Skip to main content
Gwaith Haearn Blaenafon
Wedi ei gyhoeddi

Llwybr Treftadaeth Ddiwydiannol Ewropeaidd (ERIH), yw'r rhwydwaith gwybodaeth twristiaeth o dreftadaeth ddiwydiannol yn Ewrop ac mae'n cwmpasu mwy na 2,300 o safleoedd o ddiddordeb. Mae Gwaith Haearn Blaenafon yn un, ochr yn ochr â Big Pit, a safleoedd Treftadaeth y Byd eraill. Perfformiwyd Digwyddiad Dawns ERIH "Work it OUT" am y tro cyntaf yn 2018 fel prif gyfraniad ERIH i Flwyddyn Treftadaeth Ddiwylliannol Ewrop. Ers hynny mae wedi dod yn ddigwyddiad blynyddol.

Eleni cymerodd Blaenafon ran am y tro cyntaf diolch i bartneriaeth rhwng Cadw, Big Pit, Twinkling Toes a'r Prosiect Ieuenctid Cymunedol – dawnswyr Casnewydd / Diwylliant a Chelf Romani. Mae "Work it Out" wedi'i anelu'n bennaf at bobl ifanc sy'n gallu cael profiad byw o ddiwylliant diwydiannol a'i safleoedd a darganfod eu harwyddocâd i’w gorffennol eu hunain, eu perthnasedd ar gyfer y presennol a'u potensial ar gyfer y dyfodol. Felly roedd hi'n wych gallu croesawu'r dawnswyr ifanc a’u cael i berfformio'r ddawns a mwynhau ymweld ac archwilio'r ddau safle fel rhan o hynny.

Mae cerddoriaeth newydd yn cael ei chyfansoddi bob blwyddyn, yn ogystal â'r coreograffi a gaiff ei ddatblygu’n arbennig, sy'n trosi symudiadau ac ystumiau dwylo o'r gorffennol i symudiadau modern. Mae'r gweithgaredd dawns yn cael ei ddal ar fideo a'i gyflwyno i ERIH fel rhan o'r digwyddiad. Felly mae Blaenafon yn awr yn rhan o gasgliad eleni o berfformiadau ar draws Ewrop. 

O fis Medi 23, 2024, byddwch yn gallu cefnogi'r perfformiad dawns rydych chi'n ei hoffi trwy bleidleisio drosto! Bwriwch eich pleidlais trwy hoffi y fideo sydd orau gennych chi ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol ERIH. Rydym yn gobeithio y byddwch yn tapio eich bysedd (yn ogystal â'ch traed) ac yn pleidleisio dros 'ein' fideo Blaenafon ni, er mwyn helpu i gael cydnabyddiaeth i’r safle ar y llwybr, a chefnogi'r bobl ifanc a roddodd eu hamser i ddysgu a pherfformio i ni. 

Os gallwn ni gael Blaenafon i'r tri uchaf yn y bleidlais, bydd yn cael ei ymgorffori mewn fideo ar gyfer y digwyddiad cyfan, gan roi cydnabyddiaeth ehangach fyth.  Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar ddiwedd y mis. Felly i ffwrdd â ni!

Am fwy o wybodaeth am lwybrau treftadaeth ERIH a "Work it Out" gweler fideo ERIH. Mae Blaenafon eisoes yn ymddangos tua diwedd y fideo hwn, ar tua 21.30 i mewn iddo.