Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Nawr mae Cadw yn galw am wybodaeth am berlau treftadaeth cudd eraill...

Mae Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, wedi galw ar aelodau'r cyhoedd i awgrymu adeiladau, tirnodau a safleoedd o ddiddordeb ar gyfer rhestru a diogelu treftadaeth yng Nghymru.

Daw'r alwad ar ôl i Flwch Ffôn 161 yr AA gael statws rhestredig Gradd II — anrhydedd a roddwyd ym mis Mai 2020, yn dilyn argymhelliad gan Mr John Bell, un o drigolion Aberhonddu.

Wedi'i leoli ar yr A40 rhwng Crucywel a Thretŵr ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae'r blwch ffôn chwe deg oed yn un o ddim ond tri sydd wedi goroesi yn eu lleoliadau gwreiddiol yng Nghymru.

Bob blwyddyn, mae Cadw yn cynnal arolygon ac arolygiadau ar lawr gwlad mewn ystod eang o eiddo ledled Cymru — gan ddyfarnu statws rhestredig i ambell un sydd â gwerth arbennig i’r genedl am eu hanes, eu pensaernïaeth, a’u hoedran.

Fodd bynnag, er mwyn helpu i nodi a diogelu adeiladau, gwrthrychau a pherlau cudd Cymru drwy weddill y flwyddyn, mae Cadw yn annog aelodau o'r cyhoedd i argymell tirnodau llai adnabyddus i'w harchwilio — yn union fel Blwch Ffôn 161 yr AA.

Diolch i Mr Bell, a roddodd wybod i gorff treftadaeth Cymru am y trydydd blwch heb ei restru ym mis Ionawr eleni, mae pob un o dri blwch ffôn yr AA yng Nghymru bellach yn cael eu diogelu gan Cadw fel adeiladau rhestredig Gradd II — gyda blwch 289 wedi'i leoli ym Mhontarfynach, Ceredigion, a blwch 580 ar Benrhyn Llŷn.

Wedi'u hadeiladu gan gyn-filwyr rhyfel anabl yn Enham Industries yn Hampshire, roedd y blychau hyn wedi'u rhifo yn olygfa gyffredin ar ochrau ffyrdd yn y 1950au. Byddent wedi cynnwys diffoddwyr tân, mapiau ffyrdd a ffôn i alw am gymorth pe bai car yn torri i lawr — a dim ond drwy brif allwedd a roddwyd i aelodau'r Automobile Association (AA) y byddai modd eu hagor.

Dywedodd Mr Bell, sy'n 64 oed:

"Pan symudais i ardal Aberhonddu ddeunaw mis yn ôl, roeddwn eisoes yn gyfarwydd â Blwch AA 161 — ar ôl ei ddefnyddio fel aelod o'r AA ddeugain mlynedd yn ôl.

"Rydw i wedi bod â diddordeb mewn cadw adeiladau erioed, felly ar ôl gweld ei ddyluniad trawiadol o unigryw eto flynyddoedd lawer yn ddiweddarach, es i ati i wneud rhywfaint o ymchwil.

"Cyn bo hir dysgais mai dim ond llond llaw o flychau’r AA sydd ar ôl yn eu lleoliadau gwreiddiol ledled y wlad, felly pan sylweddolais nad oedd hwn wedi'i restru eto, ysgrifennais at Cadw ar unwaith. 

"Yn dilyn gohebiaeth fer gyda thîm Diogelu a Pholisi Cadw, roeddwn yn falch o weld Blwch AA 161 yn derbyn statws rhestredig Gradd II yn y gwanwyn. Mae'r gweddill yn hen hanes!"

Dywedodd Dr Chris Stiefvater-Thomas, Swyddog Adeiladau Rhestredig Cadw,

"Mae Blwch Ffôn 161 yr AA a'i ddwy chwaer flwch yn nodi chwyldro symudedd yng Nghymru ar ôl y rhyfel.

"Pan ddaeth dogni petrol i ben ar ddechrau'r 1950au, cynyddodd perchnogaeth ceir ymhlith gweithwyr ffatrïoedd Cymru, gwneuthurwyr dur a glowyr — ac arweiniodd hyn at gynnydd yn nifer aelodau’r AA a dyfodiad Blychau Ffôn yr AA yng Nghymru, yn union fel blwch 161.

"Rydym wrth ein boddau ein bod wedi gallu cwblhau'r set o dri thirnod rhestredig a hoffem ddiolch i Mr Bell am roi gwybod i ni am leoliad blwch 161. Mae mewnbwn Mr Bell yn profi gwerth ymddiddori yn eich hanes lleol, gydag awgrymiadau fel hyn yn ein galluogi i warchod a diogelu perlau cudd am genedlaethau i ddod.

"Yn ystod gweddill 2020, byddwn yn parhau i ddilyn awgrymiadau gan y cyhoedd i arolygu ac archwilio tirnodau ein treftadaeth. Mae cyfyngiadau teithio sydd ar waith o ganlyniad i'r pandemig yn medru gwneud hyn yn fwy anodd, ac mae’n rhaid i adeiladau sydd dan fygythiad cael blaenoriaeth, ond rydym bob tro’n edrych ymlaen at dderbyn argymhellion gan y cyhoedd o ran gwrthrychau, adeiladau a henebion diddorol yng Nghymru — waeth pa mor fawr neu fach ydyn nhw."

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas:

"O flychau ffôn i gestyll canoloesol a hyd yn oed arwyddion ffyrdd yr ugeinfed ganrif, mae adeiladau hanesyddol yn rhan werthfawr o dreftadaeth Cymru.

"Gan gyfrannu at ein hunaniaeth a'n hymdeimlad o le, mae pob rhestriad yn chwarae rhan yr un mor bwysig wrth ein helpu i ddeall ein hanes, ynghyd â hyrwyddo delwedd gadarnhaol o Gymru ledled y byd. Ychydig iawn o adeiladau o ail hanner yr ugeinfed ganrif, fel Blwch 161 yr AA, sydd wedi'u rhestru gan Cadw hyd yma, felly rydym yn arbennig o awyddus i restru rhagor o adeiladau a pherlau cudd haeddiannol o'r cyfnod hwn.

"Felly, byddem yn annog unrhyw un sydd â safle o bwysigrwydd hanesyddol neu bensaernïol arbennig mewn golwg o unrhyw gyfnod i gysylltu â Cadw. Drwy wahodd cyfranogiad y cyhoedd, gobeithiwn ysgogi eu mwynhad yn yr adeiladau hyn, a’u diogelu er budd cenedlaethau'r dyfodol."