Skip to main content

Credir mai yn y cyfnod Cristnogol Celtaidd cynnar, tua’r 7fed ganrif OC, y mae gwreiddiau eglwys Llanfwrog, ac mae’r ffaith ei bod wedi’i chysegru i’r sant cynnar, Sant Mwrog, ac mai siâp cylch oedd y fynwent yn wreiddiol, yn ategu’r tebygolrwydd yma. Mae’r hyn a welwch nawr yn dyddio’n bennaf o’r 15fed a’r 16eg ganrif, ond gyda llawer o waith adfer Fictoraidd yn dyddio o 1869/70. Ailagorwyd yr eglwys ym 1870.
Mae’r fynwent yn cynnwys nifer o gerrig beddi diddorol, gan gynnwys un sy’n dyddio o 1640, sy’n pwyso ar wal yr eglwys. Mae’r fynwent hefyd yn cynnwys beddrod teulu’r Peers - roedd Joseph Peers yn Glerc i’r Ynadon Heddwch rhwng 1833 a 1883, ac adeiladwyd Clocdwr Coffa Peers yng nghanol Rhuthun fel arwydd o barch am ei hanner can mlynedd o wasanaeth cyhoeddus.   

Nid oes angen archebu lle.

Mae’r eglwys ym mhentref Llanfwrog, ar gyrion gorllewinol Rhuthun. LL15 2AD yw’r cod post.

O ganol Rhuthun, ewch ar y B5105 i gyfeiriad Cerrigydrudion, ac mae’r eglwys wedi’i lleoli yng nghanol pentref Llanfwrog, tua milltir o ganol Rhuthun. Mae rhywfaint o lefydd parcio wrth ymyl yr eglwys ond nid oes gwasanaeth bws. Mae’n daith gerdded fer a phleserus o ganol Rhuthun.
Mae grisiau’n arwain at fynwent yr eglwys.


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 07 Medi 2024
10:00 - 16:00
Sul 08 Medi 2024
10:00 - 16:00