Beth a wnawn ni
Cadw yw gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru.
Ein Cenhadaeth
Gofalu am ein lleoedd hanesyddol ac ysbrydoli cenedlaethau heddiw ac yfory.
Mae diben ehangach i’n gwaith – diogelu ein lleoedd hanesyddol fel y gallan nhw barhau i ysbrydoli’r cenedlaethau sydd i ddod. Edrychwn yn ôl fel y gallwn weld ymlaen.
Ein Gweledigaeth
Cymru lle mae pawb yn gofalu am leoedd hanesyddol, yn eu deall a’u rhannu.
Mae ein lleoedd hanesyddol yn dal i chwarae rhan hanfodol wrth lunio’r Gymru fodern. Maen nhw’n cynnig dolen fyw â’n hanesion amrywiol ac yn ein helpu i wneud synnwyr o’n lle mewn byd sy’n newid.
Rydym yn gweithio dros warchod amgylchedd hanesyddol hygyrch i Gymru.
Byddwn yn gwneud hyn drwy:
- helpu i ofalu am ein hamgylchedd hanesyddol er budd pobl heddiw ac yfory
- hyrwyddo datblygiad y sgiliau sydd eu hangen i ofalu am ein hamgylchedd hanesyddol yn iawn
- helpu pobl i drysori a mwynhau ein hamgylchedd hanesyddol
- gwneud i’n hamgylchedd hanesyddol weithio er ein lles economaidd
- gweithio gyda phartneriaid i gyrraedd ein nodau cyffredin gyda’n gilydd.
Mae Cadw yn rhan o Adran Celfyddydau a Chwaraeon Llywodraeth Cymru ac yn atebol i’r Dawn Bowden AS, y Dirprwy Weinidog.