Mae Comisiwn y Gyfraith yn gorff annibynnol statudol sy'n parhau i adolygu cyfraith Cymru a Lloegr gan argymell diwygio lle mae ei angen. Heb os, roedd y Pwyllgor yn awyddus i gael barn Comisiwn y Gyfraith ar y Bil nid yn unig oherwydd ei gyfrifoldebau cyffredinol, ond hefyd oherwydd ei ymwneud penodol â dechreuadau’r Bil.
Dylanwadodd adroddiad y Comisiwn yn 2016, sef Ffurf a Hygyrchedd y Gyfraith sy’n Berthnasol yng Nghymru, ar Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 a rhaglen gyfredol Llywodraeth Cymru i wella hygyrchedd cyfraith Cymru. Y Bil Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) yw'r cynnyrch cyntaf ohono. Croesawodd aelodau Comisiwn y Gyfraith y Bil fel cam cychwynnol cadarn yn rhaglen Llywodraeth Cymru o atgyfnerthu a chodio.
Ym mis Tachwedd 2018, rhyddhaodd Comisiwn y Gyfraith ei adroddiad, sef Cyfraith Gynllunio yng Nghymru. Roedd yr adroddiad yn cynnwys rhai argymhellion penodol yn ymwneud â'r amgylchedd hanesyddol, ond roedd ganddo lawer o argymhellion ar gyfer cyfraith gynllunio oedd hefyd angen eu hystyried yn ystod yr ymarferiad atgyfnerthu amgylchedd hanesyddol. Mae cysylltiadau agos rhwng y cyfundrefnau deddfwriaethol ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol a chynllunio ac maent yn aml yn rhedeg yn gyfochrog pan wneir gwaith ar adeiladau rhestredig neu mewn ardaloedd cadwraeth. Gyda phrosiect i atgyfnerthu'r gyfraith gynllunio ar y gweill ar hyn o bryd, rhagwelodd Dr Charles Mynors y bydd y canlyniad yn atgyfnerthiadau cyflenwol o 'ansawdd uchel iawn'.
Yn olaf, ar gais Llywodraeth Cymru, fe wnaeth Comisiwn y Gyfraith wneud argymhellion ar bedwar mater y tybiai eu bod yn addas ar gyfer atgyfnerthiad o dan Reolau Sefydlog newydd y Senedd ar Filiau atgyfnerthu.