Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am sylwadau ar reoliadau a chanllawiau drafft ar gyfer cytundebau partneriaeth dreftadaeth yng Nghymru.

Diwygiodd Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 ddeddfwriaeth bresennol yr amgylchedd hanesyddol i gyflwyno cytundebau partneriaeth dreftadaeth yng Nghymru. Mae'r cytundebau hyn yn drefniadau gwirfoddol ar gyfer rheoli henebion cofrestredig ac adeiladau rhestredig yn y tymor hir a gaiff eu negodi rhwng perchnogion, awdurdodau cydsynio a phartïon eraill â diddordeb.

Yr hyn sy'n hollbwysig yw y gall cytundeb partneriaeth dreftadaeth gynnwys caniatâd adeilad rhestredig a/neu heneb gofrestredig er mwyn cynnal rhaglen waith y cytunwyd arni yn ystod oes y cytundeb, a all bara cyhyd â 10 i 15 mlynedd.

Mae cytundebau partneriaeth dreftadaeth yn darparu'r sail ar gyfer dull cynhwysfawr a chyson o reoli henebion cofrestredig ac adeiladau rhestredig, boed wedi'u lleoli gyda'i gilydd ar un ystâd neu wedi'u gwasgaru ar draws un neu fwy o ardaloedd awdurdod lleol.

Bwriad y canllawiau drafft yw helpu perchnogion ac awdurdodau cydsynio i ddeall manteision posibl cytundebau partneriaeth dreftadaeth a'u cefnogi nhw i ddatblygu cytundebau.

Mae'r rheoliadau drafft yn nodi'r ymgynghori a'r cyhoeddusrwydd sy’n gorfod rhagflaenu sefydlu neu amrywio cytundeb partneriaeth dreftadaeth a'r mecanwaith ar gyfer terfynu cytundeb drwy orchymyn awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru.

Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus deuddeg wythnos, sy'n gofyn hefyd am sylwadau ar yr asesiadau effaith rheoleiddiol ac integredig ar gyfer y rheoliadau, yn cau ar 12 Ebrill 2021. Mae'r dogfennau ymgynghori a'r cyfarwyddiadau llawn ar sut i ymateb ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Ar ôl cwblhau'r ymgynghoriad a dadansoddi'r ymatebion, gobeithiwn y bydd modd gweithredu'r rheoliadau terfynol yn gynnar yn nhymor y Senedd newydd a dod â chytundebau partneriaeth dreftadaeth i rym yn llawn yng Nghymru yn fuan wedyn.

Cytundebau partneriaeth dreftadaeth: rheoliadau a chanllawiau