Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar ganllawiau newydd a fydd yn helpu cyrff cyhoeddus i gyflwyno’r Gymru gyfoes yn well trwy goffadwriaethau cyhoeddus.

Bydd Coffáu Cyhoeddus yng Nghymru: Canllawiau i Gyrff Cyhoeddus yn helpu cyrff cyhoeddus i greu perthynas fwy deallus â hanes Cymru wrth ymdrin â chofebau sy’n bodoli eisoes, lle mae etifeddiaeth y fasnach gaethweision a’r Ymerodraeth Brydeinig yn weladwy o hyd mewn mannau cyhoeddus.

Rhannwch eich barn…

Dyddiad Cau: 21 Chwefror 2023.

Mae’r canllawiau hyn yn nodi’r arfer gorau ar gyfer gwneud penderfyniadau ac nid ydyn nhw’n orfodol.

Maen nhw’n canolbwyntio ar sut i wneud penderfyniadau da yn hytrach na pha benderfyniadau i’w gwneud ac maen nhw wedi’u rhannu’n ddwy ran:

  • Mae Rhan 1 yn cyflwyno’r materion sy’n ymwneud â choffáu cyhoeddus a’i effaith;
  • Mae Rhan 2 yn nodi’r pedwar cam y dylai cyrff cyhoeddus eu cymryd wrth fynd i’r afael â’r materion hyn a sylweddoli cyfraniad coffáu cyhoeddus at sicrhau Cymru wrth-hiliol.

Y pedwar cam hyn yw:

  • sefydlu fframwaith ar gyfer gwneud penderfyniadau cynhwysol
  • pennu’n glir beth yw nodau coffáu gyhoeddus
  • creu meini prawf ar gyfer gwneud penderfyniadau
  • cymryd camau i wireddu’r nodau a mynd i’r afael â’r problemau sy’n codi wrth goffáu’n gyhoeddus.

Mae ailddehongli heneb Thomas Picton yn enghraifft o sut all yr egwyddorion hyn ein helpu i portreadu ein hanes cyffredin yn well.

Lladdwyd Thomas Picton (1758-1815), milwr proffesiynol o Sir Benfro, ym Mrwydr Waterloo ym 1815. Cyn hynny, roedd yn adnabyddus yn bennaf am y sgandal cyhoeddus a achoswyd gan y dulliau creulon a ddefnyddiodd tra bu’n llywodraethwr milwrol ar Trinidad (1797-1803), gan gynnwys arteithio a dienyddio heb dreial. Elwodd yn bersonol hefyd ar fod yn berchen ar gaethweision a’u masnachu.

Arweiniodd pryderon ynghylch ei ymddygiad at ei alw'n ôl i Brydain maes o law, lle cafodd ei roi ar brawf am arteithio Luisa Calderón, merch 14 oed oedd yn cael ei hamau o ladrata.  Fe’i cafwyd yn euog i ddechrau, ond cafodd y dyfarniad ei wyrdroi ar apêl. Serch hynny, cyfrannodd y dadlau a achoswyd gan yr achos at y ddadl gynyddol ym Mhrydain ynglŷn â'r fasnach gaethweision.

Serch hynny, yn dilyn ei farwolaeth yn Waterloo, cafodd Picton ei anrhydeddu fel arwr cenedlaethol a'i gladdu yn Eglwys Gadeiriol Sant Pawl. Yng Nghymru, cafodd ei goffáu â chofeb fawr yng Nghaerfyrddin, a gynlluniwyd yn wreiddiol gan John Nash ac a adeiladwyd ar ddiwedd yr 1820au, ond yn ddiweddarach disodlwyd hi gan y golofn sy'n bodoli heddiw sydd wedi newid llawer ac yn llawer byrrach, ar Deras Picton.

Thomas Picton memorial Carmarthenshire

Yn dilyn datblygiad yr ymgyrch Black Lives Matter ym Mhrydain, gofynnodd deiseb wedi'i harwyddo gan tua 20,000 o bobl am dynnu Cofeb Picton i lawr. Mewn ymateb, fe sefydlodd Cyngor Sir Caerfyrddin weithgor trawsbleidiol i ymgynghori â'r gymuned leol a chyrff eraill oedd â buddiant, gan gynnwys Cyngor Hil Cymru (RCC) a Chyngor Tref Caerfyrddin. O'r 2,300 a mwy o ymatebion, roedd 1,613 o blaid cadw a 744 yn ffafrio symud, gyda chanran sylweddol yn cefnogi addysg ehangach am Picton.

Ar sail hyn, argymhellodd y gweithgor y dylai'r gofeb aros, ond y dylid gosod byrddau gwybodaeth mewn mannau amlwg yn egluro'i gysylltiadau â chaethwasiaeth yn ogystal â'i yrfa filwrol.  Gosodwyd tri bwrdd gwybodaeth o amgylch y gofeb erbyn hyn gan roi gwybodaeth llawer llawnach a chyfrif cynhwysfawr o fywyd ac effaith Picton.


Sut i gymryd rhan

  • gwblhau ffurflen ar-lein neu
  • lawrlwytho ein ffurflen ymateb ac e-bostio neu bostio’r ffurflen wedi’i chwblhau yn ôl atom ni.

Dweud eich dweud

Cyflwynwch ymatebion cyn 21 Chwefror 2023.