Cydnabod yn swyddogol safle sy'n coffáu'r miloedd o fywydau a gollwyd, fel Gardd Goffa Genedlaethol Trychinebau Glofaol Cymru
Mae gardd goffa yn Senghennydd, sy'n coffáu'r rhai a fu farw yn y trychineb gwaethaf yn hanes glofeydd Prydain, wedi cael y "gydnabyddiaeth y mae'n ei haeddu" ac wedi ei chydnabod yn ffurfiol gan Lywodraeth Cymru fel Gardd Goffa Genedlaethol Trychinebau Glofaol Cymru.
Agorwyd gardd goffa'r pentref yn swyddogol ar ganmlwyddiant y trychineb a ddigwyddodd yn 1913 pan laddwyd 439 o lowyr gan damchwa a rwygodd Glofa'r Universal.
Nawr, mae wedi cael ei hychwanegu at y Gofrestr Statudol o Barciau a Gerddi Hanesyddol Cymru a'i chymeradwyo gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford a Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden i fod yn safle i gofio'r miloedd lawer a fu farw mewn trychinebau mewn glofeydd ledled Cymru.
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:
"Mae glofeydd yn rhan fawr o'n hunaniaeth fel cenedl. Dros ganrif ar ôl trychineb Senghennydd, ac wrth i ni nodi 40 mlynedd ers streiciau'r glowyr, mae gwaddol y diwydiant glo yn dal i fod yn rhan ganolog o hanes Cymru.
"Priodol felly yw bod safle o bwysigrwydd symbolaidd fel Gardd Goffa Lofaol Genedlaethol Cymru yn cael ei chydnabod yn ffurfiol - gan anrhydeddu'r miloedd o lowyr fu farw mewn trychinebau glofaol ledled Cymru, tra'n cadw'r diwylliant a'r cof am gymunedau glofaol yn fyw."
Mae'r safle'n cynnwys cerflun efydd, sydd yn darlunio gweithiwr achub yn helpu glöwr sydd wedi goroesi'r danchwa, wal goffa yn coffáu'r rhai a gollodd eu bywydau yn y ddau drychineb a fu yn Senghennydd, yn 1901 a 1913, a llwybr cofio gyda theilsen ar gyfer pob un o'r 152 o drychinebau glofaol sydd wedi digwydd ledled Cymru.
Cyfrannodd llawer o awdurdodau lleol at yr ymgyrch codi arian pan sefydlwyd yr ardd goffa yn 2013 ac wrth ymweld â'r ardd ac ag Amgueddfa Treftadaeth Cwm Aber gerllaw, dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden:
"Rydym yn ymwybodol bod yr ardd goffa yn coffáu nid yn unig y rhai a fu farw yn Senghennydd, ond hefyd y rheini a laddwyd mewn trychinebau ar hyd a lled Cymru.
"Mae'n safle cyhoeddus pwysig ar gyfer coffáu a chofio ac mae iddo rôl bwysig i gysylltu pobl â'r gorffennol. Felly rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu rhoi'r gydnabyddiaeth iddo y mae'n ei haeddu."
Ychwanegodd Gill Jones, o Grŵp Treftadaeth Cwm Aber:
"Rydym mor falch bod ein Gardd Goffa wych bellach yn 'Ardd Goffa Genedlaethol Trychinebau Glofaol Cymru' ac wedi cael ei hychwanegu at y gofrestr statudol o barciau a gerddi hanesyddol yng Nghymru.
"I ymroddiad a gwaith caled ein gwirfoddolwyr, sy'n treulio oriau lawer ym mhob tywydd i'w chynnal at y safonau uchel sy'n ofynnol ar gyfer anrhydedd o'r fath, y mae'r diolch.
"Mae'n waddol barhaol gan ein gwirfoddolwyr i'r 530 o ddynion a bechgyn a laddwyd yn nhrychinebau Glofa'r Universal yn 1901 a 1913, yn ogystal â'r miloedd lawer a fu farw mewn trychinebau ledled meysydd glo Cymru. Mae pob un o'r trychinebau hynny wedi'u rhestru yn yr ardd."