Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Bydd mwy na 200 o safleoedd hanesyddol, tirnodau a gemau cudd Cymru yn cynnig mynediad am ddim i ymwelwyr fis Medi eleni wrth i ŵyl Drysau Agored ddychwelyd ar gyfer 2022.

Wedi’i hariannu a’i threfnu gan Cadw, bydd gŵyl fythol boblogaidd treftadaeth adeiledig Cymru yn annog trigolion Cymru ac ymwelwyr fel ei gilydd i archwilio rhai o safleoedd llai adnabyddus y wlad ― y mae sawl un ohonyn nhw fel arfer ynghau i'r cyhoedd.

Mae rhaglen 2022 yn cynnwys amrywiaeth o leoliadau hanesyddol sy'n eiddo i Cadw, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, Yr Eglwys yng Nghymru, cynghorau lleol, a pherchnogion preifat, gan gynnwys Abaty Nedd, Castell Ystumllwynarth, Amffitheatr a Barics Caerllion, Gerddi Bodnant, Castell Dinbych, ac Eglwys Gadeiriol Tyddewi.

Bydd 6 safle dan ofal Cadw sydd â staff, gan gynnwys dwy o gaerau canoloesol eiconig Cymru ― Castell Harlech yn y gogledd a Chastell Talacharn yn y de ― yn cynnig mynediad am ddim i aelodau o’r cyhoedd yn ystod y dathliad mis o hyd.

Yn y cyfamser, bydd 11 o safleoedd Cadw sydd heb staff, y mae nifer ohonyn nhw fel arfer ynghau i'r cyhoedd, hefyd yn cynnig teithiau tywys am ddim ar ddyddiadau dethol ym mis Medi ― gan gynnwys Siambr Gladdu Barclodiad y Gawres ar Ynys Môn.

Bydd safleoedd nad ydyn nhw dan ofal Cadw, fel Eglwys Gadeiriol Tyddewi, hefyd yn cynnig teithiau o ardaloedd sydd fel arfer ynghau i'r cyhoedd ― gydag ymwelwyr â chartref nawddsant Cymru yn cael eu croesawu i'r Hen Lapidariwm, sydd heb fod yn agored i'r cyhoedd ers sawl blwyddyn.

Dywedodd Ffion Reynolds, Rheolwr Treftadaeth a’r Celfyddydau, Cadw:

"Rydym yn croesawu dychweliad Drysau Agored ― cyfraniad blynyddol Cymru i Ddyddiau Treftadaeth Ewrop ― a fydd yn cael ei chynnal drwy gydol mis Medi.

"Nid yn unig y mae'n ddathliad o'r hanes cyfoethog a diddorol sydd gan Gymru i'w gynnig, ond yn gyfle i fwy o bobl nag erioed o'r blaen i ysbrydoli cariad gydol oes at hanes a diwylliant ― yn enwedig ymhlith cenedlaethau’r dyfodol.

"A thrwy agor y safleoedd hyn am ddim, rydym yn gobeithio cynnig cyfle cyfartal i bawb archwilio, mwynhau a datgelu straeon llai adnabyddus o hanes Cymru ar garreg eu drws."

Nid oes rhaid rhagarchebu ar gyfer safleoedd Cadw, p'un a ydyn nhw â staff neu heb staff. Anogir pobl i alw heibio eu hoff heneb, a gallan nhw hyd yn oed ymuno â'r teithiau tywys am ddim mewn rhai safleoedd.

Ar gyfer rhestr lawn o safleoedd treftadaeth Cadw, a’r rhai nad ydyn nhw dan ofal Cadw, sy'n cymryd rhan yng ngŵyl Drysau Agored ledled Cymru, cliciwch yma.

I gael gwybodaeth am sut i fynd i ddigwyddiad Drysau Agored nad yw'n cael ei gynnal ar safle Cadw, dylai ymwelwyr gysylltu â'r lleoliad perthnasol yn uniongyrchol neu ymweld â'u gwefan unigol i gael gwybodaeth bellach gan fod gofynion tocynnau'n amrywio fesul safle.

Bydd y cynnig Cadw-benodol ar gyfer Drysau Agored 2022 yn golygu y bydd casgliad o deithiau a digwyddiadau unigryw yn cael eu cynnal mewn 17 safle sydd dan ofal Cadw fis Medi ― gyda nifer gyfyngedig o docynnau ar gael ar gyfer pob digwyddiad.

Mae ymwelwyr yn cael eu cynghori i wirio dyddiad a manylion pob digwyddiad cyn a theithio.