Skip to main content

Egwyddorion Cadwraeth ar Waith

Rheoli Newid i Asedau Hanesyddol: Egwyddorion Cadwraeth ar Waith

Wrth i ni ofalu am ein hasedau hanesyddol, hwyrach y bydd angen i ni wneud newidiadau iddyn nhw, ond mae’n rhaid i ni eu gwneud mewn modd sy’n gwarchod eu nodweddion arbennig. Yn achos asedau hanesyddol pwysig cenedlaethol, hwyrach y bydd angen caniatâd ar gyfer gwahanol fathau o newid. Ond mae canllawiau cyffredinol i’w dilyn ar gyfer yr holl asedau hanesyddol wrth wneud newidiadau a fydd yn gymorth i warchod eu harwyddocâd.

Mae cynllunio gwaith rheoli a chynnal a chadw rheolaidd yn elfen sylfaenol o gadwraeth dda. Trwy archwilio ased hanesyddol yn rheolaidd a nodi unrhyw waith atgyweirio sydd ei angen, bydd hyn yn fuddsoddiad da er mwyn sicrhau na fydd problemau’n gwaethygu.

Mae’n bosibl y gall hyd yn oed mân waith atgyweirio gael effaith ar arwyddocâd eich ased hanesyddol, felly mae’n bwysig sicrhau bod y gwaith yn cael ei gynllunio mewn modd sy’n achosi’r niwed lleiaf posibl. Syniad da fyddai deall y rhesymau dros yr angen am y gwaith atgyweirio fel bod modd datrys yr achos yn ogystal â’r symptom. Wrth gynllunio gwaith atgyweirio, mae’n debygol mai’r ateb gorau o ran cadwraeth yw un a fydd yn sicrhau cadw cymaint o’r ffabrig gwreiddiol arwyddocaol â phosibl. Gall hyn olygu y gellir weithiau gyfiawnhau defnyddio deunyddiau a thechnegau cyfoes.

O dro i dro yn ystod oes ased hanesyddol, hwyrach y bydd angen adnewyddu rhan ohono: efallai y bydd angen i chi osod to newydd er enghraifft, neu ailblannu rhan o ardd hanesyddol. Mae gwaith adnewyddu fel rheol yn fwy eithafol na gwaith atgyweirio ac mae’n cael effaith sylweddol ar yr hyn sy’n weladwy, felly dylech ystyried a oes modd ymyrryd yr un mor effeithiol ar lefel lai. Gall gwaith adnewyddu fod yn gyfle i ddeall hanes a datblygiad eich ased hanesyddol yn well, felly gallech o bosibl gynnwys rhaglen gofnodi archeolegol neu adeiladol ochr yn ochr â’r gwaith a gyflawnir.

Gall ymyriad archeolegol ychwanegu at ein dealltwriaeth o asedau hanesyddol, ond gall hefyd fod yn elfen reit ddinistriol. Hwyrach y gellir cyfiawnhau’r ymyriad ar sail ennill gwybodaeth lle nad yw gwarchod in situ yn ddewis. Mae’n bwysig sicrhau’r ymyriad lleiaf posibl, gan wneud defnydd llawn o dechnegau annistrywiol. Mae ymyriad archeolegol yn galw am dîm medrus gydag adnoddau digonol i roi prosiect ar waith a’i gwblhau, yn cynnwys sicrhau bod y wybodaeth yn cael ei chadw yn eich cofnod amgylchedd hanesyddol lleol.

Mae gwaith adfer yn cynnwys cyflwyno gwaith newydd i ail-greu rhannau a gollwyd o ased hanesyddol. Gall gael effaith gadarnhaol os yw’n helpu i wella dealltwriaeth, mwynhad neu’r defnydd o ased hanesyddol, ond mae hefyd yn peryglu colli ei werth tystiolaethol trwy guddio neu ddileu tystiolaeth o benodau blaenorol yn ei hanes. Dylid defnyddio tystiolaeth fanwl bob amser i ategu gwaith adfer.

Bydd gwaith addasu neu waith sy’n ychwanegu yn siŵr o effeithio ar arwyddocâd eich ased hanesyddol. Gall newidiadau sydd wedi’u cynllunio a’u gweithredu’n dda ategu neu hyd yn oed wella gwerthoedd treftadaeth yr ased, gan roi adfywiad i’w fanteision, ond dylech sicrhau nad achosir ond y niwed lleiaf posib iddo.

Ystyr datblygiad cynaliadwy yw hyrwyddo lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol. Mae gofalu am yr amgylchedd hanesyddol a gwarchod gwerthoedd treftadaeth ein hasedau hanesyddol yn rhan bwysig o’r modd y byddwn yn gwneud hyn. Weithiau bydd angen i ni wneud newidiadau i asedau hanesyddol i gyflawni amcanion amgylcheddol, cymdeithasol neu economaidd, megis effeithlonrwydd o ran ynni neu gynaliadwyedd cymunedol. Pryd bynnag y byddwn yn argymell newid, mae angen i ni sicrhau ein bod yn sicrhau’r niwed lleiaf posibl a bod y niwed hwnnw’n cael ei wrthbwyso gan fanteision i’r gymuned neu’r gymdeithas ehangach yn gyfan.

Datblygiad galluogi yw datblygiad fyddai’n annerbyniol o safbwynt cynllunio ac eithrio bod ganddo fanteision i’r cyhoedd na ellid eu cyflawni mewn unrhyw fodd arall. Y fantais allweddol yw sicrhau dyfodol hirdymor i asedau hanesyddol pwysig, ond rhaid i ni wneud yn siŵr bod eu gwerthoedd treftadaeth yn wir yn cael eu cynnal, a bod y niwed lleiaf posibl yn cael ei wneud i fuddiannau cyhoeddus eraill. Mae angen i ni reoli datblygiadau galluogi yn ofalus iawn drwy’r broses gynllunio er mwyn sicrhau bod y buddiannau arfaethedig yn cael eu gwireddu.

Mae rhagor o wybodaeth am roi egwyddorion cadwraeth ar waith ar gael yn Egwyddorion Cadwraeth ar gyfer Rheoli Amgylchedd Hanesyddol Cymru mewn Ffordd Gynaliadwy.