Skip to main content

Grant adeiladau hanesyddol 2022-23

Caeodd rownd gais y Grant Cynnal a Thrwsio Adeiladau Hanesyddol ar 31 Awst 2022.

Cyflwyniad Mae asedau cymunedol sydd wedi’u rhestru oherwydd eu diddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig yn gwneud cyfraniad pwysig at les a bywiogrwydd cymunedau ledled Cymru.

Mae eu hyfywdra a’u cadernid wrth i ni wynebu heriau’r newid yn yr hinsawdd yn cael ei danategu gan waith atgyweirio a chynnal a chadw rheolaidd. Felly, bwriad Rhaglen Grant Cyfalaf Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Adeiladau Hanesyddol 2022/23 yw cynnig cymorth ariannol tuag at gynnal a chadw ac atgyweirio asedau cymunedol hanesyddol, fel neuaddau pentref a chymunedol, sefydliadau, llyfrgelloedd, cofebion rhyfel ac addoldai sydd ar gael i’r gymuned ehangach eu defnyddio.

Mae grant o 75% o gost gwaith sy’n gymwys am grant, hyd at uchafswm o £25,000 yr eiddo, ar gael ar gyfer gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio bach amrywiol sy’n angenrheidiol i gadw asedau cymunedol mewn cyflwr da, fel:

  • glanhau cwteri dŵr glaw, cafnau a phibelli
  • atgyweirio neu newid rhannau o gafnau dŵr ac ati sydd wedi’u difrodi
  • mân atgyweiriadau i’r to, llechi/teils/cribau rhydd ac ati
  • atgyweirio/adnewyddu gwaith plwm/caeadau plwm
  • gwaith ailadeiladu bach, e.e. cyrn simnai/parapetau
  • atgyweirio neu ailbwyntio ardaloedd bach o waith maen
  • atgyweirio ac ailaddurno gwaith coed
  • atgyweirio gwydr ffenestri/drysau
  • atgyweirio gwaith plastro
  • atgyweirio waliau a rheiliau ffin.

Dylai’r gwaith gael ei wneud gan gontractwr gyda sgiliau cadwraeth / profiad o adeiladau hanesyddol ac yn dibynnu ar gymhlethdod y gwaith, dylai gael ei nodi gan bensaer neu syrfëwr siartredig sydd wedi’i achredu i wneud gwaith cadwraeth.

Efallai y bydd cyllid ychwanegol ar gael ar sail eithriadol lle mae’r ymgeisydd yn gallu dangos bod angen gwaith helaeth.

Mae ffioedd proffesiynol yn gymwys hefyd ac argymhellir gofyn am gyngor arbenigol oni bai eich bod yn defnyddio crefftwr â sgiliau cadwraeth.

Ni fydd Cadw yn ariannu; unrhyw adeiladau newydd, gwaith i wasanaethau, neu waith sydd eisoes wedi dechrau.

Mae’r cynllun grant yn broses gystadleuol sydd ar gael i brosiectau ar yr amod y bydd y gwaith yn cael ei gwblhau erbyn 1 Chwefror 2023 a bod cais yn cael ei wneud am daliad erbyn 1 Mawrth 2023.

Defnyddiwch y ffurflen gais sydd ynghlwm.

Mae’n rhaid cynnwys y canlynol gyda cheisiadau:

a. Amcanbrisiau neu dendrau:                                                                                                                                                                                                                               

  • i. Mae’n rhaid i geisiadau am waith yr amcangyfrifir y bydd yn costio £5,000 neu lai i gyd (heb TAW) gynnwys un amcanbris ysgrifenedig; ac
  • ii. Mae’n rhaid i geisiadau am waith yr amcangyfrifir y bydd yn costio £5,001 a mwy i gyd (heb TAW) gynnwys tri amcanbris ysgrifenedig;

(os na ellir cael tri amcanbris, mae'n rhaid rhoi esboniad clir).

Noder, bydd unrhyw gynnig grant yn cael ei gyfrifo yn defnyddio’r amcanbris isaf pa bynnag gontractwr rydych chi’n ei benodi i wneud y gwaith.

b. disgrifiad o’r gwaith/rhestr o’r gwaith a datganiad dull;
c. copïau o’r cynlluniau, lluniadau a dogfennau perthnasol;
d. ffotograffau o’r adeilad a’r mannau sy’n berthnasol i’r cais i ddangos natur y gwaith gofynnol;
e. rhagwelir na fydd angen cydsyniad adeiladu rhestredig ar y math o waith a'i raddfa h.y. cynnal a chadw ac atgyweirio sy’n union yr un fath (neu ganiatâd cyfatebol dan drefniadau esemptiad eglwysig) ond dylai'r cais gynnwys copi o ohebiaeth yn hysbysu'r awdurdod cynllunio perthnasol o'r bwriad i wneud y gwaith hwn, gyda chadarnhad gan yr awdurdod nad oes angen caniatâd. Os yw cais ffurfiol yn ofynnol gan yr awdurdod, bydd angen sicrhau caniatâd cyn y gellir cadarnhau unrhyw gynnig grant.

Efallai y bydd ceisiadau angen y canlynol hefyd:

f. adroddiad syrfëwr (os yw ar gael);
g. adroddiad ecolegol (os oes angen un, er enghraifft ar gyfer gwaith toi);
h. dogfennau ategol eraill (yn ôl y gofyn);
i. dyfynbris ar gyfer ffioedd Proffesiynol (os yw eich cais am grant yn cynnwys ffioedd Proffesiynol).

Amserlen:

Derbyn y cais erbyn 31 Awst 2022

Gwaith i gael ei gwblhau erbyn 1 Chwefror 2023

Hawliadau i gael eu cyflwyno erbyn 1 Mawrth 2023

Ni dderbynnir unrhyw geisiadau sy’n cyrraedd ar ôl y dyddiad cau.  

  • perchnogion
  • ymddiriedolwyr
  • eraill, e.e. pwyllgor rheoli, ficer, swyddog cyllid ac ati.

Ym mhob achos, mae’n rhaid i’r cais gael ei lofnodi gan berson sydd â’r awdurdod perthnasol. Os nad yr ymgeisydd yw’r perchennog, cyfrifoldeb yr ymgeisydd fydd cymryd pob cam rhesymol i gael caniatâd y perchennog.

a.          Cydsyniad adeilad rhestredig (neu ganiatâd cyfatebol dan drefniadau esemptiad eglwysig) 

Os oes angen Cydsyniad neu Ganiatâd, mae'n rhaid i chi gael a darparu naill ai;

  • copi o'r cydsyniad; neu
  • gadarnhad gan yr awdurdod perthnasol ei fod yn ei le; neu
  • gadarnhad bod cais wedi'i wneud.

Os nad oes angen Cydsyniad neu Ganiatâd, mae'n rhaid i chi gael a darparu:

  • cadarnhad o'r ffaith honno gan yr awdurdod perthnasol.

b. Cynghorydd Proffesiynol Arweiniol

Lle mae cyfanswm cost y prosiect yn £10,000 neu fwy, mae'n rhaid penodi cynghorydd proffesiynol arweiniol (pensaer, syrfëwr adeiladu siartredig neu dechnolegydd pensaernïol siartredig fel arfer). Bydd y cynghorydd hwn wedi'i achredu/ardystio i wneud gwaith cadwraeth.

Ar hyn o bryd rydym yn derbyn:

Penseiri sydd wedi’u rhestru ar y Gofrestr AABC yng nghategori ‘A’; Cofrestr RIAS ar lefel Achrededig neu Uwch neu Gofrestr Cadwraeth RIBA ar lefel Pensaer Cadwraeth Arbenigol
Syrfewyr adeiladu siartredig sydd wedi’u rhestru ar y Gofrestr Achrediad Cadwraeth Adeiladau RICS
Technolegwyr pensaernïol siartredig sydd wedi’u rhestru ar Gyfeiriadur Cadwraethwyr Achrededig COAT ar lefel Cadwraethwyr Achrededig.

Mewn rhai achosion, efallai y bydd Cadw yn gallu derbyn peiriannydd siartredig  neu arbenigwr treftadaeth arall fel y gweithiwr proffesiynol arweiniol priodol, ond byddai’n rhaid cytuno ar hyn cyn i unrhyw gynnig grant gael ei wneud.

c. Mae'n rhaid cwblhau pob prosiect erbyn 1 Chwefror 2023 a'i hawlio erbyn 1 Mawrth 2023.

Bydd Cadw yn anfon ffurflen gais i chi gyda’r llythyr cynnig grant. Telir grantiau Cadw mewn ôl-daliadau ar sail y costau rydych wedi’u talu.

Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth bod y gwaith wedi’i gwblhau. Gallai’r dystiolaeth hon cynnwys y canlynol:

  • tystysgrif gan eich cynghorydd proffesiynol yn ardystio gwerth y gwaith
  • anfoneb(au)/biliau â derbynebau neu unrhyw brawf arall o daliad sy’mn dderbyniol i Cadw
  • ffotograffau o’r gwaith wedi’i gwblhau.

 

Os ydych chi angen rhagor o gymorth neu wybodaeth yn ymwneud â’r Cais, cysylltwch â’r tîm grantiau Adeiladau Hanesyddol.

Blwch negeseuon e-bost Grantiau Cadw: CADWGrantsMailbox@llyw.cymru

Rydych chi’n cydnabod y gallwn rannu unrhyw ddata y byddwch yn eu rhoi i ni gydag asiantaethau atal twyll a thrydydd partïon at ddibenion atal a chanfod twyll. Bydd unrhyw ddata personol a gesglir yn cael eu rheoli yn unol â’n Hysbysiad Preifatrwydd, sydd ar gael i’w weld yma Hysbysiad preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru

O dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i ddiogelu unrhyw wybodaeth bersonol a gasglwn gennych chi. Rydym yn casglu’r wybodaeth hon er mwyn cadw cofnod o geisiadau a dderbynnir.
Os yw grant yn llwyddiannus byddwn yn cadw’ch gwybodaeth bersonol am hyd at 10 mlynedd er mwyn cydymffurfio ag amodau grant penodol

Mae manylion pellach ar eich hawliau o dan GDPR ar gael yma, neu cysylltwch â Data.ProtectionOfficer@llyw.cymru

Caeodd rownd gais y Grant Cynnal a Thrwsio Adeiladau Hanesyddol ar 31 Awst 2022.