Betty Campbell (1934 - 2017)
Dywedwyd wrth Betty Campbell na allai merch ddu dosbarth gweithiol fyth lwyddo, ac y byddai’n wynebu ‘problemau anorchfygol’ yn ei dyhead i fod yn athrawes.
Mae cofeb yng Nghaerdydd bellach yn ei hanfarwoli; y brifathrawes ddu gyntaf yng Nghymru a fu’n gyfrifol am roi diwylliant a hanes Du ar gwricwlwm Cymru.
Wedi ei geni yn Butetown ym 1934, magwyd Betty Campbell yn Tiger Bay lle wynebodd ei mam dalcen caled yn cadw dau ben llinyn ynghyd ar ôl i’w thad gael ei ladd yn yr Ail Ryfel Byd. Roedd yn ddarllenwraig frwd o’r cychwyn cyntaf ac enillodd ysgoloriaeth i Ysgol Uwchradd, ond pan ddywedodd ei bod am fod yn athrawes, yr ymateb oedd, “O, ‘nghariad bach i, byddai’r problemau’n anorchfygol”.
Dywedodd Betty Campbell unwaith fod yr ymateb hwn wedi gwneud iddi grio. Datgelodd mai “dyma’r tro cyntaf i fi erioed grio yn yr ysgol. Ond fe wnaeth hynny’n fi’n fwy penderfynol, roeddwn i am fod yn athrawes doed a ddel.”
Roedd yn un o’r chwe myfyrwraig gyntaf yng Ngholeg Hyfforddi Athrawon Caerdydd a chymhwysodd fel athrawes cyn gweithio ei ffordd i fyny i fod yn brifathrawes. Roedd yn benderfynol o gyflwyno ei disgyblion i hanes Du, a hyrwyddodd addysg amlddiwylliannol a helpodd i sefydlu Mis Hanes Pobl Dduon.
Credir mai ei chofeb yw’r cyntaf i fenyw go iawn, a enwir, mewn gofod cyhoeddus awyr agored yng Nghymru. Cafodd ei gomisiynu yn dilyn pleidlais gyhoeddus o restr fer o fenywod o Gymru, sy’n tystio i’w harwyddocâd a’i dylanwad yng Nghymru.
Darllenwch gerdd Alex Wharton, Du ac Efydd, gyda chyfieithiad Cymraeg gan Iestyn Tyne.
Du ac Efydd
Yn y ddinas hon,
mae adeiladau’n tyrru o’m hamgylch.
Yn benthyg tameidiau o’r awyr, wedi’u geni
o goncrid. Gwyliaf gymylau’n
llithro heibio yn y gwydr.
Rwy’n meddwl, yn gwylio, yn fyw o hyd,
Du ac Efydd
Gwelaf bwysau meddyliau pobl
wrth i’w cyrff brysuro heibio. Ac
rwyf yma, i’r rhai hynny sy’n oedi, yn ystyried,
yn gwylio – ac i’r rhai sy’n crwydro ’mlaen. Rwyf
yma i’r plant, eu llyfrau a’u
haddysg. Dylech chi wybod fod aml
i ddeigryn wedi naddu’r wyneb a welwch, ond
dicter hefyd. Poen ac angerdd, balchder,
gwytnwch. Dyma fi, â chariad yn fy ngwneuthuriad,
ymddiriedaeth yn fy ngherfiad. Ac rwy’n falch.
Am mai fi ydym oll. Pob un ohonom.
Y cwestiynau a ofynnwn, y gwir a geisiwn.
Rwyf yma am fod angen i mi fod.
Doedd arnaf fi ddim ofn breuddwydio erioed. Dymchwel
muriau, chwalu ffiniau.
Felly dewch, gwyliwch y ddaear yn troelli.
Ewch ar daith yn y meddwl trwy
hanes, ac edrych am allan â gobaith.
Roedden nhw’n mynnu na allwn i ddim, ond
roedden nhw’n anghywir.
Rwy’n meddwl, yn gwylio,
yn fyw o hyd.
I Betty Campbell