Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Mae’r flwyddyn hon yn garreg filltir bwysig i Cadw wrth iddo ddathlu ei ben-blwydd yn 40 oed. Bydd yn parhau â’i genhadaeth i ofalu am lefydd hanesyddol Cymru, gan ysbrydoli cenedlaethau heddiw a chenedlaethau’r dyfodol i gysylltu â threftadaeth ddiwylliannol gyfoethog y genedl.

Ers ei sefydlu yn 1984, mae Cadw wedi croesawu dros 50 miliwn o ymwelwyr o bob cwr o’r DU a’r byd i’w henebion hanesyddol yng Nghymru. Erbyn hyn, mae dros 30,000 o adeiladau hanesyddol rhestredig, dros 4,200 o henebion hanesyddol gwarchodedig, bron i 400 o barciau a gerddi hanesyddol cofrestredig a phedwar safle Treftadaeth y Byd.

Mae Cadw yn uniongyrchol gyfrifol am ofalu am dros 130 o henebion hanesyddol gan gynnwys cestyll canoloesol, abatai, safleoedd diwydiannol, henebion Rhufeinig a chynhanesyddol fel beddrodau siambr neolithig, gan sicrhau bod ymwelwyr yn gallu parhau i fwynhau’r lleoliadau ysblennydd hyn nawr ac am flynyddoedd i ddod. Yn ddiweddar, mae Cadw wedi ychwanegu Llys Rhosyr a Chastell Caergwrle – mannau eiconig sy’n gysylltiedig â Thywysogion Cymru.  

Mae henebion Cadw hefyd yn atyniadau o’r radd flaenaf i ymwelwyr ac maent wedi cael lle amlwg mewn nifer o ffilmiau, cyfresi teledu a fideos cerddoriaeth gan gynnwys The Crown, Doctor Who, Lady Chatterley’s Lover, a fideo i’r gân ‘Can I Play With Madness’ gan Iron Maiden.

Mae wynebau enwog fel Syr Tom Jones, Richard Gere, Anthony Hopkins, Ellie Goulding, a David Haselhoff hefyd wedi ymweld â safleoedd Cadw dros y blynyddoedd diwethaf.

Dywedodd Gwilym Hughes, Pennaeth Cadw: 

“Wrth i ni ddathlu 40 mlynedd o Cadw, rydyn ni’n hynod falch o’n rôl yn gwarchod treftadaeth gyfoethog Cymru ac yn ymgysylltu ag ymwelwyr â’n henebion gwych.

“Mae ymrwymiad Cadw i gadwraeth, addysg a phrofiad ymwelwyr wedi sicrhau bod cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol yn gallu parhau i werthfawrogi a dysgu o’n trysorau hanesyddol. Edrychwn ymlaen at barhau â’r etifeddiaeth hon a chroesawu ymwelwyr o bob cwr o’r byd am flynyddoedd i ddod.”

Dywedodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol: 

“Rwy’n falch iawn o’r gwaith mae Cadw yn parhau i’w wneud i warchod ein treftadaeth genedlaethol werthfawr ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, fel y prosiectau cadwraeth uchelgeisiol sydd ar waith yn Nhyndyrn a Chastell Coch.

“Mae buddsoddiad Cadw i drawsnewid ein henebion hanesyddol yn atyniadau o’r radd flaenaf i ymwelwyr, fel Castell Caerffili a Chastell Caernarfon, yn hanfodol i’n rhanbarthau ac yn annog mwy o bobl i ymweld â’n henebion hanesyddol.”

I nodi’r garreg filltir, mae gan Cadw amserlen lawn o adloniant a gweithgareddau yn ei safleoedd ledled Cymru yr haf hwn a fydd yn arddangos popeth sydd ganddo i’w gynnig. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys penwythnosau sy’n seiliedig ar themâu hanesyddol lle bydd cyfle i ddatgelu trysorau canoloesol,  ysgolion marchogion ac ysgolion cleddyfau i blant, arddangosfeydd hedfan gydag adar rhyfeddol a gweithgareddau ar thema ffantasi fel ‘hyfforddi dreigiau’!

Mae aelodaeth Cadw yn cynnig mynediad am ddim i’r  holl ddigwyddiadau a mynediad diderfyn i dros 130 o leoedd hanesyddol ledled Cymru drwy gydol y flwyddyn, gan gynnig ffordd unigryw o archwilio treftadaeth gyfoethog Cymru. I deuluoedd sy’n awyddus i grwydro lleoliadau Cadw, mae plant yn mynd am ddim gydag unrhyw aelodaeth oedolyn.
Dyma gipolwg ar rai o gyflawniadau a cherrig milltir Cadw dros y 40 mlynedd diwethaf:

Cadw a Dathlu Treftadaeth Cymru

Ers ffurfio Cadw yn 1984, mae nifer yr adeiladau rhestredig wedi treblu i dros 30,000 ac mae nifer yr henebion wedi cynyddu o 2,700 i dros 4,200.

Bu Cadw yn cefnogi Gweinidogion Cymru i lunio hanes cyfreithiol Cymru pan gafodd Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 Gydsyniad Brenhinol a daeth yn Ddeddf gan Senedd Cymru. Roedd hyn yn sicrhau bod gan Gymru ei chyfraith ddwyieithog ei hun ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol am y tro cyntaf.

Fe wnaeth Cadw chwarae ran bwysig yn y gwaith o sicrhau arysgrif pedwar Safle Treftadaeth y Byd i Gymru – Cestyll a Threfi Caerog Brenin Edward yng Ngwynedd (1986), Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon (2000), Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte (2009) a Thirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru (2021).

Mae Cadw wedi buddsoddi degau o filiynau mewn gwarchod a buddsoddi yn yr henebion dan ei ofal, gan gyflwyno dehongliadau arloesol i ddod â henebion yn fyw i ymwelwyr. Mae prosiectau mawr wedi cynnwys canolfannau ymwelwyr newydd yng Nghastell Harlech a Chastell Dinbych, rhaglenni cadwraeth helaeth yn Abaty Nedd, Castell Coety, Castell Coch a Chastell Conwy, yn ogystal â phrosiectau ailddatblygu a chadwraeth arloesol yn Llys a Chastell Tre-tŵr.

Un o lwyddiannau cynharaf Cadw oedd achub, adfer a dehongli tŷ tref Plas Mawr yng Nghonwy, sydd bellach yn atyniad o fri i ymwelwyr ac yn un o’r enghreifftiau gorau o dŷ tref Elisabethaidd yn y DU.

Mae’r prosiect cadwraeth pum mlynedd bresennol i atgyweirio ac adfer meini tywodfaen Abaty Tyndyrn, sy’n 750 mlwydd oed, yn cynnwys cadw cofnodion manwl o’r gweddillion sefydlog a’r gwaith cloddio. Mae rhain wedi gwella ein gwybodaeth am hanes y safle yn sylweddol.

Mae Cadw yn trawsnewid caer ganoloesol fwyaf Cymru yng Nghastell Caerffili, gan gyfoethogi profiad i ymwelwyr yn y castell hwn o’r 13eg ganrif drwy adnewyddu’r Neuadd Fawr, buddsoddi £1 miliwn mewn cynllun dehongli newydd a chyflwyno canolfan groeso a chaffi o’r radd flaenaf.

Mae ‘Cadwraeth Cymru’, tîm mewnol Cadw o seiri cerrig arbenigol, seiri coed a syrfewyr, wedi treulio dros 408,000 o oriau dros y degawd diwethaf yn gwarchod henebion hanesyddol llai, mwy anghysbell ledled Cymru. Cawsant wobr Europa Nostra nodedig am waith cadwraeth 15 mlynedd yn Llys yr Esgob Tyddewi yn Sir Benfro.

Mae Cadw wedi darparu cyllid drwy ei raglenni Grantiau Henebion a Grantiau Adeiladu Hanesyddol i helpu perchnogion, ceidwaid a chymunedau i ymgysylltu ag adeiladau hanesyddol, henebion a safleoedd archaeolegol Cymru, gofalu amdanynt a’u cynnal ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Addysgu Cymunedau a Chroesawu’r Dyfodol

Mae ymdrechion Cadw i addysgu ac ymgysylltu â chymunedau ledled Cymru, yn enwedig y rheini o genedlaethau iau, wedi bod yn aruthrol, gan ddarparu dros 2,500 o ddigwyddiadau cymunedol a chroesawu hyd at 100,000 o ymweliadau addysgol bob blwyddyn i’r henebion dan ei ofal.

Mae mentrau fel y Ceidwaid Ifanc, lle mae Cadw yn cydweithio gydag ysgolion i ymweld â henebion a meithrin ymdeimlad o berchnogaeth, treftadaeth a pherthyn, yn wahanol ym mhob heneb – gan greu tapestrïau, cartwnau, astudio mathemateg, gwyddoniaeth, llenyddiaeth a sgiliau treftadaeth fel gwaith saer maen.

Mae creu’r Byd Cadw cyntaf yn Minecraft wedi chwyldroi sut mae plant yn profi treftadaeth Cymru, gan ddefnyddio realiti estynedig a realiti rhithwir i archwilio 20 o wahanol safleoedd Cadw. Dyma’r Minecraft Cymraeg cyntaf yn y byd.

Mae Cadw hefyd wedi mynd ati i godi ymwybyddiaeth o risgiau a chyfleoedd newid yn yr hinsawdd a’r angen i addasu, gan gyhoeddi’r Amgylchedd Hanesyddol a Newid Hinsawdd yng Nghymru:  Cynllun Addasu’r Sector ym mis Chwefror 2020, ochr yn ochr â chyfres o lyfrynnau canllaw yn cynghori ar addasu i helpu perchnogion adeiladau hanesyddol i baratoi eu hadeiladau’n well ar gyfer mynd i’r afael â heriau newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol.