Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Rhaglen addysg yn yr ysgol yw Bwyd a Hwyl sy’n darparu addysg bwyd a maeth, gweithgarwch corfforol, sesiynau cyfoethogi a phrydau iach i blant yn ystod gwyliau’r haf.

Cynhaliwyd y fenter am y tro cyntaf yng Nghaerdydd yn 2015 fel rhaglen beilot ac erbyn hyn mae’n rhaglen a ariennir yn llawn gan Lywodraeth Cymru ac fe’i gweinyddir gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)

Dros y pum mlynedd diwethaf mae Cadw wedi ymrwymo i gynnig gweithgareddau hwyliog fel rhan o’r cynllun, gan gynnwys: sesiynau cestyll Lego, gwneud gemwaith cynhanesyddol, gwneud mygydau ac, yn fwy diweddar, detholiad o weithgareddau ‘Hanes Dirgel’ hwyliog yn amrywio o ddarganfod y Rhufeiniaid drwy archaeoleg i anturiaethau glan môr Oes Fictoria.

Mae’r sesiynau, a hwyluswyd gan Keystone Heritage, wedi bod yn hynod boblogaidd ac yn 2022 gwelwyd 430 o bobl yn cymryd rhan.

Dywedodd un o hwyluswyr Keystone Heritage:

"Bu’r sesiynau yn werthfawr i bob plentyn a gymerodd ran gan eu bod wedi rhoi cyfle iddyn nhw ddysgu am hanes lleol Cymru drwy drin gwrthrychau, gweithgareddau crefft, datrys problemau a gwaith tîm."

Roedd y sesiynau Hanes Dirgel yn rhoi cyfleoedd i ddysgwyr weithio gyda phlant eraill a dod i adnabod pobl efallai nad ydyn nhw wedi gweithio â nhw o'r blaen, gan ddatblygu sgiliau cyfathrebu a datrys problemau. Bu hyn yn arbennig o amlwg yn Ysgol Uwchradd Prestatyn fel rhan o'u gwaith pontio Blwyddyn 6 i 7.

Cyn hir, darganfu myfyrwyr ysgol uwchradd werth gwaith tîm wrth iddyn nhw weithio gyda’i gilydd i ddatrys posau wedi’u hysbrydoli gan gestyll enwog Cadw; cafodd dirgelion eu datrys diolch i sgiliau a hyder cynyddol y dysgwyr.

Llwyddiant arall oedd y cyfle i blant sydd ag anghenion ychwanegol gymryd rhan mewn gweithgareddau crefft greadigol.

Llwyddwyd i ddal sylw’r grŵp ac roedden nhw’n gwbl ymroddedig i greu tarianau Rhufeinig trawiadol a hyd yn oed dreigiau Cymreig; fe wnaeth y plant hyd yn oed ddod o hyd i amser ac egni i helpu eraill gyda’u prosiectau creadigol.

Dywedodd un o hwyluswyr Keystone Heritage:

“Roedd hi’n amlwg o ddechrau pob sesiwn fod cestyll yn cyffroi’r plant ac roedden nhw’n awyddus i rannu eu gwybodaeth eu hunain a hyd yn oed ymweld â chastell ar ddiwedd y sesiwn.”


Mae tîm Dysgu Gydol Oes Cadw wedi ymrwymo i ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol drwy gynnal gweithgareddau difyr a hwyliog mewn cymunedau.

Os hoffech chi weithio â’r tîm, e-bostiwch:CADW.Education@llyw.cymru