Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru)
Cymeradwyo Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) mewn pleidlais unfrydol yn y Senedd
Cyrhaeddodd Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) y cam olaf ar ei daith drwy Senedd Cymru fin nos ar 28 Mawrth. Ar ôl y cyfnod Ystyriaeth Fanwl gan Bwyllgor – pan dderbyniwyd 45 o welliannau’r Llywodraeth i wella cysondeb, eglurder a chywirdeb y Bil – argymhellodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad y dylai’r Bil symud ymlaen i bleidlais derfynol yn y Senedd, heb graffu na diwygio pellach. Ar ôl dadl fer, cafodd y ddeddfwriaeth ei phasio’n unfrydol gan y Senedd.
Yn ei sylwadau cyn y bleidlais, amlygodd Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, bwysigrwydd Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru). Atgoffodd Aelodau o’r Senedd mai dyma’r Bil Cydgrynhoi cyntaf yn rhaglen uchelgeisiol Llywodraeth Cymru i wella hygyrchedd cyfraith Cymru. Drwy grynhoi cyfreithiau perthnasol gyda’i gilydd, eu datgan o’r newydd mewn darpariaethau trefnus a hawdd eu deall a’u cyflwyno yn ddwyieithog, roedd y ddeddfwriaeth yn dangos yn glir y manteision y bydd y rhaglen gydgrynhoi yn ei chynnig i bobl Cymru. Daeth i’r casgliad y byddai’r Bil yn trawsnewid y modd y byddai amgylchedd hanesyddol Cymru yn cael ei warchod a’i reoli.
Pwysleisiodd y Cwnsler Cyffredinol hefyd fod y Bil yn rhan o god cyfraith Cymru ac eglurodd fod codeiddio yn cynnig adnodd pwysig arall i greu a chadw trefn ar lyfr statud Cymru. Bydd y Bil, ynghyd â’r is-ddeddfwriaeth sydd ei hangen i’w gefnogi, yn ffurfio cod o gyfreithiau ar amgylchedd hanesyddol Cymru, gyda’r cyfan yn cael ei gyhoeddi gyda’i gilydd. Wrth godeiddio cyfraith i Gymru, cyfeiriodd y Cwnsler Cyffredinol at y ffaith fod y Senedd yn dilyn ôl troed Hywel Dda, a oedd yn ôl yr hanes wedi codeiddio cyfraith Cymru yn y ddegfed ganrif. Fodd bynnag, roedd hefyd yn symud cyfraith Cymru ymlaen i gyfnod newydd o drefn, hygyrchedd a hyblygrwydd.
Manteisiodd y Cwnsler Cyffredinol ar y cyfle hefyd i ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, aelodau’r Pwyllgor a’i Staff am ystyried y Bil yn ofalus yn ystod y broses graffu. Cydnabu gyda diolch hefyd gyfraniadau Comisiwn y Gyfraith a rhanddeiliaid yn ystod datblygiad y ddeddfwriaeth.
Gallwch wylio’r ddadl yn llawn ar Senedd TV neu ddarllen y trawsgrifiad yma.
Gan fod Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) bellach wedi derbyn cymeradwyaeth y Senedd, mae cyfnod hysbysu o bedair wythnos wedi dechrau. Mae hwn yn gyfle i’r Cwnsler Cyffredinol, y Twrnai Cyffredinol ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru bwyso a mesur y ddeddfwriaeth ac, os oes angen, sicrhau eglurhad ar ei gymhwysedd deddfwriaethol neu herio ei daith bellach. Os yw’r cyfnod hysbysu yn mynd rhagddo heb y fath ddigwyddiadau dramatig, mae’r Bil yn symud ymlaen i dderbyn Cydsyniad Brenhinol ac yn dod yn gyfraith fel Deddf gan Senedd Cymru. Y gobaith yw y bydd y Cydsyniad Brenhinol yn cael ei dderbyn ym mis Mai. Bydd ffocws y gwaith wedyn yn symud at roi’r ddeddfwriaeth ar waith.