Canllawiau wedi'u diweddaru ar gyfer ymwelwyr â safleoedd Cadw
Yn dilyn cyhoeddiad diweddaraf Llywodraeth Cymru ynghylch llacio cyfyngiadau coronafeirws yng Nghymru, rydym wedi diweddaru ein canllawiau ar gyfer archebu tocynnau mynediad i’n safleoedd.
O ddydd Llun 9 Awst 2021, nid yw hi bellach yn orfodol i aelodau Cadw nac ymwelwyr ragarchebu tocyn mynediad i'r safle er mwyn ymweld â safleoedd Cadw. Bydd tocynnau ar gael i'w cadw wrth gefn neu i’w prynu wrth y drws.
Fodd bynnag, er mwyn sicrhau mynediad ac osgoi siom, rydym yn argymell yn gryf bod ymwelwyr yn parhau i ragarchebu tocynnau ar ein gwefan cyn teithio — yn enwedig ar gyfer rhai o’n safleoedd mwyaf yn ystod cyfnodau prysur fel penwythnosau neu ddigwyddiadau.
Gall ymwelwyr brynu tocynnau, a gall aelodau gadw tocynnau wrth gefn am ddim.
Ni ellir ad-dalu tocynnau sydd wedi’u prynu, felly cynghorir ymwelwyr i sicrhau eu bod yn gallu bod yn bresennol ar y dyddiad a ddewisir cyn archebu.
Er ein bod yn falch iawn o allu llacio'r rhan fwyaf o ragofalon coronafeirws ac agor mwy o rannau o’n safleoedd, hoffem roi sicrwydd i ymwelwyr ac aelodau Cadw mai ein prif flaenoriaeth o hyd yw darparu profiad diogel ar y safle i bawb.
Fel rhan o hyn, rydym yn cadw'r hawl i gadw rhai rhagofalon ar y safle ar waith i helpu i reoli symudiadau o amgylch ein henebion. Parchwch arwyddion fel systemau un ffordd a cheisiadau gan staff yn ôl y gofyn.
Yn ychwanegol, bydd y rhan fwyaf o'n safleoedd yn parhau i gau amser cinio am lanhad trylwyr, a gofynnir i ymwelwyr y bore orffen eu hymweliad erbyn 1yh.
Yn olaf, yn unol â chyfyngiadau presennol Cymru, rhaid i ymwelwyr wisgo gorchudd wyneb ym mhob rhan dan do o'n safleoedd treftadaeth.
Ewch i dudalennau gwe unigol ein safleoedd i gael rheoliadau manylach sy'n benodol i bob safle cyn archebu.
Mae diweddariadau pellach yn cynnwys:
- erbyn hyn, mae’r rhan fwyaf o'n safleoedd gydag opsiwn prynu tocynnau ar-lein ar gyfer ymweliad bore neu brynhawn. Fodd bynnag, bydd ambell un o'n safleoedd yn parhau i gynnig slotiau awr yn unig i ymwelwyr oherwydd eu maint neu eu strwythur a’u cynllun unigryw
- bydd capasiti mwy yn y rhan fwyaf o'n safleoedd, gan gynnwys Castell Biwmares a fydd yn awr yn gallu lletya 1,500 o bobl y dydd
- bydd Llys a Chastell Tretŵr, Gwaith Haearn Blaenafon, Castell Talacharn, Castell Conwy a Chastell Caernarfon bellach ar agor saith diwrnod yr wythnos
- bydd ymwelwyr sy'n rhagarchebu tocyn mynediad i'r safleoedd ar-lein yn derbyn disgownt o 10% wrth brynu unrhyw lyfr tywys. Gall y rhain gael eu casglu ar y safle yn ystod eich ymweliad
- bydd aelodau blwyddyn gyntaf English Heritage a Historic Scotland sy'n archebu eu tocynnau mynediad i'r safleoedd ar-lein, yn talu pris mynediad gostyngedig o 50% wrth gyrraedd y safleoedd.