Skip to main content

Ein rôl ni ym maes cynllunio

Ein rôl ni yn y system gynllunio yw darparu cyngor am effaith bosib datblygiad arfaethedig ar yr amgylchedd hanesyddol. Bydd y sawl sy’n gwneud penderfyniadau yn ystyried ein cyngor ni law yn llaw â’r holl faterion perthnasol eraill wrth wneud eu penderfyniad.

Rydym yn cynghori:

  • awdurdodau cynllunio lleol
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Yr Arolygiaeth Gynllunio
  • datblygwyr
  • unrhyw un arall sy’n gysylltiedig â’r broses gynllunio.

Rydym yn asesu ar sail polisi a chanllawiau Llywodraeth Cymru ar ddefnydd tir:

Rydym yn darparu cyngor am effaith bosib y cynigion datblygu ar:

  • henebion cofrestredig a’u lleoliadau
  • parciau a gerddi hanesyddol cofrestredig a’u lleoliadau
  • Tirweddau Hanesyddol cofrestredig
  • Safleoedd Treftadaeth y Byd.

Nid ydym yn darparu asesiadau am effaith debygol ceisiadau cynllunio ar adeiladau rhestredig neu ardaloedd cadwraeth gan mai’r awdurdodau cynllunio lleol sy’n asesu’r rhain.

Apeliadau Cynllunio

Os bydd awdurdod lleol yn gwrthod rhoi caniatâd i gais cynllunio, gallai’r ceisydd apelio i’r Arolygiaeth Gynllunio. Dan yr amgylchiadau hyn, rydym yn darparu asesiadau i’r arolygwyr cynllunio am effaith bosib y datblygiad ar yr holl asedau hanesyddol a restrir uchod, ac adeiladau rhestredig a’u lleoliadau.

Cynlluniau Datblygu Lleol

Mae awdurdodau cynllunio  lleol yn ymgynghori â ni wrth baratoi cynlluniau datblygu lleol a chanllawiau cynllunio atodol. Rydym yn rhoi cyngor ar bob agwedd ar yr amgylchedd hanesyddol er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei ystyried mewn ffordd gadarnhaol yn y broses gynllunio leol.