#NadoligCadw
Cystadleuaeth ffotograffau
Er mwyn mynd i ysbryd y Nadolig, rydyn ni am i chi rannu eich llun, fideo neu rîl orau o'ch hoff safle Cadw ar Instagram gyda #NadoligCadw er mwyn cael cyfle i ennill tocyn Crwydro 3 diwrnod. P'un ai eich bod yn dewis tynnu hunlun, llun o olygfa neu’n dewis defnyddio’r hunan-amserydd, bydden ni wrth ein bodd yn gweld eich lluniau.
Mae'r broses yn syml:
- uwchlwythwch eich delwedd, fideo neu rîl o'ch hoff safle Cadw yr ydych wedi ymweld ag e ar Instagram
- defnyddiwch yr hashnod #NadoligCadw
- tagiwch @cadwcymruwales
- dilynwch ein tudalen Instagram, Facebook neu Twitter
- bydd delwedd/fideo neu rîl yr enillydd i’w gweld ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Cadw a bydd yn derbyn Tocyn Crwydro 3 diwrnod* — sy’n eich galluogi i grwydro hyd yn oed mwy o’n safleoedd mawreddog YN RHAD AC AM DDIM!
Telerau ac Amodau:
- Y dyddiad cau ar gyfer y gystadleuaeth yw 5:00pm ddydd Gwener 22 Rhagfyr 2023.
- Rhaid rhannu neu bostio eich delwedd yn organig ar Instagram.
- Rhaid i bawb sy’n cystadlu yn y gystadleuaeth dagio @cadwcymruwales, dilyn @cadwcymruwales a defnyddio’r hashnod #NadoligCadw.
- Bydd delwedd yn cael ei dewis ar hap.
- Gellir cyhoeddi enw’r enillydd ar gyfryngau cymdeithasol Cadw ynghyd â’u cais buddugol.
- Bydd y ddelwedd/fideo neu rîl fuddugol yn cael ei chyhoeddi ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Cadw.
- Byddwn yn cysylltu â'r enillydd trwy neges uniongyrchol o fewn 10 diwrnod i'r dyddiad cau i gadarnhau mai nhw yw'r enillydd, ynghyd â chyfarwyddiadau ar sut i hawlio eu gwobr. Gwneir ymdrechion rhesymol i gysylltu â'r enillydd. Os na fydd yr enillydd yn ymateb o fewn 7 diwrnod, mae Cadw yn cadw'r hawl i gynnig y wobr i ymgeisydd arall.
- Ni fydd y cynigion hynny nad ydynt yn enillwyr yn derbyn gohebiaeth bellach gan Cadw am eu cais.
- Trwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth, rydych yn derbyn telerau ac amodau'r gystadleuaeth arolwg cyffredinol hyn.