Fel rhan o’n hyrwyddiad dros yr haf, rydyn ni’n cynnig mynediad am ddim i bawb dan 18 oed ar safleoedd Cadw dros benwythnos 14 a 15 Medi 2024.
Felly, os ydych chi’n awyddus i gael cip ar y gorffennol cynhanesyddol neu deithio’n ôl mewn amser i’r goresgyniad Rhufeinig, annerch eich deiliaid o’r prif fwrdd mewn llys brenhinol Tuduraidd, neu ymosod ar furiau cestyll ganrifoedd yn ôl, mae ganddon ni rywbeth i’ch helpu i wneud y penwythnos hwn yn un i’w gofio.
Edrychwch ar ein telerau ac amodau isod a chysylltwch â’n timau cyn ymweld os hoffech chi ragor o wybodaeth.
Ewch i’n tudalen Cymru trwy Lwybrau am fwy o ysbrydoliaeth.
Telerau ac amodau Am Ddim i Blant:
Cyfnod yr hyrwyddiad yw dydd Sadwrn 14 – dydd Sul 15 Medi 2024.
*Castell Carreg Cennen, Castell Weble, Amgueddfa Cerrig Margam.