Adfer Castell Coch i'w ogoniant hudolus – llinell amser y gwaith cadwraeth
Saif Castell Coch mewn man strategol fry uwchben ffin ogleddol Caerdydd, a hynny ers bron i fil o flynyddoedd, yn symbol parhaus o ddylanwad y teulu Bute ar brifddinas Cymru.
Dros amser, mae dŵr wedi dechrau treiddio trwy’r waliau ac i lawr i’r simneiau. Yn ystod arolygon o'r castell, sylweddolom fod y dŵr hwn wedi dechrau niweidio rhywfaint o'r addurniadau cywrain y tu mewn.
Er mwyn gwarchod y castell a sicrhau ei fod yn ddiogel i ni ei fwynhau, rydym wedi dechrau prosiect cadwraeth ar raddfa fawr i atal rhagor o ddifrod rhag digwydd ac i drwsio'r rhannau o'r castell yr effeithiwyd arnynt.
Dilynwch ein gwaith i adfer ysblander bythol Castell Coch ar ein llinell amser.
Methu dod i ymweld? Ewch draw i’n tudalen Ymweliadau Rhithiol er mwyn ymweld â Chartrefi Hanesyddol
Gorffennaf 2024
Mae antur chwedlonol yn amgylchynu Castell Coch
Mawrth 2024
Gwarchod Castell Coch ac adfer ei ysblander oesol
2019
Conservation action
Darganfyddwch sut y gwnaethom ddatgymalu ac ailadeiladu simneiau eiconig y castell ar ddechrau'r prosiect yn 2019.