Skip to main content
Gwaith Haearn Blaenafon
Wedi ei gyhoeddi

Ar 25 Medi, bydd Gwaith Haearn Blaenafon, Safle Treftadaeth y Byd UNESCO, yn cynnal ‘lansiad roced’ epig ― gyda thocynnau ar gyfer y digwyddiad byw yn cael eu rhyddhau heddiw (13 Medi).

Bydd y digwyddiad eiconig yn gweld Infinity Space Wales ― asiantaeth ofod a ddychmygwyd gan Tin Shed Theatre Co. ― yn cymryd drosodd y safle treftadaeth sydd dan ofal Cadw ar gyfer cynhyrchiad ymgolli, safle-benodol sy’n archwilio hunaniaeth, etifeddiaeth, a lle Cymru yn y bydysawd.

Bydd yr olygfa sy’n addas i deuluoedd yn dilyn y cadét, Elin, ar ei thaith i’r gofod wrth iddi ymchwilio i ffynhonnell “Y Blip”.

Gan wahodd cynulleidfaoedd i brofi gwefr lansiad roced go iawn, bydd y sioe yn gwbl hygyrch gyda dehongliad BSL, isdeitlau a disgrifiad sain ar gael hefyd.

Yn ôl George Harris, Cyfarwyddwr Cwmni Tin Shed Theatre Co.:

“Pan aethon ni i Flaenafon am y tro cyntaf, fe’i nodwyd gennym fel tref sydd wir wedi buddsoddi yn ei threftadaeth ddiwylliannol.

“Roedd y Gwaith Haearn yn teimlo fel y lle perffaith i greu darn eang o theatr awyr agored, sy’n benodol i’r safle ac sy’n mynd i’r afael â’r cysyniad mwyaf y gallem ei ddychmygu: archwilio’r gofod.

“Rydyn ni mor gyffrous i ddod â chynhyrchiad ymgolli awyr agored mor amserol i ofod eiconig yn ne Cymru. Ar ôl gorfod gohirio’r sioe am flwyddyn oherwydd cyfyngiadau’r cyfnod clo yn 2020, rydyn ni’n hapus i allu mynd i’r llwyfan o’r diwedd.”

Gellir prynu tocynnau ar gyfer Lansiad Roced Blaenafon, sy’n digwydd ar 25 Medi 2021 am 7:30pm, yma, gyda thocynnau’n costio £5. Mae 600 o docynnau ar gael ar gyfer y digwyddiad awyr agored er mwyn caniatáu ymbellhau cymdeithasol yn effeithiol.

Fodd bynnag, ni fydd yn rhaid i’r rhai sy’n methu â mynd i’r cynhyrchiad wyneb yn wyneb golli allan, gan y bydd Lansiad Roced Blaenafon yn cael ei ffrydio’n fyw ar iswales.com o 25 Medi ― gyda gwylwyr yn gallu cael cipolwg ar baratoadau munud olaf cyn y digwyddiad go iawn. Bydd gan y llif byw ddehongliad BSL ac isdeitlau.

Er mwyn dod yn gyfarwydd â synau, gweadau a goleuadau’r sioe, anogir aelodau’r gynulleidfa i ymweld â siop dros dro “Y Gofod” ar Broad Street, Blaenafon ― a fydd ar agor o ddydd Iau i ddydd Sul bob wythnos o nawr tan ddiwedd y sioe ddydd Sadwrn 25 Medi.

Mae nifer cyfyngedig o docynnau am ddim i brofi’r Lansiad Roced ar gael i drigolion Blaenafon drwy siop dros dro “Y Gofod” ar Broad Street, Blaenafon. I gael mynediad at docynnau am ddim, rhaid i bobl leol ddod ag un ddogfen yn profi preswyliaeth.

Yn ddelfrydol ar gyfer plant â Chyflwr Sbectrwm Awtistiaeth neu anghenion ychwanegol tebyg, mae “Y Gofod” wedi’i gynllunio i roi cyflwyniad synhwyraidd i’r perfformiad ― ac adeiladu’r cyffro ymhlith cadetiaid gofod y dyfodol.

Yn ôl Ffion Reynolds, Rheolwr Treftadaeth a’r Celfyddydau Cadw:

“Mae Lansiad Roced Blaenafon yn dathlu 20 mlynedd ers i Waith Haearn Blaenafon gael ei restru fel Safle Treftadaeth y Byd UNESCO, ac edrychwn ymlaen at groesawu “Infinity Space Wales” i’r Gwaith Haearn ar gyfer yr hyn sy’n siŵr o fod yn noson anhygoel o theatr fyw.

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd y gymuned leol yn mwynhau’r olygfa, ac y bydd yn ysbrydoli hyd yn oed mwy o ymweliadau â’n casgliad o safleoedd treftadaeth ledled y wlad.”

Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden AS:

“Rydyn ni’n ffodus yng Nghymru o gael cynifer o leoliadau gwych i gynnal cynyrchiadau celfyddydol awyr agored, ac rwy’n falch o weld mai Gwaith Haearn Blaenafon fydd y safle ar gyfer gwaith theatr arloesol, uchelgeisiol.

“Mae cynyrchiadau celfyddydol awyr agored yn cynnig profiadau mor unigryw i gynulleidfaoedd, ac rwy’n hyderus y bydd llwyddiant Lansiad Roced Blaenafon yn annog hyd yn oed mwy o gwmnïau theatr a chelfyddydol i ystyried llwyfannu eu gwaith yma yng Nghymru.”

Gwnaed Lansiad Roced Blaenafon yn bosibl diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru. Diolch i Newbridge Memo and National Theatre Wales.