adfywio a chynllunio. Mae’n dangos sut y gall polisïau a rhaglenni i reoli newid gael ysbrydoliaeth o’r gorffennol i helpu i greu a chynnal lleoedd unigryw ar gyfer y dyfodol.

Mae’n annog awdurdodau cynllunio lleol i gynnwys polisïau ynghylch nodweddion hanesyddol lleol yn eu cynlluniau datblygu lleol er mwyn rhoi ystyriaeth iddynt wrth baratoi neu benderfynu ynghylch ceisiadau cynllunio.

Mae Rheoli Nodweddion Hanesyddol yng Nghymru, ynghyd â Rheoli Rhestrau o Asedau Hanesyddol o Ddiddordeb Lleol Arbennig yng Nghymru, yn canolbwyntio ar yr elfennau hynny o dreftadaeth leol sydd o werth mawr i gymunedau lleol, gan gynnwys y rheiny nad ydynt wedi’u dynodi oherwydd eu bod o ddiddordeb neu bwys cenedlaethol arbennig.