Skip to main content

Ym 1944, fel rhan o'r paratoadau ar gyfer D-Day, daeth mewnlifiad enfawr o luoedd y Cynghreiriaid i’r DU i ymgynnull ar gyfer hyfforddiant ac i baratoi ar gyfer y glaniadau.

Nid oedd Pont-y-pŵl yn eithriad, a chyrhaeddodd 320fed Bataliwn Balŵn Morglawdd ym mis Chwefror.

Yr hyn a oedd yn anarferol oedd bod y 320fed yn fataliwn Pobl Dduon, ac yn rhan o fyddin ar wahân yr Unol Daleithiau, a dyma oedd y milwyr Du cyntaf i weld ymladd ar D-Day. Gwaith y 320fed oedd codi'r balwnau morglawdd llawn hydrogen dros draethau Omaha ac Utah, i amddiffyn y milwyr a’r cychod glanio a diogelu rhag ymosodiadau gan awyrennau'r gelyn.

Roedd y 621 o ddynion yn y Bataliwn yn gyfran o'r 130,000 o filwyr Du yr UDA ym Mhrydain. Roedd galwadau iddynt gael eu cadw oddi wrth y boblogaeth leol ond, wedi iddynt gyrraedd, gwelodd y milwyr eu bod mewn gwlad wahanol iawn, gydag agweddau gwahanol, i'r un yr oeddent wedi arfer â hi. Yn gyffredinol, cawsant groeso. Mae eu penderfyniad i barhau â'u brwydrau dros hawliau sifil ar ôl y rhyfel wedi'i briodoli'n rhannol i'r rhyddid a gawsant yn y DU ac Ewrop.

Cafodd y Bataliwn ganmoliaeth am ei wasanaeth, ac argymhellwyd bod un o'u meddygon, Waverley B. Woodson jr yn derbyn Medal Anrhydedd y Gyngres, y wobr uchaf. Yn hytrach, dyfarnwyd y Seren Efydd iddo, y bedwaredd wobr uchaf.

Ni ddyfarnwyd y Fedal Anrhydedd i unrhyw filwr Affricanaidd o America yn yr Ail Ryfel Byd.

Gwrandewch ar gân Alex Wharton sy’n deyrnged i filwyr duon y 320fed Bataliwn, gyda chyfieithiad Cymraeg gan Iestyn Tyne.

Rosanne

Rosanne di’n hogan i
Ges i gusan ar heol y plas
Mi gymrodd hi’n llaw, a ngalw i’n hardd
Diolch i Dduw a’i ras.


Byw mewn tre o’r enw Pontypwl
Lle ma’r bryniau’n las a’r afonydd yn oer;
Ma’r rhyfel yn achosi i’n stumog i droi
Ond ma nhw’n deud fy mod i’n arwr


’Di bod yn y dafarn lle ma’r dynion yn wyn,
Yn taro ‘ngefn a deud ’mod i’n foi iawn
Meddwl am Ffrainc dan y lleuad llawn
Dwi ddim isho mynd, dwi ddim isho lladd.


Rosanne di’n hogan i
Ges i gusan ar heol y plas
Mi gymrodd hi’n llaw, a ngalw i’n hardd
Diolch i Dduw a’i ras.


’Di sgwennu llythyr i ti wbod ’mod i’n saff
Paid ti a phoeni mam,
’Swn i’n licio i ti ngweld i’n gwenu yn iach
A chwrdd a ’nghariad di-nam.


Deud bo’ ni’n gadael mewn diwrnod neu ddau,
Ma’r cychod ar y dŵr,
Os mai dyma’r tro ola i ti glywed gen i,
Mi fydda i’n rhydd o’r stŵr.


Rosanne di’n hogan i
Ges i gusan ar heol y plas
Mi gymrodd hi’n llaw, a ngalw i’n hardd
Diolch i Dduw a’i ras.


Rosanne di’n hogan i
Ges i gusan ar heol y plas
Mi gymrodd hi’n llaw, a ngalw i’n hardd
Diolch i Dduw a’i ras
i Dduw a’i ras, diolch i Dduw a’i ras.