Cyfle i ENNILL profiad dyweddïo Cymreig yng nghastell tylwyth teg Cymru
Ydych chi’n disgwyl am yr amser perffaith i ofyn i’ch partner eich priodi?
Os ydych chi, a’ch bod chi ar gael ddydd Sul, 09 Chwefror 2020, efallai y gallem ni helpu...
I nodi diwrnod mwyaf rhamantus y flwyddyn yng Nghymru - Diwrnod Santes Dwynwen - rydym am roi profiad dyweddïo yng Nghastell Coch yn wobr, gan gynnig cyfle i un person lwcus drefnu i ofyn y cwestiwn yng nghastell tylwyth teg eiconig Cymru.
Gyda’r holl gostau wedi’u talu, bydd y profiad unigryw yn cynnwys:
- mynediad preifat i Gastell Coch ar 09 Chwefror
- derbyniad siampên yn y cwrt
- perfformiad gan gôr meibion lleol fel syrpreis
- te prynhawn i ddau yn Ystafell De y Castell
- lluniau a fideo o’r cyfan mewn amser real, mewn arddull pry ar y wal.
Ac nid dyna’r cyfan...
Bydd y dyn neu’r ddynes lwcus hefyd yn gallu gwneud cais arbennig i ychwanegu mwy fyth at yr achlysur cofiadwy a rhoi cyffyrddiad personol iddo.
I fod â chyfle i wneud hyn yn realiti, llenwch y ffurflen gais yma cyn 3pm ddydd Gwener 31 Ionawr a dywedwch pam yr hoffech chi ofyn i’ch cariad eich priodi yng Nghastell Coch ar Ddiwrnod Santes Dwynwen eleni.