Skip to main content

A ydych chi erioed wedi meddwl am wneud sioe gerdd hanesyddol, ond ddim yn siŵr ble i ddechrau? Mae’r dudalen hon i chi.

Wedi cael digon ar Joseph? Yna rhowch gynnig ar Gerallt Gymro!

Mae’r Cwilsyn Grymus yn sioe gerdd a gomisiynwyd ar gyfer Gwobrau Angel Treftadaeth Andrew Lloyd Webber. Mae’n stori ysgafn am Gerallt Gymro, sydd hefyd yn adlewyrchiad byw o Gymru’r Oesoedd Canol.

Defnyddiwch ein hadnoddau am ddim — y sgôr, y libreto a mwy er mwyn cynnal eich perfformiad eich hun, un rhannol neu un cyfan, neu fel ysgogiad ar gyfer themâu a phrosiectau. Gallwch hyd yn oed greu eich theatr bypedau ganoloesol eich hun.

Os ydych chi’n barod i lwyfannu eich perfformiad eich hun o’r Cwilsyn Grymus, yna cysylltwch â ni ac fe wnawn anfon popeth sydd ei angen arnoch!

E-bost: cadw.education@llyw.cymru

Edrychwn ymlaen at weld eich cynyrchiadau — rhowch gynnig arno!

 

Sioe Gerdd yw “The Mighty Quill”, a gomisiynwyd gan Dîm Dysgu Gydol Oes Cadw ar gyfer Gwobrau Treftadaeth Angel, Andrew Lloyd Webber yng Nghastell Caerffili.  Pwrpas y prosiect oedd cynrychioli creadigrwydd a thalent pobl ifanc yng Nghymru a’u hymateb i’w treftadaeth a’u diwylliant. Perfformiwyd y sioe gerdd gan fyfyrwyr Safon Uwch yn y seremoni, yn Theatr Clwyd ac yn Eisteddfod yr Urdd a’r Genedlaethol.

Cyfansoddwyd y sgôr gerddorol gan y cyfansoddwr nodedig Tim Heeley a’r llyfr a’r geiriau gan Claire ac Adam Tranmer.

Mae stori “The Mighty Quill”  yn ddehongliad ysgafn a llawn diddanwch o hanes Gerallt Gymro, offeiriad Canoloesol, a oedd yn ddisgynnydd i frenin olaf De Cymru, yn glerc brenhinol, yn groniclydd ac ysgolhaig a deithiodd yn eang, ac a gofnododd ei daith o amgylch Cymru – y cyntaf i wneud hynny. Roedd ei arsylwadau manwl yn rhan o hanes cyfoethog y 12fed ganrif, ac yn adlewyrchu bywyd Cymru yn y Canoloesoedd yn gampus.

Bellach mae’r sgôr a’r sgript a ffeiliau awdio o’r cyfeiliant ar gael ar ein gwefan at ddefnydd pawb, fel perfformiad, naill ai yn rhannol neu’n llawn, neu fel sbardun i themâu a phrosiectau. Mae’r adnoddau yn drawsgwricwlaidd ac yn ymateb i’r Pedwar Bwriad, yn ogystal â Maes Dysgu a Phrofiad Y Celfyddydau Mynegiannol a’r Dyniaethau.

Mae adnoddau ar gael ar gyfer plant iau sydd wedi’i ysbrydoli gan y “The Mighty Quill”.  Maent yn cynnwys cyfres o fideos cyfarwyddol, i gyfeiliant cerddoriaeth “The Mighty Quill” sy’n dangos i chi sut i greu eich Theatr Bypedau Canoloesol eich hun.

1.  Agorawd

2. Y Llw

3. Linc

4. Gerald

5. Y Gwragedd Achwyngar