Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Fel rhan o’n prosiect partneriaeth i annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gael mynediad at lwybrau cerdded lleol a helpu i wella eu hiechyd a’u lles, bydd Cerddwyr Cymru yn arwain 6 taith gerdded am ddim i deuluoedd dros hanner tymor y Pasg. 

Ddydd Llun 3ydd Ebrill a dydd Mawrth 4ydd Ebrill, bydd y teithiau tywys yn dechrau mewn 4 o’n gorsafoedd, gorsaf drenau y Fflint, Ynys y Barri, Y Bermo a Phorth Tywyn.  Bydd y lleoedd yn gyfyngedig i 20, gan gynnwys oedolion a phlant.  Fel rhan o'r teithiau antur llawn hwyl hyn i’r teulu, bydd cyfle i oedi a mwynhau’r golygfeydd anhygoel, yn ogystal â chymryd rhan mewn rhai gweithgareddau hwyliog i’r teulu cyfan. 

Bydd pob plentyn yn cael llyfr gweithgareddau Cerddwyr Cymru yn anrheg a chyfle i'w ddefnyddio ar hyd y llwybr er mwyn darganfod ac adnabod bywyd gwyllt lleol. 

Mae'r teithiau cerdded yn dilyn lansiad ein partneriaeth 'Cledrau, clebran, cerdded' sy'n annog pobl i ddefnyddio gwasanaethau trên lleol i gael mynediad at lwybrau cerdded newydd sy'n addas i deuluoedd sy'n cael eu datblygu gan Gerddwyr Cymru, sy'n dechrau ac yn gorffen mewn gorsafoedd lleol.

Dywedodd Angela Charlton, cyfarwyddwr Cerddwyr Cymru: “Mae’n wych gweithio gyda TrC i gynnig y teithiau cerdded hyn, maen nhw’n ffordd wych i deuluoedd ddod i adnabod rhannau o’n harfordir hardd.

“Rydym am weld cerdded wrth galon cymunedau ledled Cymru, ac annog ymwelwyr a phobl leol i archwilio a mwynhau profiadau positif yn yr awyr agored ac elwa ar fanteision iechyd a lles a ddaw yn eu sgil, mewn ffordd fwy cynaliadwy.”

I gadw lle am ddim, ewch i:

3ydd Ebrill  

Teithiau Cerdded i'r Teulu - Y Fflint 10am–12pm https://FlintRambleAM.eventbrite.co.uk

Teithiau Cerdded i'r Teulu - Y Fflint 2pm–4pm https://FlintRamblePM.eventbrite.co.uk

Teithiau Cerdded i'r Teulu - Ynys y Barri 10am–12pm https://BarryIslandRambleAM.eventbrite.co.uk

Teithiau Cerdded i'r Teulu - Ynys y Barri 2pm–4pm https://BarryIslandRamblePM.eventbrite.co.uk

4ydd Ebrill

Teithiau Cerdded i'r Teulu - Y Bermo - 10.15am–2pm https://BarmouthRamble.eventbrite.co.uk

Teithiau Cerdded i'r Teulu - Porth Tywyn - 10am–12pm https://BurryPortRamble.eventbrite.co.uk