Skip to main content

Telerau ac amodau prynu ar-lein

Diolch am eich archeb.

Mae gwybodaeth am docynnau a brynwyd ar-lein, nwyddau o’r siop ac ad-daliadau isod. Efallai yr hoffech chi arbed/tynnu llun o’r dudalen hon ar gyfer y dyfodol.

Tocynnau mynediad a digwyddiadau

Os ydych chi wedi prynu tocyn mynediad cyffredinol neu docyn digwyddiad, caiff y rhain eu hanfon drwy e-bost.

Ni ellir ad-dalu tocynnau; ni ellir eu cyfnewid am ddyddiad, amser neu safle arall ac ni ellir eu trosglwyddo i unrhyw leoliad neu ddigwyddiad. 

Os na chaiff tocynnau eu hawlio ar y safle ar y dyddiad a’r amser penodedig, byddant yn cael eu hawlio’n awtomatig ac yn dod yn annilys.

Dylech gyrraedd gyda'ch tocynnau wedi'u printio o flaen llaw neu ar eich dyfais symudol er mwyn cael mynediad. 

Prisiau is i fyfyrwyr - dewch â'ch cerdyn adnabod myfyriwr â llun gyda chi bob tro y byddwch yn ymweld. Rydym yn derbyn y rhan fwyaf o fathau o gardiau adnabod myfyrwyr ac eithrio'r rhai heb lun a chardiau y gellir eu cael heb brawf o statws myfyriwr.

Weithiau mae rhai safleoedd ar gau am resymau sydd tu hwnt i’n rheolaeth ni, gallwn ni gynnal diwrnodau mynediad am ddim a / neu ddigwyddiadau arbennig. Ewch I wefan Cadw, ein cyfrifon Facebook neu Twitter  neu ffoniwch y safle cyn ymweld i sicrhau ei fod ar agor.

Os ydych chi’n aelod o Cadw ac yn prynu tocynnau er mwyn mynychu gyda gwesteion, cofiwch ddod â’ch cerdyn aelodaeth dilys er mwyn cael mynediad am ddim.

Am unrhyw ymholiadau eraill sy’n ymwneud â thocynnau, cysylltwch â: cadw@tfw.wales

Nwyddau o’r siop

Dim ond ar gyfer cludiant yn y DU mae’r prisiau. I drafod archebion tramor, e-bostiwch: CadwOnlineShop@llyw.cymru.

GWYBODAETH AM GLUDIANT

Cludiant safonol y DU (gan y Post Brenhinol neu Gludwr) £2.95

Cludiant Safonol – Yn berthnasol i gludiant safonol y DU yn unig – gallwch ddisgwyl cludiant gan y Post Brenhinol neu gludwr o fewn 7 diwrnod i archebu.

 Gallai cludiant i ardaloedd diarffordd gymryd hirach, gan gynnwys y codau post canlynol: AB, BT, DD 8-11, HS, IV, KA 27-28, KW, PA20-23, 28-29, 31, 34, 41 ymlaen, PH8, 10, 16, 18 ymlaen, TR21-25, ZE.

Pryd fyddaf yn derbyn fy nwyddau?

Ar ôl i chi archebu ar-lein, byddwn ni’n anfon e-bost cadarnhau â’r pwnc ‘Siop Ar-lein Cadw – diolch am eich archeb’ atoch chi.

Os nad ydych chi wedi derbyn yr e-bost hwn o fewn 24 awr i archebu neu os nad yw eich nwyddau wedi cyrraedd o fewn yr amser a nodir yn yr e-bost, e-bostiwch:

CadwOnlineShop@llyw.cymru

Dychwelyd ac ad-dalu

Ein polisi ad-dalu tocynnau ar-lein:

  1. gellirgweldprisiautocynnau, argaeleddtocynnau ac amseroeddagorsafleoedd ar Cadw.llyw.cymru
  2. mae’n rhaid talu am docynnau a ffioedd archebu wrth archebu ac ni ellir cadw tocynnau heb dalu
  3. ni ellir ad-dalu pob tocyn digwyddiad ar-lein oni bai bod y digwyddiad yn cael ei ganslo gan Cadw. Bryd hynny, rhoddir ad-daliad llawn
  4. ni ellir ad-dalu pob tocyn mynediad ar-lein oni bai bod y lleoliad yn cael ei gau gan Cadw. Bryd hynny, rhoddir ad-daliad llawn
  5. ni ellir cyfnewid, trosglwyddo nac ailwerthu tocynnau ar-lein er budd masnachol
  6. efallai na fydd tocynnau sydd wedi eu difrodi neu eu haddasu yn ddilys ac na fydd y deiliad yn cael mynediad
  7. efallai y gofynnir am brawf cyn hawlio rhai tocynnau a brynwyd ar-lein wrth fynd i mewn e.e. myfyriwr / aelod
  8. ymddiheurwn nad yw talebau gostyngiad, cynigion hyrwyddo na chynigion eraill yn ddilys wrth brynu tocynnau ar-lein, gan gynnwys talebau Tesco Clubcard.

Polisi dychwelyd ein siop:

Gobeithiwn y byddwch yn hapus gyda’ch pryniant. Os hoffech ddychwelyd gynnyrch a brynwyd gennym ni (ac eithrio cyhoeddiadau) byddwn yn hapus i ad-dalu neu gyfnewid yn llawn.

Pwysig: Dim ond os yw’n ddiffygiol/wedi’i ddifrodi wrth ei gludo neu cyn ei anfon, neu os anfonwn y cyhoeddiad/cyhoeddiadau anghywir atoch, y gellir ad-dalu am gyhoeddiadau.

Rhaid bod yr eitemau heb gael eu defnyddio, yn eu deunydd pacio gwreiddiol (gyda labeli) ac wedi’u dychwelyd o fewn 30 diwrnod i dderbyn eich archeb. Mae’r polisi hwn yn ychwanegol at eich hawliau statudol a’ch hawliau fel defnyddiwr.

I drefnu dychweliad, e-bostiwch CadwOnlineShop@llyw.cymru lle byddwch yn derbyn Cod Awdurdodi Dychweliad a ffurflen ddychwelyd. Dylid dychwelyd nwyddau ynghyd â’ch ffurflen ddychwelyd wedi’i llenwi at:

Manwerthu Cadw – Siop Ar-lein
Parc Busnes Rhydycar
Merthyr Tudful
CF48 1UZ

Anfonwch eich pecyn mewn ffordd ddiogel neu mewn ffordd y gellir ei holrhain a chadwch y prawf eich bod wedi ei bostio. Y cwsmer sy’n talu’r costau dychwelyd oni bai bod eitem yn ddiffygiol.

Os ydyn ni’n anfon eitem na wnaethoch chi ei harchebu (eitem “anghywir”), e-bostiwch ni a byddwn yn anfon taleb bostio wedi’i rhagdalu atoch er mwyn i chi ddychwelyd yr eitem.

Caiff pob ad-daliad ei brosesu o fewn 14 diwrnod i’r dyddiad rydyn ni’n derbyn yr eitemau.

Caiff ad-daliadau eu had-dalu i’ch dull gwreiddiol o dalu tua deuddydd ar ôl cael eu prosesu. Yn dibynnu ar eich banc, gallai gymryd hirach i’r credyd ymddangos ar eich cyfriflen.

Noder: Os ydych chi wedi prynu eitem mewn siop Cadw ac eisiau ad-daliad, dim ond mewn siop y gellir prosesu hyn. Peidiwch â defnyddio’r broses uchod, os gwelwch yn dda.

Eitemau na ellir eu had-dalu na’u cyfnewid

Ni allwn gynnig ad-daliad na chyfnewid y nwyddau canlynol (os nad ydyn nhw’n ddiffygiol):

  • cyhoeddiadau; fel llyfrau tywys / pamffledi tywys
  • nwyddau darfodus; fel bwyd
  • nwyddau gofal personol
  • colur
  • gemwaith ar gyfer tyllau
  • CD, DVD neu fideos heb eu selio

Byddwn ni’n ad-dalu’r tâl cludiant llawn os caiff cynnyrch diffygiol neu wedi ei ddifrodi ei ddychwelyd, ond ddim os yw’r cynnyrch yn ddiangen yn unig.

Eitemau diffygiol

Os yw eitem yn ddiffygiol, cysylltwch â ni ar 03000 250022 neu e-bostiwch CadwOnlineShop@llyw.cymru i drafod trefnu dychwelyd yr eitem neu gael un yn ei le.