Skip to main content
Castell Caernarfon
Wedi ei gyhoeddi

Bydd Castell Caernarfon yn cael ei oleuo mewn goleuadau pinc a glas rhwng 9-15 Hydref 2019 ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod 2019.

Mae’r wythnos ymwybyddiaeth flynyddol, sydd bellach yn ei 17eg flwyddyn, yn gyfle i rieni, teuluoedd a ffrindiau sydd wedi cael profedigaeth, i gofio bywydau babanod a thorri’r distawrwydd ynghylch colli beichiogrwydd a babanod yn y DU.

Bydd yr holl adeiladau a thirnodau sy'n troi'n binc a glas ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod 2019 yn cael sylw ar y map rhyngweithiol a’r Albwm Facebook. Gall unrhyw un yng Nghaernarfon rannu eu lluniau o Gastell Caernarfon ar y cyfryngau cymdeithasol gyda'r hashnod #BLAW2019.

Dywedodd Clea Harmer, Prif Weithredwr Sands (elusen marw-enedigaeth a marwolaeth newyddenedigol): “Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod yn gyfle unigryw i rieni goffáu eu babanod a fu farw. Rwy'n gobeithio y bydd teuluoedd sydd wedi cael profedigaeth yng Nghaernarfon yn teimlo'n llai ynysig ac ar ben eu hunain yn eu galar wrth weld Castell Caernarfon wedi'i oleuo'n binc a glas.”

“Mae colli baban yn ystod beichiogrwydd neu farwolaeth babi yn drasiedi sy’n effeithio ar filoedd o bobl bob blwyddyn. Mae'n brofiad ofnadwy i rieni a theuluoedd ac mae'n hanfodol eu bod yn cael y gefnogaeth a'r gofal profedigaeth sydd eu hangen arnynt, cyhyd ag y mae ei angen arnynt."

I gael rhagor o wybodaeth am Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod ewch i:

www.babyloss-awareness.org