Castell Conwy CERDDI
Sut i droi castell tu chwith allan
Adeiladwyd fi â’m tu allan yn wyn
yn ddisglair â chalch hyd nes fy nymchwel
a’m dinoethi,
fy haearn, fy mhlwm cilfachau popeth o bwys wedi’i rannu.
Nid dim ond y concwerwyr fu’n chwalu,
bu bysedd blewog
yn bachu cerrig mewn sawl mân chwalfa,
ai dymchwel ydi o
pan fo ffermwr yn adeiladu sgubor â lintelydd cain?
Fy nhyrrau crynion yn betalau’n agor yn ffenestri to
ar graig y môr i golomennod gwynion lanio
ar fy ffenestri. Llifa’r glaw trwy fy nghragen yn ddiferion
a’r lleithder yn golchi ac yn golchi,
yn creu mwsoglau a chen newydd,
fy holl boblogaethau yn agored i’r awyr,
a dim ond y rhai ifanc iawn ruthra yn ansad
eu breichiau ar led yn hanner disgyn hyd nes
i’w dwylo bach poeth afael yn fy ystlys garreg.
Charlotte Wetton
Y nant tu allan i Gastell Conwy
Tyr y dŵr dros fy ngherrig / ar wely tywodlyd y tu allan i’r castell / ewyn
yn arnofio a chwalu is lawr / fy nhraed yn suddo mewn tywod / gwyliaf / sut mae’r
wyneb fel drych / gwelaf fy hun yn y drych / a’r drych yn malu /
yn symud wrth i gorff ymddangos / ymestyn yn siapus / corff nid annhebyg
i fy un i / wedi’i greu o blygiadau a chwyn a’r / gleiniau dŵr yn diferu o’i chluniau / gleiniau yn llithro lawr wyneb y graig / eu holion ar fwsogl llaith / gleiniau’n dychwelyd i’r nant / ymestynna ei breichiau / plyga’r corff / ail-lunia / y corff yn symud yn barhaus / a meddyliaf am fy nghorff fy hun / wrth i mi sefyll yn y niwl / ar lan afon Conwy / teimlaf boenau fy nghorff / fydd yn chwalu fel briciau ymhen amser / ac rwyf eisiau edrych
fel y corff o’m blaen / drych ydyw / ac wrth i mi ystyried y fenyw siapus
a’r modd mae’n symud/ a niwl y lle / todda’n ôl i’r dŵr / diferu
i ffwrdd / ei siâp wedi mynd / ar lan afon Conwy meddyliaf / a meddyliaf a meddyliaf am
gorff nid annhebyg i fy un i.
Willow Michael
Annwyl Himeji
Tybed petaen ni’n gymdogion,
y gallem fod wedi uno, dau deyrn yn un?
Neu a fyddai dy zinmen-seki yn dychryn fy nreigiau,
a fy nhyllau lladd yn amddiffyn rhag dy grehyrod?
Clywsom y bomiau yn cael eu gollwng arnat gan yr eryr
a’th furiau gloyw gwyn yn cynnal goresgyniad y samwrai.
A glywaist ti am dwyllwyr Glyndŵr?
Pymtheg wythnos yn dilyn tric y labrwyr ffug.
Mae ein brwydrau o ddyddiau’r siogyniaid a’r canol oeswyr
yn profi ein bod yn chwaraewyr teilwng i’r anfeidrol.
Bydd yn ymwybodol bod y golau a ddisgleiria yn ein cadeirlan ni,
sydd wedi'i beintio ag arlliw y gwydr lliw,
sy’n sychu’r sbyngau mwsogl gwyrdd,
yr un haul ag sy’n machlud ar dy gastell di.
 ninnau’n galw ‘Duw fo o’n plaid’
atebaist tithau ‘amu amida butsu’.
Ac er na allem gyfarfod byth
cawn ein cyflwyno trwy gyfrwng llwch ar esgidiau twristiaid,
a thrwy’r ‘sut mae’ a’r ‘konnichiwa’ a gynigir
ac a gyfnewidir gan fyfyrwyr a chan gyplau wedi ymddeol.
Yng nghalon Conwy ac yn kokoro Himeji
curwn fel un, ein croen yn glai crychlyd.
Fe daflwn fy hun atat
ond rwyt ymhell tu hwnt i dafliad carreg.
Ers talwm ofnem y byddai’r sêr yn syrthio
ond rhyw ddydd byddwn efo’n gilydd yn eu mysg –
yno bydd shachihoko a draig goch yn dawnsio.
Wedi’r cyfan , ’dan ni’n mynd ddim iau.
Isabella Gaywood
Geirfa
Zinmen-seki Tacteg amddiffynnol Siapaneaidd o gerfio wynebau dynol mewn carreg er mwyn twyllo ymosodwyr a gwneud iddynt gredu fod yna filwyr o amgylch y castell.
Namu amida Butsu – yr hyn sy’n cyfateb i “Duw gynorthwya fi” mewn Siapanaeg. Golyga dy fod â ffydd yn Nuw ac yn mynd i’r nefoedd.
Konnichiwa – cyfarchiad Siapanaeg.
Kokoro – y dywediad yn Siapan am ‘enaid’, bron yn cyfateb i deimlad greddfol.
Shachihoko – Anghenfil y môr yn chwedloniaeth Siapan gyda phen draig a chorff pysgodyn. Maent i’w gweld ar do castell Himeji.
Algâu Conwy
Yn swatio rhwng dwy hen garreg, mae algâu gwyrdd, fferins
llachar septig, sy’n lliw sur yn fy ngheg, yn diferu ar groen
fy nghefn wrth i’m crys godi a finnau’n plygu’n grwm dros lyfr nodiadau,
yn trio creu gwell cerdd na hon. Rhywbeth arwrol a theilwng
i anrhydeddu a dyrchafu’r murddun hwn yn chwedl; yn cynnwys carcharorion
afiach, brenhinoedd barus, gweision direidus, breninesau coll;
gwastrodion diniwed a marchogion llwgr, wedi’u dwyn o Chaucer,
wedi’u hail beintio a’u hail brintio i’w gosod ger y Mabinogi, ymysg
chwedlau’r oesoedd.
Ac eto, mae’r dŵr, a’r mymryn algâu wedi
fy fferru i fêr fy esgyrn. Dyma’r unig wir gof o fy niwrnod
yng Nghonwy. Ni allaf ail adrodd yr un ffaith, er mor fawr fy niddordeb
ar y pryd. Mae’r ias hon wedi gwthio’i hun rhwng rhigolau fy ymennydd fel pe bai
wedi’i phlannu yno, i ledaenu ac i sugno ymaith syniadau mwy rhamantus
gan fy ngadael â dim ond piod, rhedyn a tharth. Gwnaeth
fi’n ddall, gadawodd i mi faglu ar y grisiau i mewn
i ffynhonnau dwfn, di-ddŵr, sy’n llawn adleisiau.
Valentina Ashdown
Gwarcheidwaid Conwy
Mae anadl gwyn, od
yn gwyro trwy’r coed,
yn holi’r dail ’di sgymblo
am bopeth sy’n hanner atgof ganddynt,
popeth sy’n dal ei afael
fel y pysgod
wedi’u bachu uchod.
Yr unig un sy’n ateb yw’r castell
â’i waliau llaethwyn a’i ddistiau cawraidd
yn cofio gwledd:
moch sugno,
cwningod tewion,
sbeis llawn blas o’r Dwyrain.
Y bwrdd, creulon ond gonest,
yn cynnig y cyrff,
a sudd coll y mafon.
Ac yna mae’r haul yn camu o du ôl i’r cwmwl,
yn ceisio cofio
a’i geg aur yn cusanu
ymylon llaith y cerrig,
y corneli tywyll,
ac yn creu hynny o hyfrydwch a all
ond mae’r môr yn curo yn erbyn y clogwyni,
yn galw am y darnau coll o amser –
gwragedd
a eisteddai yn uchel yn y tŵr
yn cael eu hudo gan y lleuad ddisglair lawn,
yn troelli eu plethi a llysiau’r cwlwm
ar eu cwrcwd yn droednoeth
yn aros am y dienyddiwr tawel.
Mae’r dŵr aflonydd hwn,
yr heli hwn,
yn tywallt ei hun
fel na a dim yn angof.
Leneta Hey
Yr hyn a alwant
Cerdda rhai plant i mewn i’r tyrau,
gorwedd ar lawr wedi diflasu, gwthio
eu traed i fyny yn erbyn y muriau.
Crafu eu henwau,
eistedd ddigon hir i allu galw’r
lle yn eiddo iddynt.
Mae’r ystafelloedd yn atsain ac yn tyfu o’u dinistr.
Carreg yn llaith ag anadl betrus sy’n chwythu
i mewn i’r waliau mandyllog ac allan tua’r môr.
Y môr, na alwa’i hun yn hynny
ond sydd beth bynnag
yn taflu’i hun ar y lan.
Y lan, na alwa’i hun yn hynny ond sy’n sefyll
yn gadarn wrth gyfarfod â’r môr
a’r awyr hallt.
Gwasgfa yng nghefn y gwddf.
Mae’r anadl yn sibrwd
ac yn cuddio yn y craciau, yn cael ei alw i’r golwg
ac yn camu i’r goleuni, yn ymestyn
ar hyd yr ystafell a alwyd ganddynt unwaith
yn eiddo iddynt.
Lucy Giles
Planhigion fel cymrwd
Safai fy nhad ymysg y llwyni rhosod yn y cefn,
ac yntau bellach ddim yn y tŷ.
Roedd yna â finnau’n gwyngalchu’r waliau
haf diwethaf, yn sbecian trwy’r
ffenestri. Yn edrych ar y blodau
ar fwrdd y gegin wrth ymyl llyfrau
ysgol Mam a’r allweddi. Tro nesaf, dof â
blodau, y rhosod hynny, trwy’r briciau.
Mwsogl a chen sy’n cropian bellach
allan o graciau’r hen gastell, yn gwthio
trwy’r hyn sydd yno eisoes, fel y gwna’r
deufor-gyfarfod islaw. I mewn i’r môr, yn ymgordeddu.
Yn plethu fel coronau blodau y plant
a’r stwff arferai fod ar lawr
y neuaddau gwledda. Planhigion yn sychu
o dan fersiynau paent sych o’u hunain.
Ydi o’n beth drwg mod i eisiau gweld y waliau’n chwalu
ychydig mwy, i weld y byd tu allan o bob
cyfeiriad? Fel y gall y blodau ddod i’r golwg.
Mae yna glogwyn i lawr hyd at y ffordd a
tydi o bellach ddim yn unrhyw un o’r ceir,
nag yn y dref tu hwnt. Efallai ei fod erbyn hyn
ym mylchau’r wal orllewinol, lle mae posib gweld y môr
yn gwthio a thynnu a’r tir tu hwnt, a’r holl bosibilrwydd.
Bryn Williams
Cwestiynau i Gonwy
Oeddet ti’n gweld y gwaed
ar y mur gwyngalchog?
Oeddet ti’n clywed sgrech
o dŵr y carchar
sy’n fil o droedfeddi o uchder,
sy’n chwythu aroglau gwledda
trwy ffroenau
y dynion condemniedig
uwchlaw y neuadd fawr?
Ymestynna caer Conwy
o gylch yr hen dref,
yr eironi o warchod
yr ysbeilwyr rhag ysbeilio,
gwarchod rhag ffermwyr
sy’n talu degwm a threth
i Frenhinoedd a Breninesau
rhag iddynt geisio boddi
yn eu tywallt gwaed eu hunain.
Fel y Rhufeiniaid,
Hadrianus neu Antoninus,
pam fod ymsefydlwyr
yn adeiladu muriau cerrig
ar hyd y ffiniau?
Pam adeiladu cofebau
i’w grym, arwyddion gwacsaw
o’u cyfoeth a’u nerth
a chadw’u hunain ar wahân
i’r tir sy’n eiddo
i chdi, a fo, a hi, a finnau?
Alfred Davidson
Iau na waliau
Mae fy nhraed, mewn esgidiau cryfion,
yn sefyll ar goed sy’n iau na’r waliau.
Mae waliau llaith yn suddo i mewn i
bridd mwy llaith na’r
glaw ar fy nghôt.
Cerddaf
i fyny waliau ar risiau
sy’n troelli a throelli,
troelli, dw i’n sâl –
efallai fy mod i’n sâl
yn fy mhen,
dw i’n troelli, yn teimlo’n sâl
ar risiau culion, troelli
a throelli – yna i fyny,
yna allan, ac mae yna olau.
Mae’r awyr yn llaith
â niwl sy’n dringo
i fyny’r bryniau. Rwy’n gogwyddo,
gogwyddo. Edrychaf i lawr – efallai
y byddaf yn sâl, felly gafaelaf yn y ganllaw
sy’n iau na’r waliau –
sy’n stopio’n rhy isel
uwch fy nghrimog
i dawelu fy nerfau
ar ddiwrnod mor
wyntog â hyn.
Er gwaethaf hyn
edrychaf allan – mae pâr
o adar duon, brain –
dau jac do yn swatio
yng ngwarrau ei gilydd
rhwng y rhagfuriau
ac yna’n hedfan
yn ddiogel rhag y gwynt a’r glaw
i gartref mewn twll llofruddio.
Pyla fy llygaid yn y tywallt glaw,
mae cychod yn gorwedd a gwyro
ar y tywod – wedi’u hesgymuno
gan ruthr y trai.
Gwelaf ambell
jac do arall. Hedant
i fyny simneau. Yno
mae’r flwyddyn 1881
wedi’i cherfio
mewn rhigolau byrhoedlog
trwy garreg
a mwsogl
uwchben
y llythrennau WJ;
mae o wedi marw ond,
dacw fo
yn iau na’r waliau.
Finnen McNiffe
Castell Conwy
Rhuthrwn
i lawr
y grisiau,
llifo trwy
ddorau
llaith,
traed yn curo
wrth i ni godi
ein coesau
mewn jîns sy’n glynu
a thaflu ein
cyrff wedi eu dyrnu gan wynt
trwy’r capel,
gwallt wedi’i lafoerio
a’i droelli’n rhydd.
Dw i’n amau
bod y merched
yn y muriau,
yn drwm
â pheisiau
a gwerthydau
a gwaddolion,
yn gallu ein clywed
yn rhedeg
a rhedeg
a rhedeg
fel y gwnaethon nhw
yn eu breuddwydion.
Liberty Sharma
Ysbrydion Castell Conwy
Clwyda’r Frân a’r Caneri ar dŵr y capel;
yr holltau saethau yn drwm dan gen a blodau wedi’u tagu.
Saif y garreg wedi’i gwisgo gan law a chan feirioli
dan ofal corfflu o grafangau cudd y Gigfran.
Y cloc gwelw a’r aelwyd dolciog, eu gwerth parhaol –
dan warchodaeth Sistersiaid a dyngwyd i droedio’r byd.
Pa broffwydoliaeth sydd yng nghudd yng nghulfor a hesg Conwy
dan glogynnau gwinau gwelw a llaswyr llygredig?
A eneinir hwy o gorff herciog yr eglwys i hwylio a llithro
i neuaddau crwn o gerrig hen lle bu eu hanrhydedd farw?
Wedi’u dedfrydu i stelcian a styrio o’r seler i’r twmpath
wedi'i nodi gan aroglau meillion? Y meistr a’r helgwn.
Golchant dir arfbeisiol ag og a swch,
mae enwau wedi’u herydu yn gwagio’r gwlith o’r ffynnon.
Gweinidogion, meibion Llywelyn, yn eu horiau olaf
yn cysuro’r distaw heb na deigryn na gwg.
Cynghorant y rhai mewn gefynnau ar lwybr y carchar,
dynion mewn clogau a’u heneinio wedi lleddfu llid Edward;
mewn cocŵn rhag y gwynt ers oesoedd
eu siâp yng nghudd rhag fflach y fflint yn mygu.
Canrifoedd o ludw a golau mud yn trwblo,
gwyntoedd sychion yn byw yn rhwyd y nos,
wedi’u dedfrydu i dramwyo meini y clogwyni a’r ysgyrion
ac i grwydro ar hyd bryniau sydd cyn hyned ag amser.
Tom Frankland
Mynydd y Cnawd
Eisteddwn wrth ochr
colomen, bron nad oedd yn golomen wen,
yn nythu rhwng creigiau llonydd,
oedd dal yn llaith â chusan mam
wedi’i bachu o’r môr a’i niwl.
Mae yna wlybaniaeth ar fy llewys,
ar ffwr fy nghôt, fy amdo,
cusana’r cymylau hyn leithder ar y garreg
sy’n fy nghyffwrdd.
Drewdod annwyl ceg
mam yn ymestyn fel
y môr,
anadl mam yn falch uwch y coed, yn drwm
â mêl a lemwn,
wedi’i sugno i gael maeth.
O rigolau meddal, chwyth y gwynt waddodion
i’r waliau fu unwaith yn wyn,
fel y golomen a gamgymron am golomen wen,
y jac do a gamgymron am fwyalchen;
mor ddu â bricsen lle
mae lleithder yn taro
fy llewys pluog.
Rebecca Gevaux
Côt o baent
Mae atsain y nenfwd yn crecian
wedi hen ymadael. Wedi llithro o’r ffrâm
gyda thylluanod y nos a murmur
y neuadd. Dim ond y colomennod arhosodd
yn crwydro hyd y distiau ceimion,
y rhai a losgwyd, ac sy’n diferyd – golygfa’r cwymp.
Mae triptych o dalpiau mwsogl yn dringo ar hyd pob wal.
Nid yw waliau’r castell hwn yn swatio
rhwng y bryniau, ond yn hytrach maent yn figyrnau cleisiog
bocsiwr sydd wedi cau ei ddwrn. Hiraethais am y dyddiau hynny
cyn i’r golau sbecian trwy’r
bylchau bach rhwng y cerrig;
pan roedd esgyrn noeth yr adeilad
yn gwisgo dillad euraid
cartref.
Syrthiodd fy nenfwd, a disgynnodd
yr wybren; dinoethwyd popeth;
cwympodd y plaster.
Gwagiodd ei ddicter poenus llaith y ffynnon.
Treiddiodd y golau trwodd o’r castell
ar y bryn. Daeth y gweithwyr,
crawio trostaf, slafio oddi tanaf;
gweithio ar yr hen ddistiau
hyd nes bod disgleirdeb newydd y paent gwyn
yn gwnïo pleten hyd y gwniadau.
Jacob Broughton-Glerup
Wyth tŵr i Gastell Conwy
Yn y bôn mae’n fater o ddangos nerth,
y castell a wnaed o garreg, o dywod o garreg,
arch ar gyfer cyrff meddal, ac erfyn i’w gwasgu.
Waeth heb yr amddiffynfeydd naturiol
wrth i deyrnas fachu tir, fachu afon, fachu môr
mewn gefel wrth ymledu fesul modfedd. Gwna’r castell
gylchoedd o’n hamgylch ni, muriau o drwyth esgyrn
a grym wedi’i ymgaregu, clecian cregyn cynlluniau blêr
ble mae gwynt y môr yn chwibanu trwy’r craciau.
Mus musculus: tarddiad mouse, a mussel
a muscle, cyhyr tynn yn ymestyn i fyny ac i lawr
o dan y croen, neu gragen las fel llygoden
lle mae perl, y seithliw oddi fewn,
calcsbar oddi allan a chylch y llanw am bob
gaeaf o wrthsefyll fesul lled un bys, yn tyfu’n drwch dan
bigau’r gwylanod a grym y dŵr wrth i’r storm nesáu.
Zoë Skoulding
Negeseuon y Colomennod
Oer a blinedig a llaith. Hanner yn y presennol, hanner
ym 1283 mewn gŵn canoloesol a choron,
yn cerdded ar hyd y neuaddau hyn, wedi’i amgylchynu
gan y muriau hyn, heblaw eu bod yn
wyn a’r rhain yn llwyd, y gwyn yn lliw sydd wedi’i hen
olchi i ffwrdd. Daeth niwl fel llwch dros y coed
wrth i’r gwynt ysgwyd eu dail, fel petai ysbrydion
yma yn amgylchynu’r olygfa. Ni all castell mor
fawr ac mor dal adael i’w amddiffynfeydd gwympo.
Dychmygaf fyd oedd yn ddihangfa o’r byd
sy’n bod, ac yna dychwelaf yn ôl i
adfeilion y muriau ac aroglau piso. Mae’r
colomennod yn casglu o’m hamgylch, gweledigaeth
wen a llwyd, yn sibrwd eu cyfrinachau
o’u hamser yn cario negeseuon a
a chymaint ganddynt i’w ddweud. Dywedant wrthyf
be ddigwyddodd yma, yn y fan hyn, a finnau’n sefyll uwchben
clamp o dwll yn y ddaear yn dychmygu
lladdfa o gyrff islaw yn pydru.
Wedi’r cwbl, nid yw hanes ond atgof, chwedl colomen
am yr holl bethau nad aethant dros gof ganddynt hwy.
Rachel Saunders
Castell Conwy a Himeni-jō
Yn y dwyrain
cyfyd y crëyr gwyn,
yn fwa gosgeiddig uwch ben,
yn curo amser i atgof cateyrn
o’r drymiau rhyfel.
Shirasegi-jō
Yn y gorllewin
marchoga cudyll ar y gwynt
adenydd lliw llechen a chraig,
o’i wylio trwy hollt y saethau mae’n troi a hedfan
tros yr aber.
Conwy.
Cyd-etifeddiaeth o amddiffyn ac ymosod ar sail
carreg, llechen, mwsogl, pren, calch, gwaed.
Bondoeau uchel a thyrrau carreg yn ymestyn tuag at
yr un toriad gwawr a’r un machlud.
Liz Tunstall
Coron gau pwy?
Cuddia colomennod yng nghraciau’r castell
wrth i wylanod gwylltion hedfan i mewn,
llenwi’r tyrau, gadael,
llef o ganol bywyd.
Mae’r hogyn ll’godan fawr yn dal i redeg,
yn gwneud mân swyddi i eraill sydd rhy brysur
ac yn ddirgel gasáu y
caplaniaid, y siambrleniaid, yr arglwyddi,
y ceidwaid carchar y milwyr a’r sgrifellwyr.
Mae’r hogyn ci yn dal i dyfu, yn mynd,
yn troelli, allan o wynt
ac yn marw – bron yn marw,
lawr y grisiau serth a llithrig.
Mae lleisiau crug yn atsain
rhwng waliau’r dwnsiwn,
tu hwnt i’r tapestrïau sy’n mygu
yr adfail a fu unwaith yn wyn.
Jack Dorey
Wedi’i adael ar ei ben hun ac eto ddim ar ei ben ei hun
Waliau trwchus o daffi hallt
pentyrrau o baent poitslyd
Hirsgwar cul
pelydryn haul
Normaneg a Chymraeg
anadl ac ieithoedd
Awyr o’r heli’n darfod
ar bren y lloriau fel papur â staen coffi
Mynyddoedd carreg
gwreiddiau carreg
pwy sy’n cyfrif?
Anadl y gwir
yng ngafael oer y cerrig
Erys seiniau rhydd
wrth i rywbeth gerdded
carreg angel
dan esgidiau trymion
Tyfiant wedi’i adael braidd yn sych
darnau cudd o blatennau crimp
o feysydd y gad hynafol
heb ddim ymdeimlad o berthyn
Wna i grwydro’r neuaddau cerrig hyn?
Maent yn anhyblyg a di-ddal fel hen esgyrn
castell o esgyrn caled a meddal
Mae’r castell yn cwyno a gruddfan
Dy galon: hanner du
hanner coch
Julia Niedzinska
Castell
Pobl: y llafariad yn grwn fel carreg afon yn y geg,
Sŵn colli, nid sŵn yr uchelwyr.
Mae’r geg yn gron wrth i’r saeth drywanu’r asen.
Marwolaeth, celain, yn atal yr anadl.
Pobl wedi’u lladd. Pobl heb eu trechu.
Tyrau uchel yn cyhoeddi llafariaid estron.
Pobl yn gwrando. Pobl heb eu trechu.
Min y llafnau, yn awchus yn yr hanner gwyll.
Pobl yn codi. Pobl heb eu trechu.
Corbelau carreg yn cuddio llethrau’r mynyddoedd rhydd.
Pobl wedi’u caethiwo. Pobl heb eu trechu.
Gwyrddni pell, heulwen, llwnc yn dynn â gobaith.
Pobl dan orthrwm. Pobl heb eu trechu.
Ffrydiau glaw, sianelau oer, traed noeth ar gerrig crynion.
Pobl yn dioddef. Pobl heb eu trechu.
Drewdod dwnsiwn ger capeli llawn tapestrïau,
Ffenestri eurweog, esgyrn wedi’u dryllio.
Pobl wedi’u carcharu. Pobl heb eu trechu.
O dan ragfuriau, mae afon yn lledu i’r môr,
tonnau bach yn anwesu, patrwm glas yn llifo.
Pobl yn symud. Pobl heb eu trechu.
Gwylanod yn chwalu o’r tyrau ac yn hedfan dros hofelau.
Pobl rydd. Pobl heb eu trechu.
Deil cannoedd o flynyddoedd y straeon yn y cerrig,
atsain lleisiau yn cynhesu’r mannau moel
pobl yn cofio, pobl heb eu trechu.
Heb eu colli, ’di gwreiddio’n barhaol yn y mynydd,
pobl yn adhawlio’r hyn fu’n eiddo iddynt erioed,
tir ac iaith, chwedl a hanes,
pobl heb eu trechu. Pobl. Cynefin.
Beth Flynn
Y Tair Elinor
Où est Eléonore?
Mae hi’n
hwylio o Gastilia
gan afael yn ei gordd o ŵr,
yn breuddwydio am lawntiau gwyrdd persawrus,
ei bol fel planed
yn deisyfu olewydd aur, tapestrïau meddal
ac un enedigaeth ar bymtheg.
Cod ei sgertiau trymion i lamu i fyny’r tŵr.
Nid yw hi yma.
Ble mae Elinor?
Mae hi’n
siglo ar y seilia,
yn ochneidio am ei merch a aeth yn angof
yn pylu yn y neuadd islaw’r mynydd
(llifa dŵr yn rhubanau)
yn credu y bydd y palas yn gwarchod
llinach y tywysogion.
Llifa i’r Fenai yn nistawrwydd yr haf.
Nid yw hi yma.
Càit a bheil Eilidh?
Mae’n gwasgu
troed yn erbyn y llawr,
yn gwnïo ffrogiau o dartan Gordon lliwgar,
yn ysgwyd breichled drom at y teledu,
pinnau yn dynn rhwng ei gwefusau,
neu mae’n cerdded ar hyd y muriau
law yn llaw â’i hwyres,
yn anadlu rhyddid y gwyliau.
Nid yw hi yma.
Vanessa Griffiths
Echoes of Castell Conwy
In the shroud of a grey overcast sky,
rain drips like whispered secrets.
Damp, low-lying mist clings to ancient stone
where once the sun danced on pristine white.
Now a ghostly colossus stands—
a testament to Edward’s iron grip,
its walls crumbling, lime wash peeled away
like forgotten dreams.
In ethereal ruins of Conwy Castle,
lichens weave a tapestry of green,
encrusting the castle’s weathered heart.
Pigeons softly coo in hollow halls,
their sound the only whisper of life
in this fading monument of power.
Above, two jackdaws perch on high,
silent sentinels with knowing eyes,
observing their surroundings.
Above them, Yr Ddraig Coch hangs proudly,
while below, Conwy’s swirling tide merges
past and present in tidal whirlpools.
The wind howls through the womb of the castle,
each gust a reminder of ancestors’ groans, souls
lost in shadows of conquest. Where the fierce
spirit of Wales once surged like a storm
against the encroaching tide of the English army,
bombarded by ceaseless rain,
the weathered stone of the castle glazes over
and in the silence, the land speaks.
Geraint Jones