Skip to main content

Mae Oriel Mostyn, sy’n arddangos gwaith celf cyfoes o bwys rhyngwladol, yn cyfuno celf a phensaernïaeth gyda’i ffasâd terracotta Edwardaidd hardd a’i bensaernïaeth fodern syfrdanol sydd wedi cael cydnabyddiaeth gan RIBA.

Mae’r siop hefyd yn cefnogi dros 400 o artistiaid, gwneuthurwyr a chrefftwyr annibynnol, drwy werthu amrywiaeth o waith celf cyfoes, anrhegion unigryw, cardiau cyfarch ac offer celf. 

Mae Caffi’r Oriel yn gweini coffi wedi’i rostio’n lleol, cacennau a phrydau ysgafn ac mae’r caffi yn ymfalchïo yn y dewis ar gyfer llysieuwyr, feganiaid a’r rhai sydd ag alergeddau bwyd.

Bydd yr oriel ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn 10.30yb - 4.30yp drwy gydol mis Medi, gyda dwy arddangosfa gwbl hygyrch ac am ddim, yn ogystal â rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau cysylltiedig. Gweler gwefan yr oriel am ragor o wybodaeth ac i fwcio digwyddiadau.

Cyfeiriad – Oriel Mostyn, Stryd Vaughan, Llandudno LL30 1AB.

Wedi’i lleoli yng nghanol Llandudno, funud o’r orsaf drenau.

Mae’r adeilad yn gwbl hygyrch.


Prisiau

Am Ddim