Skip to main content

Castell Y Waun, a gafodd ei gwblhau yn 1310 yw'r castell Cymreig olaf o deyrnasiad Edward Iaf lle mae pobl yn dal i fyw ynddo heddiw. Ymhlith y nodweddion o'i 700 mlynedd o fodolaeth, mae'r tŵr canoloesol a'r dwnsiwn, Galeri Hir o'r 17eg ganrif, yr ystafelloedd byw mawreddog o'r 18fed ganrif, neuadd y gweision a’r golchdy hanesyddol.

Mae'r gerddi arobryn yn cynnwys yw wedi'u clipio, borderi blodau, llwyni a gerddi creigiog. Mae teras gyda golygfeydd godidog yn edrych dros wastadeddau Swyddi Gaer ac Amwythig.

Mae'r parcdir yn gynefin i infertebratau prin a blodau gwyllt ac mae'n gynnwys llawer o goed aeddfed a gatiau haearn ysblennydd, a gafodd eu gwneud gan y brodyr Davies yn 1719.

Does dim angen archebu lle.

Cyfeiriad - Castell y Waun, Y Waun, Wrecsam, LL14 5AF.

Wrth deithio mewn car, dilynwch y llwybr sydd wedi’i arwyddo’n glir o'r A5 a'r A483. O'r A5 ewch 1 filltir tuag at bentref y Waun, mae mynedfa'r ystâd 2 filltir i'r gorllewin o bentref y Waun. Sylwch: pan fyddwch yn cyrraedd gatiau haearn gwyn Davies mewn car, parhewch tuag at y dde. Mae'r fynedfa i'r ystâd 1.4 milltir ymhellach ymlaen.

Mae bws gwennol i ymwelwyr yn rhedeg o 10:30am i 4:45pm os ydych chi eisiau taith haws o'r swyddfa docynnau i'r castell. Mae hwn yn wasanaeth sy'n cael ei redeg gan wirfoddolwyr ac efallai na fydd ar gael bob dydd. Gwiriwch ymlaen llaw os ydych chi’n meddwl y bydd angen y gwasanaeth hwn arnoch.

Yn anffodus, nid oes mynediad i gadeiriau olwyn na mynediad heb risiau i du mewn y castell. 


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 14 Medi 2024
10:00 - 17:00