Skip to main content

Os ydych chi’n chwilio am ddiwrnod allan sy’n rhyngweithiol, yn addysgiadol ac yn llawn hwyl, yna does dim angen edrych ymhellach!

Mae’r Amgueddfa Cyflymder newydd sbon yn adrodd stori eiconig Traeth Pentywyn a’r recordiau chwaraeon enwog sydd wedi’u gosod yma, mewn ffordd rhyngweithiol a thrwy brofiad. Dewch i brofi a dysgu am wyddoniaeth y traeth, a theithio trwy arddangosfeydd rhyngweithiol o J.G. Parry-Thomas ac achosion o osod recordiau am gyflymder tir yn yr 1920au i Idris Elba yn torri record y Flying Mile yn 2015. Profwch y cyffro o rasio yn y car chwedlonol Babs, clywch ei injan yn rhuo, a theimlwch y gwynt ar eich wyneb yn y profiad fideo.

Mae angen archebu lle. Bydd tri chyfle i dderbyn tocyn am ddim i'r Amgueddfa Cyflymder eleni. Ymwelwch ag Amgueddfa Sir Gaerfyrddin ar benwythnos 7- 8 Medi neu ewch i Amgueddfa Parc Howard ar benwythnos 14-15 Medi; neu mi allwch hyd yn oed ymweld â Chartref Dylan Thomas ar benwythnos 21-22 Medi. Pan fyddwch yn ymweld ag un o'r lleoedd arbennig hynny ar y dyddiau hynny, cofrestrwch eich cyfeiriad e-bost wrth ddesg y dderbynfa yno, a byddwch yn cael tocyn am ddim i'r Amgueddfa Cyflymder.

Peidiwch ag anghofio dod â'ch tocyn gyda chi - dim ond ar gyfer y rhai sydd â thocyn dilys y mae mynediad am ddim.

Amgueddfa Cyflymder, Heol y Gors, Pentywyn, Caerfyrddin, SA33 4NY

Cyfarwyddiadau - Mae meysydd Parcio a Chludo a Thalu ac Arddangos wedi’u lleoli’n agos i’r amgueddfa gyda phwyntiau gwefru EV. Mae modd parcio ar y traeth hefyd (yn dibynnu ar y llanw). Mae cynwysyddion beiciau diogel ar gael i’w llogi ar y safle ac mae llochesi beiciau ar gael yn rhad ac am ddim. Mae’r amgueddfa ar lwybr bws cyhoeddus, gyda gwasanaethau dyddiol i Gaerfyrddin (rhif 222) a Dinbych-y-pysgod trwy Saundersfoot (rhif 351) a weithredir gan Bysiau Cwm Taf. Mae’r gorsafoedd trên agosaf yn Hendy-gwyn ar Daf (tua 10 milltir), Dinbych-y-pysgod (tua 17 milltir), a Chaerfyrddin (tua 18 milltir).


Prisiau

Am ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 28 Medi 2024
10:00 - 17:00
Sul 29 Medi 2024
10:00 - 17:00