Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru)
Y Cwnsler Cyffredinol yn rhoi tystiolaeth wrth i broses graffu’r Senedd ddechrau
Agorodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad, dan gadeiryddiaeth Huw Irranca Davies, AS, ei broses graffu ar Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) gyda sesiwn rithwir ar 11 Gorffennaf 2022. Croesawodd y pwyllgor y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, Mick Antoniw AS ynghyd a Dylan Hughes, Prif Gwnsler Deddfwriaethol a James George, Uwch-gwnsler Deddfwriaethol.
Yn ystod y cyfarfod 90 munud, derbyniodd aelodau’r pwyllgor – a oedd yn gyffrous eu bod yn mynd i graffu ar y Bil cydgrynhoi cyntaf i’w gyflwyno gerbron y Senedd – dystiolaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Cwnsleriaid Deddfwriaethol ar bynciau’n amrywio o’r dull cyffredinol o ymdrin â chydgrynhoi a beth oedd wedi’i gynnwys a’i hepgor o’r Bil, i faterion manwl fel terminoleg ac agweddau ar y drafftio, i sut y byddai’r ddeddfwriaeth yn gweithredu fel rhan o god cyfraith ar yr amgylchedd hanesyddol. Gallwch wylio’r sesiwn gyfan ar Senedd.tv neu ddarllen trawsgrifiad o’r drafodaeth.
Mae’r pwyllgor wedi ysgrifennu at y Cwnsler Cyffredinol eisoes yn gofyn am ragor o fanylion ar nifer o bwyntiau a bydd yn parhau i gasglu tystiolaeth dros yr haf a’r hydref. Gall y Pwyllgor wahodd tystiolaeth ysgrifenedig gan randdeiliaid â diddordeb dros yr haf a chynnal sesiwn dystiolaeth lafar yn yr hydref. Mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi cael gwahoddiad eisoes i ddychwelyd yn Nhachwedd i drafod materion a allai godi yn ystod ystyriaeth y pwyllgor o’r Bil. Cyn diwedd y flwyddyn, bydd y pwyllgor yn adrodd yn ôl i’r Senedd ar a ddylai’r Bil symud ymlaen fel Bil Cydgrynhoi.