Camwch yn ôl mewn amser ym Mryn Celli Ddu, ger Llanfair PG, ar 17 Mehefin 2023 ar gyfer digwyddiad hanes byw sy'n ceisio archwilio tirwedd, defod, lliw, a dathlu archaeoleg trwy ddehongli creadigol.
Mae Bryn Celli Ddu yn un o'r safleoedd archeolegol enwocaf ym Mhrydain, roedd y beddrod 5,000-mlwydd-oed ar un adeg wedi’i adeiladu i thalu parch i weddillion y cyndeidiau.
Rhwng 11–4pm ar 17 Mehefin, bydd diwrnod agored i ddathlu cynhanes Cymru a thu hwnt yn cael ei gynnal ym Mryn Celli Ddu gyda thro newydd! Eleni rydym yn edrych yn fanwl ar archeoleg a hanes hynafol o Oes Neolithig ac Efydd Cymru a thu hwnt ac yn tynnu sylw at y defnydd o liw yn y gorffennol.
Trwy gydol y dydd, bydd y mynychwyr yn cael eu gwahodd i wylio arddangosiadau naddu fflint byw gydag arbenigwyr fflint Ancient Crafts; mynd ar daith archaeoleg ddwyieithog o amgylch yr heneb gyda'r hynafiaethydd enwog Rhys Mwyn; gwylio arddangosiadau o dechnegau gwneud potiau a basgedi hynafol; drwodd i ddarganfod mwy am liwiau naturiol hynafol, pigmentau paent mwynol ocr a daeareg liwgar yr ynys gyda Stone Science.
Bydd gweithgareddau ‘rhowch gynnig arni’ a llawer o arbenigwyr a all eich cyfarwyddo ar wahanol grefftau a sgiliau’r oes.
Hefyd, bydd y mynychwyr yn cael cyfle unigryw i siarad ag aelodau Urdd Derwyddon Ynys Môn am arwyddocâd codiad haul yr heuldro ym Mryn Celli Ddu.
Dywedodd Dr Ffion Reynolds, Rheolwr Treftadaeth a Chelfyddydau yn Cadw:
“Mae Bryn Celli Ddu yn heneb anhygoel, ac yn safle gwych i hyrwyddo archaeoleg a hanes toreithiog Ynys Môn. Mae cyfuno hanes cyfoethog heneb a’r celfyddydau gyda digwyddiadau fel hyn yn helpu i agor y safleoedd i fwy o bobl fwynhau a dod â threftadaeth a hanes Cymru yn fyw mewn ffordd gofiadwy.”
I gael rhestr lawn o ddigwyddiadau’r haf, ewch i www.llyw.cymru/cadw, dewch o hyd i Cadw ar Facebook neu dilynwch @CadwWales ar Twitter.