Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd Cadw

Sut rydym yn defnyddio data personol a gesglir gan ein harolwg ar ôl yr ymweliad.

Mae Cadw, sy'n rhan o Lywodraeth Cymru, yn casglu adborth ar brofiad a barn ymwelwyr yn barhaus. Nod y casglu data hwn yw:

  • rhoi cyfle i ymwelwyr â safleoedd sydd â staff Cadw rannu adborth ar ôl eu hymweliad
  • casglu'r adborth hwn er mwyn deall pwy yw ein cynulleidfaoedd ar hyn o bryd, a nodi ein cynulleidfaoedd coll
  • defnyddio'r canfyddiadau i wella profiad ymwelwyr ar safleoedd Cadw ac ehangu ein cynulleidfaoedd.

Cadw (Llywodraeth Cymru) yw'r prosesydd data a'r rheolydd data.

Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei rhannu'n fewnol o fewn Cadw (Llywodraeth Cymru) mewn fformat dienw.

Bydd data dienw hefyd yn cael ei rannu gyda thîm ymchwil bach sydd wedi’i leoli rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Caerhirfryn sy'n gweithio ar FreeTxt, offeryn dadansoddi testun dwyieithog (Cymraeg/Saesneg).  Ni fydd eich manylion personol (cyfeiriad e-bost) yn cael ei rannu fel rhan o'r prosiect.

Rydych yn cymryd rhan yn yr ymchwil hon yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, bydd eich adborth o'r arolwg yn helpu Cadw i wella profiad ymwelwyr ar y safle, gan gynnwys

Pa ddata personol sydd gennym a ble rydym yn cael y wybodaeth hon?

Diffinnir data personol o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) fel 'unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddynodwr'.

Nid yw'r arolwg presennol yn gofyn am fanylion personol fel eich enw, eich cyfeiriad a’ch rhif ffôn, ond gofynnir am eich cyfeiriad e-bost er mwyn cymryd rhan yn y raffl. Ni fyddwn yn defnyddio'r data hwn i'ch adnabod. Mae cymryd rhan yn y raffl yn wirfoddol, ac nid oes angen i chi roi eich cyfeiriad e-bost os nad ydych yn dymuno cymryd rhan.

Beth yw'r sail gyfreithlon ar gyfer defnyddio'ch data?

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.

Mae eich cyfranogiad yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig er mwyn i Cadw (Llywodraeth Cymru) gasglu gwybodaeth a thystiolaeth ymarferol am ei allu i gyflawni blaenoriaethau'r llywodraeth. Gellid defnyddio'r wybodaeth a gesglir yn yr ymchwil hon, er enghraifft.

  • benderfynu ymhle i fuddsoddi arian at ddibenion cadwraeth
  • penderfynu sut ac ymhle i wella profiad yr ymwelydd
  • bwydo mewn i fentrau hyfforddi staff.

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Mae gwybodaeth bersonol a roddir i Cadw (Llywodraeth Cymru) yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o weithwyr Cadw all gael mynediad at y data, a byddant yn defnyddio'r data hwn at ddibenion ymchwil yn  unig.

Bydd Cadw (Llywodraeth Cymru) hefyd yn rhannu data dienw gyda thîm ymchwil bach sydd wedi’i leoli rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Caerhirfryn fel rhan o'r prosiect FreeTxt, gan ddefnyddio rhaglen i drosglwyddo ffeiliau'n ddiogel. Mae FreeTxt yn offeryn dadansoddi testun dwyieithog (Cymraeg/Saesneg). Ni fydd eich manylion personol (cyfeiriad e-bost) yn cael ei rannu fel rhan o'r prosiect.

Wrth gynnal arolygon, mae Cadw’n defnyddio meddalwedd arolwg o'r enw SmartSurvey. Rydym wedi sicrhau bod Smart Survey yn cydymffurfio â’r GDPR ac yn bodloni’n disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir drwy'r feddalwedd. Caiff yr holl ddata ei brosesu yn y DU.

Mae gan Lywodraeth Cymru weithdrefnau i ddelio ag unrhyw achosion tybiedig o dorri rheolau diogelwch data. Os bydd achos tybiedig o dorri rheolau diogelwch data, byddwn yn rhoi gwybod i chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol lle mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i ni wneud hynny.

Bydd yr holl ddata a gesglir drwy'r ymchwil hon yn cael ei adrodd mewn fformat dienw. Ni fydd yn cynnwys eich manylion cyswllt a bydd unrhyw wybodaeth adnabyddadwy mewn atebion penagored yn cael ei dileu.

Am ba hyd yr ydym yn cadw eich data personol?

Bydd yr holl gyfeiriadau e-bost a gedwir gan Cadw (Llywodraeth Cymru) yn cael eu dileu unwaith y bydd y raffl berthnasol wedi'i chynnal.

Hawliau unigol

O dan y GDPR, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych fel rhan o'r arolwg hwn, mae gennych yr hawl:

  • i gael mynediad at gopi o'ch data eich hun
  • i ni gywiro anghywirdebau yn y data hwnnw
  • i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau)
  • i'ch data gael ei 'ddileu' (mewn rhai amgylchiadau); a
  • chyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn:

Information Commissioner
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Rhagor o Wybodaeth

Os oes gennych ragor o gwestiynau am sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o'r astudiaeth hon yn cael ei ddefnyddio gan Cadw (Llywodraeth Cymru) neu os hoffech arfer eich hawliau gan ddefnyddio'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol, cysylltwch â:

Ceri Thomas

E-bost: cadwmarketing@llyw.cymru

Ffôn: 0300 062 5147

Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru