Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Mae’n bryd datguddio coronet coll Llywelyn ein Llyw Olaf…

Mae Llywelyn ap Gruffudd (a elwir hefyd yn Llywelyn ein Llyw Olaf) yn arwr cenedlaethol — ond mae hanes ei fywyd yn cynnwys dirgelwch 740 oed… Lleoliad ei goronet hir golledig.

A yw’r coronet wedi’i guddio mewn safle hanesyddol yng Nghymru?

Wedi’i gyhoeddi heddiw (09 Awst), mae Cadw yn gwahodd ymwelwyr i gloddio i hanes Llywelyn ein Llyw Olaf yn ystod mis Awst wrth i gyfres o ddigwyddiadau archeolegol gyrraedd gestyll Rhuddlan, Talacharn a Biwmares.

Bydd ymwelwyr â Chloddiadau Cadw, a fydd yn para tri a phedwar diwrnod, yn cael eu gwahodd i ddatgelu ‘arteffactau’ o ddarnau arian i dameidiau o’r coronet a sborion tarian wrth i Cadw alw ar deuluoedd i ddod o hyd i dlysau Coron Cymru.

Mae Llywelyn ein Llyw Olaf yn enwog am ei frwydrau yn erbyn Coron Lloegr — ond ei frwydr olaf yn erbyn y Brenin Edward I sy’n gefndir i gyfres Cadw o ddigwyddiadau.

Ar ddechrau ei gyrch olaf yn erbyn y Brenin Edward I yn 1282, gadwodd Llywelyn ei goronet — tlysau Coron Cymru — yn nwylo’r mynaich yn Abaty Cymer yn Nolgellau, i’w gadw’n ddiogel.

Eto i gyd, ar ôl iddo gael ei ladd mewn brwydr, cafodd y coronet ei ddwyn o adfeilion Tywysogaeth Gwynedd, cyn cael ei gymryd i Lundain fel ysbail.

Ganrifoedd yn ddiweddarach, y gred yw i’r coronet gael ei ddinistrio dan orchymyn Oliver Cromwell ochr yn ochr â nifer o dlysau Coron Lloegr… Ond mae eraill yn credu bod y mynaich wedi atal hyn rhag digwydd, a bod tlysau’r Goron wedi’u cuddio rhywle yng Nghymru.

Yn addas i blant o bob oed, bydd ymwelwyr â Chloddiadau Cadw yn ailddarganfod straeon o hanes Cymru, wrth ddysgu am archaeoleg go iawn mewn safleoedd cloddio sydd wedi’u llwyfannu.

Bydd archeolegwyr iau sy’n rhoi eu darganfyddiadau yn ôl yn derbyn tystysgrif ‘Cloddiadau Cadw’ swyddogol ond gobeithir y byddan nhw hefyd yn gadael gyda chariad ac ymwybyddiaeth newydd o hanes Cymru.

I gefnogi hyn, bydd digwyddiadau dethol yn cynnwys perfformiadau dwyieithog gan y cwmni theatr, Mewn Cymeriad — gan ddod â stori’r Tywysog Cymru brodorol olaf a’i daid, Llywelyn ap Iorwerth (a elwir hefyd yn Llywelyn Fawr) yn fyw.

Mae’r cyfan yn rhan o’r ymgyrch Ailddarganfod Hanes gan Cadw, sy’n ceisio adrodd straeon Cymru mewn ffordd newydd, wrth gynnau diddordeb mewn archaeoleg — gan gysylltu’r 21ain ganrif â chanrifoedd ar ganrifoedd o hanes.

Dywedodd Pennaeth Marchnata Cadw, Gwydion Griffiths:

“Mae archaeoleg wedi chwarae — ac yn parhau i chwarae — rhan annatod yn ein dealltwriaeth o Gymru’r gorffennol, felly mae’n hyfryd gweld Cadw’n efelychu’r gweithgaredd gydag archeolegwyr ifanc ledled y wlad.

“Mae digwyddiadau rhyngweithiol synhwyraidd fel Cloddiadau Cadw yn cyflwyno ffordd newydd i blant gymryd rhan ac ymddiddori mewn dysgu mwy am ddiwylliant, treftadaeth a hanes cyfoethog Cymru. Dw i’n gobeithio y bydd y gyfres hon o ddigwyddiadau’n ysbrydoli pobl o bob oed i ddysgu am Llywelyn ein Llyw Olaf ac yn magu cariad oes at dreftadaeth ymhlith cenedlaethau’r dyfodol.”

I ddysgu mwy am Gloddiadau Cadw a gweithgareddau eraill sy’n digwydd ar safleoedd Cadw ledled Cymru yn ystod yr haf, ewch i:  https://cadw.llyw.cymru/ymweld/be-syn-digwydd.

Mae aelodaeth Cadw yn cynnwys mynediad i’r rhaglen lawn o ddigwyddiadau Cloddiadau Cadw, yn ogystal â chyfres lawn Cadw o 100 a mwy o safleoedd hanesyddol, drwy gydol yr haf — am gyn lleied â £1.50 y mis. Ymunwch drwy https://www.aelodaethcadw.gwasanaeth.llyw.cymru/?force=2.

Y DIGWYDDIAD YN LLAWN:

Mae coronet Llywelyn ein Llyw Olaf wedi bod ar goll ers cenedlaethau — ond a allwch chi ein helpu i ddod o hyd iddo? Dewch yn archeolegydd am y dydd yng Nghastell Biwmares, Castell Rhuddlan a Chastell Talacharn!

Gall plant o bob oed ddod draw i gloddio am drysorau hir golledig Llywelyn ein Llyw Olaf, a chymryd rhan mewn gweithgareddau archaeoleg hwyliog, a’r cyfan wrth ddysgu am y Tywysog Cymru brodorol olaf.

Bydd Cloddiadau Cadw yn digwydd yn y cestyll canlynol yn ystod mis Awst:

Biwmares

  • 10–5pm, dydd Mawrth 16 Awst
  • 10–5pm, dydd Mercher 17 Awst
  • 10–5pm, dydd Iau 18 Awst (gan gynnwys dau berfformiad gan Mewn Cymeriad)

Rhuddlan

  • 10–4pm, dydd Iau 25 Awst
  • 10–4pm, dydd Gwener 26 Awst
  • 10–4pm, dydd Sadwrn 27 Awst (gan gynnwys dau berfformiad gan Mewn Cymeriad)
  • 10–4pm, dydd Sul 28 Awst

Talacharn

  • 10–4pm, dydd Iau 1 Medi
  • 10–4pm, dydd Gwener 2 Medi (gan gynnwys dau berfformiad gan Mewn Cymeriad)
  • 10–4pm, dydd Sadwrn 3 Medi
  • 10–4pm, dydd Sul 4 Medi