Skip to main content

Beddrod Neolithig trawiadol ar siap siambr gyda mynedfa wedi ei hadfer yn rhannol a mwnt, ar safle hen heneb meingylch.

Mae'n debyg mai Bryn Celli Ddu - y Domen yn y Llwyn Tywyll - yw'r heneb gynhanesyddol mwyaf adnabyddus ar Ynys Môn. Mae hefyd yn un o'r safleoedd archeolegol mwyaf atgofus ym Mhrydain. Fel beddi cynhanesyddol eraill, cafodd ei adeiladu i warchod gweddillion yr hynafiaid, ac i dalu teyrnged iddynt.

Wedi'i archwilio o ddifrif am y tro cyntaf yn 1865, cloddiwyd y bedd yn llwyr yn 1928-29. Yn ystod y cloddiadau, datgelwyd rhywfaint o hanes hir a chymhleth y safle.

Mae’n edrych yn debyg fod gwaith ar yr heneb wedi’i ddechrau yn y cyfnod Neolithig diweddar tua 5000 o flynyddoedd yn ôl, fel 'cylch meini' neu loc defod. Roedd yn cynnwys bryncyn (nad yw yna bellach), o amgylch ffos fewnol oedd yn amgylchynu cylch o feini unionsyth. Yn wreiddiol, roedd y ffos yn 12 metr mewn diamedr. Gellir gweld yr ymyl allanol hyd heddiw, ac mae nifer o feini o'r cylch meini mewnol wedi goroesi.

Yn ddiweddarach, tuag at ddiwedd y cyfnod Neolithig, disodlwyd y cylch meini gan fedd cyntedd. Math o heneb gladdu oedd hwn a geir ar arfordir Iwerddon a chyn belled â Llydaw.

Mae bedd cyntedd Bryn Celli Ddu yn cynnwys cyntedd hir sy'n arwain at siambr garreg amlochrog. Yng nghyntedd y bedd, cafodd esgyrn dynol eu darganfod, rhai wedi'u llosgi a rhai nad oeddent wedi'u llosgi. Dim ond ychydig o bethau eraill gafodd eu canfod, ond roddent yn cynnwys cwarts, pennau saethau fflint, glain carreg, a chregyn brennig a chregyn gleision.

Mae carreg wedi'i addurno â phatrwm wedi'i chanfod ym Mryn Celli Ddu hefyd. Daethpwyd o hyd i'r garreg wrth bwll seremoni yng nghefn y siambr. Mae replica o'r garreg wedi'i osod ar y safle.

Yr hyn sy'n unigryw am Fryn Celli Ddu o'i gymharu â beddi eraill ar Ynys Môn yw mai dyma'r unig un sydd wedi'i osod yn berffaith i gyd-fynd â'r haul yn codi ar ddiwrnod hiraf y flwyddyn. Ar wawrio hirddydd haf, mae llafnau o olau o'r haul sy'n codi yn cael eu taflu lawr y cyntedd i oleuo'r siambr gladdu fewnol. Ai'r bwriad oedd i oleuni'r haul roi gwres a bywyd i'r hynafiaid?