Skip to main content

Abercamlais yw’r mwyaf gorllewinol o’r ddau blasty mewn parcdir i’r gogledd o’r A40 rhwng Pontsenni ac Aberhonddu, ychydig o fewn ffin ogleddol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae’n adeilad rhestredig Gradd I ysblennydd, yn dyddio o’r Oesoedd Canol yn wreiddiol, ond fe’i trawsnewidiwyd yn helaeth ar ddechrau’r 18fed ganrif a gwnaed ychwanegiadau yn oes Fictoria.

Mae wedi’i leoli mewn tiroedd helaeth, wedi’i gysgodi rhag y gwyntoedd gan goed ffawydd a derw aeddfed. Gerllaw, ceir colomendy sy’n gwasanaethu fel pont dros nant Camlais sy’n llifo i mewn i afon Wysg.

Ar gyfer gŵyl Drysau Agored, bydd y tŷ a’r gerddi ar agor i’r cyhoedd, gyda theithiau wedi’u trefnu gan aelodau o’r teulu. Bydd teithiau bob hanner awr, gan ddechrau am hanner dydd.

Cyfeiriad – Tŷ Abercamlais, Aberhonddu, Powys, LD3 8EY.

Lleoliad – Mae Tŷ Abercamlais ar yr A40, 5 milltir y tu allan i Aberhonddu. Mae safle bws o'r enw Abercamlais Lodge ar ben y ffordd ar yr A40.

Nid oes angen i chi gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn.


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 14 Medi 2024
12:00 - 16:00
Sul 15 Medi 2024
12:00 - 16:00