Skip to main content

Gwnewch eich sioe bypedau ganoloesol eich hun!

Dilynwch y fideos i greu theatr ganoloesol, wedi'i hysbrydoli gan sioe gerdd Cadw Y Cwilsyn Rymus, hanes Gerallt Gymro!

Mae'r gwersi ar-lein hyn i gyd yn seiliedig ar thema bywyd canoloesol. Gellir gwneud popeth, o gestyll i filwyr a cheffylau, o eitemau o'r cartref. Mae'r gweithgareddau'n addas o bedair oed i oedolyn a phan fydd yr holl dasgau wedi'u cwblhau, bydd gennych chi sioe bypedau a theatr i ddifyrru a syfrdanu!

Gwnaed y gwersi fel rhan o brosiect dysgu cyfunol ac fe'u crëwyd gan addysgwyr dwyieithog, gyda chymorth gan blentyn pedair oed brwdfrydig iawn.

Mae'r gweithgareddau hyn hefyd yn addas ar gyfer cyflwyno elfen Celfyddydau Mynegiadol y cwricwlwm newydd a sy'n cyfeirio at artistiaid a thechnegau nodedig.