Darganfyddwch “Wlad y Gân” drwy dreftadaeth adeiledig Cymru
Pum adeilad rhestredig a helpodd i lunio ein hanes cerddorol
Yn ôl Huw Morgan o’r clasur o ffilm, How Green Was My Valley, yn yr 1940au, “mae canu ym mhobol Cymru, fel y mae golwg yn y llygad” — ac mae’n wir. Yn wir, gellir olrhain perthynas gref a melodaidd Cymru â cherddoriaeth cyn belled yn ôl â’r 6ed ganrif.
Fodd bynnag, yr hyn sy’n llai hysbys efallai yw pa mor ddwfn y mae cerddoriaeth wedi treiddio waliau treftadaeth adeiledig Cymru. O lefydd a oedd yn gartref i feirdd a chyfansoddwyr, i fannau a ysbrydolodd rai o anthemau mwyaf adnabyddus Cymru — dyma bum adeilad rhestredig sydd â stori gerddorol i’w hadrodd i ddathlu Dydd Miwsig Cymru (5 Chwefror).
- Cofeb i Evan a James James, Rhondda Cynon Taf
Beth am ddechrau gydag un o’r darnau mwyaf enwog o gerddoriaeth Gymreig erioed: Anthem genedlaethol Cymru, Hen Wlad Fy Nhadau.
Cyfansoddwyd yr anthem yn 1856, a magodd fomentwm drwy berfformiadau mewn Eisteddfodau, cyn ennill bri cenedlaethol ar ôl cael ei chanu gan dîm rygbi Cymru mewn ymateb i’r Hakka gan Seland Newydd yn 1905.
Yr enw Saesneg arni yw Land of my Fathers, a chyfansoddwyd yr anthem boblogaidd gan y tad a’r mab, Evan a James James.
Codwyd cofeb i’r ddau gyfansoddwr enwog yn eu tref enedigol, Pontypridd, yn 1930. Wedi’i rhestru yn 2001, mae’n cynnwys dau ffigur efydd mewn mentyll Celtaidd; dyn yn dal telyn i gynrychioli cerddoriaeth, a dynes yn cynrychioli barddoniaeth.
Gwrandewch ar y fersiwn answyddogol o’r anthem genedlaethol, a berfformir gan Geraint Jarman
Cydnabuwyd fel adeilad rhestredig Gradd II*: mis Chwefror 2001
© Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
2. Gorsaf Drenau Ceiriog, Powys
Heddiw, mae’n anodd dychmygu anthem genedlaethol Cymru fel unrhyw beth heblaw Hen Wlad fy Nhadau, ond yn oes Fictoria, cafodd rywfaint o gystadleuaeth.
Perfformiwyd Ar Dywysog Gwlad y Bryniau gyntaf yn Eisteddfod Caernarfon yn 1862. Cyfansoddwyd ei geiriau gan y bardd a’r casglwr alawon gwerin Cymreig enwog, John ‘Ceiriog’ Hughes.
Er na chafodd ei eiriau i’r dôn hon erioed yr un ganmoliaeth ag anthem genedlaethol Cymru, cafodd gweithiau eraill ganddo fwy o lwyddiant — ei fersiwn o Dafydd y Garreg Wen gan David Owen oedd y gân Gymraeg gyntaf i gael ei chwarae ar y radio, erioed.
Bu Ceiriog yn gweithio fel meistr gorsaf yng Ngorsaf Drenau Llanidloes — gorsaf bwysig a wasanaethai canolbarth Cymru, Manceinion, Aberdaugleddau a’r Drenewydd — sydd ers hynny wedi ennill statws rhestredig.
Gwrandewch ar Dafydd y Garreg Wen yn cael ei pherfformio gan Rhys Meirion
Cydnabuwyd fel adeilad rhestredig Gradd II: mis Mehefin 1975 (diwygiwyd gan Cadw ym mis Ebrill 1989)
© User:Cls14 / CC BY-SA 3.0, trwy Wikimedia Commons
3. Man geni Joseph Parry, Merthyr Tudful
O ddechreuad digon cyffredin yn y pyllau glo, yn naw oed, i fod yn un o raddedigion Prifysgol Caergrawnt ac yn athro cerdd, dechreuodd bywyd Joseph Parry yn 4 Heol y Capel, Merthyr Tydful
Ni ddaeth ei ddawn gerddorol i’r amlwg tan ar ôl i’w deulu ymfudo i Pennsylvania yn UDA, lle y gwnaethant ymgartrefu mewn cymuned fawr Gymraeg ei hiaith. Cymerodd Joseph Parry waith ar safle gwaith haearn ac, yn ystod cyfnod o fod ar gau dros dro, dysgodd sut i ddarllen cerddoriaeth gan ei gyd-weithwyr cerddorol.
Fe wnaeth y llwyddiannau dilynol mewn Eisteddfodau ennill dwy ysgoloriaeth iddo a noddi ei radd mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caergrawnt, ac yna daeth yn Athro Cerdd cyntaf Prifysgol Aberystwyth yn 1874, cyn derbyn swydd ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae 4 Heol y Capel nid yn unig yn cael ei gydnabod fel adeilad rhestredig Gradd II, ond mae hefyd yn amgueddfa sy’n dathlu bywyd a chyflawniadau Joseph Parry.
Cydnabuwyd fel adeilad rhestredig Gradd II: mis Awst 1975 (diwygiwyd gan Cadw ym mis Ionawr 1988)
© Jaggery / Bwthyn Joseph Parry, Chapel Row, Merthyr Tydfil / CC BY-SA 2.0
4. Y Tŷ Peiriant a Thŵr y Croniadur, Llanelli
Yr enw ar Lanelli ar un adeg oedd ‘Tinopolis’, a hynny oherwydd bod sosbenni a chynnyrch tun yn cael eu hallforio oddi yno i bedwar ban y byd.
Heddiw, mae’r tŷ peiriant, tŵr y croniadur, y tŷ boeler a’r sied cynnal a chadw —a oedd unwaith yn pweru gatiau’r dociau ac yn cynnal y peiriannau a’r stoc rowlio — yn rhai o ddim ond ychydig ddarnau o dystiolaeth sydd wedi goroesi o ran maint a goruchafiaeth diwydiant tunplat Llanelli yn yr 19eg ganrif.
Darn arall llai diriaethol o dystiolaeth o ran arwyddocâd y diwydiant tunplat yn Llanelli yw Sosban Fach — tôn boblogaidd ymhlith gweithwyr diwydiant tunplat de Cymru. Heddiw, mae’n cael ei chysylltu â thîm rygbi’r Scarlets a gellir ei chlywed yn adleisio o amgylch y stadiwm ar ddiwrnodau gêm.
Gwrandewch ar Sosban Fach yn cael ei pherfformio gan Cerys Matthews
Cydnabuwyd fel adeilad rhestredig Gradd II: mis Chwefror 1986 (diwygiwyd gan Cadw ym mis Mawrth 1992)
© Alan JR Clements / CC BY-SA 2.0 UK trwy British Listed Buildings
5. Ffermdy Pantycelyn, Sir Gaerfyrddin
Cyfnod arwyddocaol ym mherthynas Cymru â cherddoriaeth yw’r Diwygiad Methodistaidd yn y 18fed ganrif. Un o brif ffigurau’r mudiad hwn oedd y pregethwr William Williams, neu Williams ‘Pantycelyn’ — fe’i llysenwyd ar ôl ei hen gartref a’r ffermdy sydd bellach yn rhestredig.
Yn dilyn troëdigaeth i Fethodistiaeth Efengylaidd, defnyddiodd Pantycelyn ei ddawn barddoni i ysgrifennu emynau, gan ennill iddo’r teitl ‘Y Pêr Ganiedydd’. Cafwyd perfformiad o’i waith mwyaf adnabyddus, Arglwydd, arwain trwy’r anialwch (Guide me o thy great redeemer), ym mhriodas y Tywysog Harry a Meghan Markle yn 2018.
Bu Williams yn byw yn y ffermdy tan ei farwolaeth yn 74 oed ac mae’r lle wedi aros yn nwylo’r teulu ers hynny.
Gwrandewch ar Arglwydd, arwain trwy’r anialwch, yn cael ei pherfformio gan Mary Lloyd-Davies
Cydnabuwyd fel adeilad rhestredig Gradd II*: mis Tachwedd 1951 (diwygiwyd gan Cadw ym mis Chwefror 1999)
© Llyfrgell Genedlaethol Cymru 2021, Trwydded Archif Greadigol