Skip to main content

Ganwyd Iris de Freitas yn Guiana Brydeinig (Guyana erbyn hyn), ac fe ddaeth i’r brifysgol i astudio ym 1918.

Astudiodd fotaneg, Lladin a’r gyfraith, gan ennill gradd BA ym 1922 a gradd LLB (Baglor yn y Gyfraith) ym 1927. Pan ddychwelodd i’r Caribî wedyn, hi oedd y fenyw gyntaf i weithio ym maes y gyfraith yno, a’r fenyw gyntaf i fod yn erlynydd mewn achos llofruddiaeth.

Os ydych yn chwilio am ystafell astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae’n bosibl y byddwch yn dod o hyd i Ystafell Iris de Freitas. Cafodd yr ystafell hon ei henwi ar ôl Iris yn 2016, ar ôl i’w hanes ddod i’r amlwg.

Darllenwch gerdd Alex Wharton sydd wedi’i hysbrydoli gan fywyd a chyflawniadau Iris de Freitas, gyda chyfieithiad Cymraeg gan Iestyn Tyne.

Iris de Freitas Brazoa 

Beth oedd dy argraff di

o’r arfordir gwyntog? Creigiau

garw dan lach môr Iwerddon.

Ewyn gwyn ar y tonnau

tywyll. Gwylanod gwynion

yn yr awyr ddofn. A thithau. Dynes

Ddu yng ngŵn graddio Aberystwyth.

Dirgelwch cerdyn post. Gradd mewn

iaith, cyfraith a botaneg. Yr holl

enwau am gennin pedr,

              Narcissus, Daffodil, Narcisco

Un o gerrig llorio hanes

yw dy fywyd. Dy lais yn eco

yn llysoedd y Caribî. Eofn

yn wyneb lladdwyr. Llofruddiaid o ddifri.

Bywyd go iawn. Nid peth i’r gwangalon

ond arweinwyr, y rhai sy’n creu newid.

Doeddet ti ddim ar goll, go iawn.

yn gorffwys, o bosib – ond yn pefrio

fel erioed. Boed i’r heulwen barhau

i esmwytho dy wyneb. A boed i’r

bobl gofio dy enw.