Codi disgwyliadau yng Nghaerdydd Hoyw'r 1970au
Roedd y 1970au yn gyfnod ffyniannus i ddiwylliant hoyw yng Nghymru. Wedi i Ddeddf Troseddau Rhywiol 1967 gael ei phasio – wedi'i llywio drwy'r Senedd gan y gwleidyddion Cymreig Leo Abse AS a'r Ysgrifennydd Cartref Roy Jenkins – nid oedd rhyw hoyw rhwng dynion dros 21 oed yn drosedd mwyach. Tra bod llawer o bobl yn dal i wynebu homoffobia, yn enwedig mewn cymunedau llai, arweiniodd y rhyddid newydd hwn at fyd cymdeithasol hoyw ffyniannus mewn trefi a dinasoedd mwy – gyda'r bar hoyw agored cyntaf yn agor yng Nghaerdydd ym 1972.
Yn ogystal â rhoi'r gallu i bobl LHDTC+ gyfarfod yn rhydd a mynegi eu hunain heb berygl na llyffethair, rhoddodd sin hoyw'r brifddinas yn y 1970au fywyd newydd i rai o dafarnau Fictoraidd hardd y ddinas. Dyma ychydig o'r llefydd mwyaf arwyddocaol yn hanes bywyd nos Caerdydd.
Tafarn y King's Cross
Roedd bar hoyw swyddogol cyntaf Caerdydd ar agor rhwng 1972 a 2011 yn 25 Stryd Caroline. Am ddegawdau, dyma oedd canolbwynt bywyd hoyw yng Nghaerdydd, yn ôl yr hanesydd ac awdur A Little Gay History of Wales, Daryl Leeworthy. Y King's Cross oedd enw’r dafarn Fictoraidd ers ei hagor ym 1874, ond dim ond ar ôl i'r lle ddod yn far hoyw y newidiwyd yr arwydd i bortread o'r Brenin Iago I – Iago VI yn yr Alban – a oedd yn hoyw yn ôl pob sôn.
Fel lleoliad cymdeithasol Cymdeithas Hoyw Prifysgol Caerdydd, roedd yn lleoliad pwysig i lawer o bobl ifanc wrth iddyn nhw ddod allan, a chafodd adeilad y dafarn Fictoraidd ei restru gan Cadw ym 1999. Caeodd y lleoliad yn 2011, er gwaethaf ymgyrch i'w achub, cyn ailagor fel y Corner House Bar and Restaurant.
Y Blue Anchor
Yn y bar hoyw blaenorol hwn, mewn gwesty o arddull bensaernïol y Dadeni Iseldiraidd yn 62 Heol y Santes Fair, y cynhaliwyd disgo hoyw cyntaf Caerdydd. Fe wnaeth chwarae rhan bwysig yn y frwydr dros hawliau sifil pobl LHDTC+ yng Nghymru hefyd.
Ym 1971, dyma oedd man cyfarfod Cardiff Gay Liberation Front, a drefnodd yr orymdaith gyntaf dros hawliau hoyw yng Nghymru. Ym 1972, cynhaliodd y bar gyfarfodydd cyntaf cangen Caerdydd a Chasnewydd o'r Ymgyrch dros Gydraddoldeb Cyfunrywiol, a oedd yn ymgyrchu o blaid amddiffyniad cyfreithiol rhag gwahaniaethu homoffobig a gostwng oedran cydsynio cyfreithiol ar gyfer gwrywgydwyr fel ei fod yr un fath ag ar gyfer pobl heterorywiol. Cafodd yr adeilad brics coch hardd ei restru gan Cadw ym 1999 ac mae bellach yn gartref i far coctel Be At One a bwyty Le Monde.
Y Golden Cross
Dyma’r hynaf o'r bariau hoyw sydd wedi goroesi yng Nghaerdydd, ac mae'n parhau'n un o leoliadau cymdeithasu LHDTC+ mwyaf poblogaidd y ddinas. Yn ei dyddiau cynnar, roedd enw digon gwael gan y dafarn Fictoraidd hon ymhell cyn iddi ddod yn far hoyw. Cafodd ei disgrifio fel lle mwy garw na'r King's Cross, ond yn llawn cymaint o hwyl.
Mae lleoliadau hoyw penodol wedi bod yn dirywio ers degawdau ar draws gorllewin Ewrop, a hynny am sawl rheswm. Yn ffodus, mae cymdeithasau mwy goddefgar yn golygu bod llai o angen am leoliadau penodol hoyw, tra bod y rhyngrwyd wedi gwneud y broses o gysylltu cymunedau sydd ar y cyrion yn haws ac yn fwy diogel. Er hyn i gyd, y Golden Cross yw 'hen dduges grand LHDTC+ Caerdydd', o hyd yn ôl Pride Cymru, ac mae'n dal i gynnig lle i gymuned hoyw'r ddinas ymgynnull.
Mae ei statws fel Adeilad Rhestredig yn hirhoedlog hefyd, wedi'i sicrhau ym 1975 cyn bodolaeth Cadw hyd yn oed. Ymhlith ei nodweddion hanesyddol mwyaf trawiadol mae ei deils allanol, yn dyddio'n ôl i 1903, sy'n dangos Castell Caerdydd a Neuadd y Dref.