Archaeoleg Hynafol Fyw: Mae Bryn Celli Ddu yn cynnal digwyddiadau hanes byw a llên gwerin ar Ynys Môn
Camwch yn ôl mewn amser ym Mryn Celli Ddu, ger Llanfairpwllgwyngyll, ar gyfer digwyddiadau hanes byw a llên gwerin ym mis Mehefin, sy'n ceisio archwilio tirwedd, defod, llên gwerin, a dathlu archaeoleg trwy ddehongli creadigol.
Mae Bryn Celli Ddu yn un o'r safleoedd archaeolegol enwocaf ym Mhrydain, adeiladwyd y beddrod 5,000 oed ar un adeg i amddiffyn a thalu parch i weddillion hynafiaid.
Diwrnod Agored Archaeoleg Bryn Celli Ddu
Rhwng 11–4pm ar 14 Mehefin 2025, cynhelir diwrnod agored yn dathlu cynhanes Cymru a thu hwnt ym Mryn Celli Ddu. Eleni rydym yn edrych yn fanwl ar archaeoleg a hanes hynafol o'r Oes Neolithig a'r Oes Efydd yng Nghymru a thu hwnt ac yn tynnu sylw at y defnydd o liw yn y gorffennol.
Drwy gydol y dydd, bydd gwahoddiad i fynychwyr wylio arddangosiadau cnapio fflint byw gydag arbenigwyr fflint Ancient Crafts; ewch ar daith archaeoleg ddwyieithog o amgylch y gofeb gyda'r hynafiaethydd pync enwog Rhys Mwyn; archwiliwch y cloddiad archaeolegol ac ymunwch â thaith o amgylch y ffos bresennol; gwyliwch arddangosiadau o dechnegau gwneud celfyddyd graig hynafol; hyd at ddarganfod mwy am liwiau naturiol hynafol, pigmentau paent mwynau ocr a daeareg lliwgar yr ynys gyda daearegwyr Stone Science a GeoMôn.
CARREG ATEB @ Bryn Celli Ddu
Rhwng 4–7pm ar 22 Mehefin 2025, gwahoddir ymwelwyr i ymuno ag archaeolegwyr ac artistiaid ym Mryn Celli Ddu am brynhawn cyfareddol o orymdaith a pherfformiad wedi'u hysbrydoli gan lên gwerin.
Bydd y digwyddiad yn croesawu'r artist rhyngwladol, Jeremy Deller, i'r safle, i ddathlu penwythnos heuldro'r haf, ynghyd â gwesteion arbennig o'r gwledydd Celtaidd eraill gan gynnwys yr Armagh Rhymers, gan ddod â ffurfiau pensaernïol Bryn Celli Ddu yn fyw trwy gerddoriaeth, symudiad a gorymdaith. Ymunwch yn ein gorymdaith lên gwerin lliwgar; a gwyliwch wrth i'r safle ddod yn fyw gyda pherfformiad gan Fran Wên.
Mae'r digwyddiad am ddim i fynychu, ond mae tocynnau'n hanfodol.
Dywedodd Dr Ffion Reynolds, Uwch Rheolwr Digwyddiadau Treftadaeth a Chelfyddydau yn Cadw: “Mae Bryn Celli Ddu yn heneb anhygoel, ac yn safle gwych i hyrwyddo archaeoleg a hanes toreithiog Ynys Môn. Mae cyfuno gorffennol cyfoethog heneb â'r celfyddydau gyda digwyddiadau fel hyn yn helpu i agor y safleoedd i fwy o bobl eu mwynhau a dod â threftadaeth a hanes Cymru yn fyw mewn ffordd gofiadwy.”
Mae'r digwyddiad yn bartneriaeth rhwng Cadw, Think Creatively, Galeri Caernarfon, Pontio, Oriel Môn, Prifysgol Fetropolitan Manceinion ac fe'i cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Mae CARREG ATEB: Vision or Dream? yn digwydd fel rhan o The Triumph of Art, prosiect ledled y DU gan yr artist Jeremy Deller, fel rhan o ddathliadau daucanmlwyddiant Oriel Genedlaethol, Llundain NG200. Mae Mostyn yn gweithio mewn cyd-gynhyrchiad gyda Frân Wen a Jeremy Deller i gynhyrchu darn o orymdaith a symudiad dan arweiniad pobl ifanc, a fydd yn digwydd dros benwythnos heuldro, ar yr 21ain o Fehefin, yn Llandudno a Mostyn, ac ar yr 22ain o Fehefin ym Mryn Celli Ddu, Ynys Môn.
Mae Triumph of Art yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â'r Oriel Genedlaethol, Llundain, Coleg Celf a Dylunio Duncan o Jordanstone yn Dundee, Mostyn yn Llandudno, The Box yn Plymouth a The Playhouse yn Derry-Londonderry. Cefnogir gan Gronfa Gelf.
Parcio:
Darperir parcio am ddim ar fferm Bryn Celli Ddu. Dilynwch yr arwyddion i'r gofeb a dilynwch gyfarwyddiadau ein stiward. Cod post SAT NAV: LL61 6EQ
Lluniaeth:
Bydd lluniaeth a byrbrydau ar gael yn y digwyddiadau.