Skip to main content

Mae’r ardd enwog hon yn gartref i Bencampwyr Coed Prydain.

Mae’r ardd yn llawn corneli clyd, lawntiau ysgubol, terasau crand a choetir glas, ac mae ynddi sawl gardd fechan.

Cafodd yr ardd ei chreu dros gyfnod o 150 o flynyddoedd diolch i weledigaeth syfrdanol y teulu McLaren, wrth i blanhigion gael eu casglu a’u cludo i Brydain o lefydd pell. Mae’n hafan brin a phrydferth, yng nghanol mynyddoedd trawiadol y Carneddau, Eryri.

Mae’r ardd yn llawn bywyd drwy gydol y flwyddyn, felly gallwch ei defnyddio ym mha bynnag ffordd yr hoffech; gallwch fod yng nghanol y prysurdeb neu ddianc i gornel dawel i ymlacio.

Cyfeiriad: Gardd Bodnant Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Ffordd Bodnant, Tal-y-Cafn, Bae Colwyn, Conwy, LL28 5RE.

Cyfeiriadau - ar y trên - Cyffordd Llandudno.
Ar fws - mae bws rhif 25 o Landudno’n stopio tu allan i’r giât. Gweler gwefan Arriva Cymru am amseroedd bysiau.
Ar y ffordd - oddi ar yr A470. Arwyddion o’r A55, cyffordd 19.
Parcio: 150 llath.
Gwybodaeth am lwybr beicio.

Parcio Bathodynnau Glas. Toiledau hygyrch. Llethrau serth, stepiau anwastad a dŵr sy’n llifo’n ddwfn a chyflym. Signal ffôn di-ddal. Cadeiriau olwyn ar gael.

Mae cŵn ar dennyn byr yn cael mynd i mewn i’r ardd.

Does dim angen archebu lle.


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 14 Medi 2024
09:30 - 17:00
Sul 15 Medi 2024
09:30 - 17:00