Adroddiad Newyddion am Brosiect Dysgu Gydol Oes — BeConwy
Yn 2021 ffurfiodd tîm Dysgu Gydol Oes Cadw a Chastell Conwy bartneriaeth â Pigtown Theatre, Shakes VR, Celfyddydau Anabledd Conwy, Canolfan Ddiwylliannol Conwy ac wyth o sefydliadau eraill yn rhan o brosiect Realiti Rhithwir cyffrous.
Cafodd y prosiect ei greu a’i arwain gan Pigtown Theatre a’i ariannu gan Grant Cysylltu a Ffynnu Cyngor Celfyddydau Cymru, ac roedd Cadw wrth ei fodd o gael bod yn rhan o’r ffordd newydd ysbrydoledig hon o sicrhau mynediad i’n treftadaeth.
Roedd enw’r prosiect, sef BeConwy, yn enw addas iawn ac roedd yr antur i fyd rhithwir mor ysbrydoledig a gwreiddiol fel ei bod wedi torri tir newydd ym maes profiadau rhithwir byw!
Llwyddodd y prosiect i gyfuno treftadaeth â’r celfyddydau perfformio, gan estyn allan i’r byd a denu chwech o wledydd i gymryd rhan ynddo, a roddodd Gastell Conwy ar y map rhyngwladol mewn modd trawiadol dros ben.
Dychmygwch y canlynol am eiliad... gallu mynd drwy Gastell Conwy yn rhithwir gan ddefnyddio rhithffurfiau a mwynhau treftadaeth wedi’i hail-greu.
Gallu mwynhau perfformiad byw lle mae actorion proffesiynol, ar ffurf jac-dos, yn eich tywys drwy leoliad tebyg i Ystafell Ddianc gan ddatgelu straeon cyfareddol Conwy.
Bod ynghanol gwaith celf gan bobl leol, a grëwyd yn ddigidol gan artistiaid digidol ifanc addawol – artistiaid sydd wedi defnyddio eu dawn i greu copi wrth raddfa o’n castell mewn byd rhithwir.
Gwrando ar synau cerddoriaeth newydd wedi’i chyfansoddi a’i chanu gan gerddor talentog o Gymru. Ac yn olaf, ymlacio yn lolfa’r jac-dos yn neuadd y castell, lle gallwch siarad â’r cyfranogwyr eraill a rhannu eich profiadau â’ch gilydd.
Mae modd defnyddio ffôn symudol neu liniadur a phenset i weld cynnyrch y prosiect, a buodd cyfanswm o 684 o bobl greadigol yn cymryd rhan ynddo. Mae’r prosiect wedi bod mor ysbrydoledig ac arloesol fel ei fod wedi tanio diddordeb ar draws y maes digidol ac ym mhob cwr o’r byd erbyn hyn.
Yn rhan o’n partneriaeth sy’n parhau, rydym yn gobeithio dal ati i syllu i’r dyfodol digidol a helpu i gyflwyno’r profiad hwn i bobl ledled Cymru a’r byd.
Gwyliwch y gofod rhithwir hwn!
Ffilm fer i roi blas i chi o’r hyn ddigwyddodd...