Dewch i ddarganfod Hud y Mabinogi
Bydd storïwyr, cerddorion ac artistiaid gweledol yn dod â hanesion y Mabinogi’n fyw.
Cewch wrando ar chwedlau gwerin lleol trwy gyfrwng caneuon a cherddoriaeth (fel Meirion a'r Morfeich, y stori a grëwyd ar gyfer Gŵyl Tân a Môr Harlech), a gallwch ymuno â thaith dywys am chwedl Branwen.
Rhagarchebwch eich tocynnau ar-lein er mwyn sicrhau mynediad a chofiwch:
- ni ellir ad-dalu tocynnau a brynwyd — gwiriwch eich bod yn gallu mynychu ar y dyddiad rydych chi wedi'i archebu
- archebu tocyn i bob aelod o’ch grŵp ar gyfer yr un amser
- dod a gorchudd wyneb, i’w wisgo ym mhob ardal o dan do.