Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Noder: mae’r cynnig o fynediad am ddim i geiswyr lloches a ffoaduriaid i safleoedd Cadw sydd â thâl mynediad, wedi cael ei ymestyn tan 31 Mawrth 2024.


Bydd Tocyn Croeso yn galluogi ffoaduriaid a phobl o Wcráin i deithio yn rhad ac am ddim ar fysiau a byddant hefyd yn cael mynediad rhad ac am ddim i safleoedd Cadw ar draws Cymru.

Mae'r ddau gynllun, sy’n cael eu cyhoeddi heddiw, yn pwysleisio ymrwymiad Cymru i fod yn Genedl Noddfa i bobl sy'n dianc rhag gwrthdaro a chamdriniaeth ledled y byd.

Bydd y Tocyn Croeso, a fydd ar gael i ffoaduriaid a phobl sy'n cyrraedd o Wcráin, yn cynnwys y rhan fwyaf o wasanaethau bysiau sy'n rhedeg yng Nghymru ac yn adeiladu ar y cynllun peilot teithio ar y rheilffyrdd am ddim am chwe mis, a gyhoeddwyd ychydig wythnosau'n ôl.

Mae'n darparu teithio am ddim diderfyn i bob person cymwys ar wasanaethau bysiau lleol, gan gynnwys y rhai sy'n gweithredu i Loegr lle mae'r daith yn dechrau neu'n gorffen yng Nghymru. Bydd y cynllun Tocyn Croeso ar waith am chwe mis ac yn dod i ben ar 30 Medi 2022. (31 Mawrth 2024).

Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd:

Bydd y cynllun bws am ddim hwn – o'r enw Tocyn Croeso – ar gael i bob ffoadur sydd eisoes yma neu sy'n cyrraedd Cymru a bydd yn caniatáu teithio am ddim diderfyn ar y rhan fwyaf o wasanaethau bysiau lleol ledled Cymru a'r rhai sy'n gweithredu i Loegr, os ydynt yn dechrau neu'n gorffen yng Nghymru.

Mae hwn yn gam mawr ymlaen o ran sicrhau bod ffoaduriaid a phobl o Wcráin yn gallu teithio'n rhydd ledled Cymru – bydd yn eu helpu i integreiddio yng Nghymru ac i wneud cyfraniad cadarnhaol i'n cenedl.

Hoffwn dalu teyrnged i'r holl gwmnïau bysiau hynny ledled Cymru am gymryd rhan yn y cynllun hwn – mae'n dangos eu hymrwymiad i wneud Cymru'n genedl noddfa go iawn.

Mae'r Tocyn Croeso yn gynllun gwirfoddol lle gall cwmnïau bysiau ledled Cymru ddewis cymryd rhan. Bydd angen i bobl ddangos tystiolaeth o'u cymhwysedd ar gyfer y cynllun, a allai fod yn pasbort, fisa neu drwydded breswyl fiometrig wrth fynd ar y bws. Yna byddant yn cael Tocyn Croeso gan y gyrrwr bws.

Mae Cadw hefyd wedi cyhoeddi eu cynllun i gynnig mynediad unigol neu deuluol am ddim i holl safleoedd Cadw ar gyfer ffoaduriaid a'r rhai sy'n ceisio noddfa yng Nghymru. 

Bydd angen i ymwelwyr â safleoedd Cadw sy’n ffoaduriaid, ceiswyr lloches neu bobl o Wcráin ddangos eu dogfennaeth o’r Swyddfa Gartref a allai gynnwys:

  • Trwydded Preswyl Biometrig (BRP) yn datgan statws ffoadur neu amddiffyniad dyngarol, a allai gynnwys y geiriau Wcráin neu Affganistanaidd/Affganistan
  • Cerdyn cofrestru lloches
  • Fisa cynllun Wcráin neu basport Wcreinaidd
  • Llythyr neu e-bost gan y Swyddfa Gartref sy'n nodi bod yr ymwelydd wedi cael rhyw fath o Ganiatâd ar gyfer Mynediad neu Aros neu sy'n disgwyl am ganlyniad eu cais am loches.

Dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon:

Rwy'n falch iawn o weld Cadw yn chwarae ei ran i ddangos beth mae bod yn Genedl Noddfa yn ei olygu.

Bydd y cynnig hwn yn ei le tan 25 Hydref, gan sicrhau y bydd pawb sy'n dod i Gymru sy'n ceisio noddfa yn cael cyfle i ymweld â safleoedd diwylliannol a threftadaeth Cymru ledled y wlad yn rhad ac am ddim.

Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol:

Rydym wedi cymryd camau breision i gyflawni ein haddewid i fod yn Genedl Noddfa yng Nghymru. Mae'r cyhoeddiadau hyn yn dangos yr ymrwymiad hwn ar waith.

Mae bod yn Genedl Noddfa yn golygu croesawu pobl i Gymru a rhoi cymorth a chefnogaeth iddynt i ymgartrefu yng Nghymru. Rydym yn falch iawn y gallwn ymestyn y cynlluniau gwych hyn i bobl o Wcráin.

Rydym yn credu'n gryf fod sgiliau, profiad a chydnerthedd ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn gaffaeliad i Gymru - dyna pam rydym yn falch o estyn y croeso ac i gefnogi eu huchelgeisiau i ffynnu yng Nghymru. Dyma hanfod bod yn Genedl Noddfa.

Rydym am sicrhau bod yr unigolion hyn yn cael eu cefnogi i ailadeiladu eu bywydau a chyfrannu’n llawn at gymdeithas yng Nghymru.

Mae’r cynnig o fynediad am ddim i geiswyr lloches a ffoaduriaid i safleoedd Cadw sydd â thâl mynediad, wedi cael ei ymestyn tan 31 Mawrth 2024.

Cynllun Teithio am Ddim i Ffoaduriaid ar Fysiau Cymru ‘Tocyn Croeso’: telerau ac amodau